Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

4& ¥ mmàM Rhif. IV. [Gellvr anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gettir.] Pris 2g. GORPHENAF 1, 1861. CYNNWYSIAD. Cynghanedd (Harmony) - Grammadeg Cerddoriaeth Geiriadur Cerddoriaeth - Celfyddyd Llais ac Arwest Helyntion Cerddorol y Brifddinaa - Gohehiaethau .... TJndeb Corawl Cymru Newyddion Cerddorol ... Adolygiad y Wasg - - - - Hysbysiadau..... Tudal. 25 26 27 28 29 30 30 31 31 32 y GERDDORIAETH, Anthem:—"Cbist BIN Pasc NI." Gan R. Davies, (Cyndeyrn), Llanelwy. Tôn:—" Sabbath." Cynghaneddwyd gan J. A. Lloyd. CYNGHANEDD (HARMONY). EBTHYGL II. Addawsom yn ein herthygl ddiweddaf brofì mai nid dyfais gelfyddydol ydy w cynghanedd, ond elfen sydd blanedig yn y natur. Fod cynghanedd yn elfen blanedig yn y natur, a ellir ei brofi oddi wrth argoelion (phenomena) sydd mewn natur. Ond cyn dechreu yn uniongyrchol ar yr argoel- ion hyn, ni a ymdrechwn, hyd y gallwn, egluro athron- iaeth y pwngc. Pan y mae unrhyw gorph seingar mewn cynnhyrfíad, y mae, nid yn unig y prif gynnhyrfiad, ond lliaws o rai adlawol (secondaries), y rhai a alwn cysseiniau {harmon- ics), ac a gynnyrchir gan natur ei hun, y rhai a safant yn yr un berthynas â'r prif gynnyrchydd (generator), ag y saif \, \, \, \, \, ], l, l, âg 1; hyny yw, pan y mae tant (neu bibell organ) mewn cynnhyrfiad, y mae yn rhanu ei hun i wahanol gyfundraethau (systems), y rhai a seiniant yn hollol annibynol y naill ar y lla.ll, ac â'r brif sainj etto,yn ffurfioun sain rymus a phennodol. Er mwyn i*r darllenydd gael perffaith foddlonrwydd i'w feddwl ei hun, bydded iddo wneud y prawf a ganlyn:— Tynhäed dant, &c, rhwng dau beg, fel o'r blaen, a thored ddarnau o bapur ar ffurf V yn wrthddodol (inverled)\ a doded y cyfryw bapurau yn fforchog am y tant: cymmered fwa, a thyned ef yn araf ar draws y tant, yn agos i un pen, hyd nes ei roddi mewn cyn- nhyrfiad; yna, caiff weled y marchogion papurawl hyn yn dechreu ymsymmud yn lled frysiog, a chiliant oddi ar ranau cynnhyrfiol (central segments) y tant,i'r lleoedd o orphwysdra sydd arno, y rhai a elwir pwyntiau gor- safoì (nodal points); ac y mae y pwyntiau gorsafol hyn yn sefyll yn yr un berthynas â'r tant ag y saif \, \, \, h h h h ô> ⣠*» fel °'r Dlaen- Felly, y mae'r tant yn ymranu, o leiaf, i naw o ranau, neu gyfundraethau, y rhai sydd yn dygrynu, yn gystal a seinio, yn hollol annibynol y naill ar y Uall, ac â'r prif gynnhyrfydd Çgenerator), ond etto, yn cael eu llyngcu i fyny gan yr uja prif gynnhyrfiad, a sain.1 Os ydyw yr efrydydd wedi astudio yr erthygl flaenorol, fe wel fod \ o'r tant yn gyfartal i C, yr wython; * i D, y 12fed, neu bum- 1 I ddefnyddlo mud-argoelion—yn ymdoniad y dwfr mewn ffos bengaedig, &c. med i'r wython; \ i C, yr ail wython; ^ i E, yr I7eg, neu 3ydd i'r ail wython; • i Gr, y 19eg, neu bummed i'r ail wython; ^ i Bfc, yr 21ain, neu seithfed lleddf (domi- nant seventh) i'r wython; > i C, yr 22ain, neu'r trydydd wython; J i D, yr 2fed i'r trydydd wython, neu nawfed i'r ail wython; neu mewn nodau cerddorol, fel hyn:— íî C E GBCD Dyma gynghanedd, fel y mae yn hanfodi mewn natur; ac fe wel y darllenydd fod i'w gael, nid yn unig y cord cyffredin—y 3ydd, 5ed, a'r wythfed—ond cord y seith- fed llywyddol (3ydd, 5ed, 7fed, &c.,), a'r cord nawfed mwyaf, c, e, g, b|î. d. Hefyd, y mae y ddwy arddull arbenigol sydd mewn cynghanedd yn yr eagbraifft uchod, sef y wasgaredig a'r ddwysedig (dìspersed and compressed harmony). ¥ mae'r arddull wasgaredig i'w chael o'r 1 hyd y J o'r tant; ac oddi yno i fyny y ddwysedig. I fanylu, y mae'r C, yr hon a gynnyrcha 64 cryniad mewn eiliad, yn cynnyrchu hefyd 2,828^ o gryniadau adlawol mewn eiliad; neu, i fod yn fwy dealiadwy, fel hyn:— C, y prif gynnyrchydd . 64 o gryniadau mewn eiliad- C, yr wython .... 128 G, y 12fed.....192 \ C, yr ail wython ... 256 E, yr 17eg.....320 G, y 19eg . . . . , 384 m yr 21ain.....460s C, y 3ydd wython. . .512 D, y 23ain.....576 Y cyfanswm ydyw 2,892^ o gryniadau mewn eil- iad, a gynnyrchir gan dant C=64. Dealled y darllen- ydd, y mae yr holl nodau uchod, yn cydseinio â'r brif sain; ond rhaid cael clust Ued ymarferol i'w gwahan- iaethu. Pe prin gyffyrddid, gyda'r bys a'r fawd, bwyntiau gorsafol y tant, yn enwedig y *, ^ * o hono, ceir eu clywed yn llawn mor eglur a'r brif sain; canys y mae hyny yn peri ysgogiad chwanegol i'r cryniadau adlawol (stcondary vibrations). Y mae yr un egwyddor i'w chaní'od yn mhibell yr organ: ymuna yn holloífel y gwna y tant. Ac fel y mae prif sain yr organ yn gryf- ach, mewn cymmhariaeth i eiddo y delyn neu'r crwth; felly y mae'r cysseiniau yn fwy eglur a dealladwy. Hefyd.cynnyrchir y cysseiniau yn yr offerynau chwyth, megys yr eddgorn (trombone), soddudgorn (ophickidé)f telgorn (hautboy), udgorn (trumpei), &c, y rhai, jdrwy ychydig gyfnewidiad yn y chwythiad (sylwer, nid