Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Rhif. 15. GORPHENAF 15, 1833. • Cyf.II. DECHREUAD A CHYNYDD Y GELFYDDYD O YSGRIFENU. YSGRIFEN yw'r gelfyddyd nesaf i barabl, a'r fwyaf defhyddiol a fedd dynolryw. Gwellád yw ysgrifen ar barabl, gan hyny rbaid ei bod yn ddiweddarach o ran trefh amser. Nid oedd dynion yn y dechreuad yn meddwl dim mwy nag am drosglwyddo eu meddyl-ddrychau i'w gilydd tra byddent yn bresenol, trwy offerynoliaeth seiniau neu einau y rhai a draethent. Wedi hyny dyfeisiwyd y drefh hon, fel y gallent gydymddiddan pan fydd- ent absenol, trwy nodau neu lythyrenau i'r llygaid syllu arnynt, yr hyn a elwir ysgrif- enyddiaeth. Y mae dau fath o 1 ythyrenau ; naill ai arwyddion am bethau, neu arwyddion am eiriau. Yr arwyddion am bethau, ydyw yr arwyddluniau a arferid gan yr hynafìaid ; yr arwyddion am eiriau, yw y llythyrenau a arferir gan yr holl Europiaid. Darlun- iadau, yn ddiamheuol, oedd yr ymgais cyntaf a wnaed at ysgrifenu ; ac fel y mae dynolryw wrth natur yn hoffi gwneuthur dynwarediad o bethau, cyraeddwyd rhyw foddion yn mhob oes, yn mhlilh pob cenedl, i wneuthur tebygolrwydd i wrth- rychau teimladwy. Arferid y moddion hyny yn union-gyrchol g»n ddynion er rhoddi rhyw bysbysiad anmherfFaith i ereill, oeddynt yn 'mhell oddiwrthynt^ o'r hyu a ddygwyddodd ; neu er cadw cofìà- dwriaeth o weithredoedd a ewyllysient eu cofnodi. Yn debyg i hyn,—er dangos fod y naill ddyn wedi cael ei ladd gan y naill, gwnaent lun dyn marw wedi ymestyn ar ei hyd ar y ddaear, a dyn arall yn sefyll )rn ei ymyl â gwaewfîbn yn ei law. Pan ddar- ganfuwyd yr Amerig gyntaf, dyma yr unig ddull o ysçrifenu ydoedd adnabyddus yn nheyrnas Mecsico. Trwy ddarluniadau hanesiol y trosglwyddodd trigoliou Mecsico hanesion mwyaf pwysig eu hymerodraeth i'w holafiaid. Rhaid mai anmherfíàith hynod oedd ycoffadwriaethau hyn; a rhaid mai pur anghelfydd oedd y cenedloedd na feddent unrhyw foddion ereill. Nis gellid drwy ddarluniadau wneyd dim ychwaneg na dangos dygwyddiadau allanol. Nis gallent osod allan eu cysylltiadau, na dangos y pethau oeddynt anweledig i'r llygaid, na throsglwyddo unrhyw feddyl- ddrychau na geiriau dynion. Ër cyfîenwi i ryw radd y diffyg hwn, dyfeisiwyd mewn amser yr hyn a elwir y llytiiyrenau arwyddluniol; yr hyn a ellir ei ystyried yn ail ansawdd ysgrifenyddiaeth. Arwyddluniau sy'n gyunwysedig mewn nodau hysbys, y rhai a wnaed i osod ger bron wrthrychau anweledig, o herwydd y cyfTélybrwydd neu'r tebygolrwydd a dyb- ygid íod yn yr arwyddion i'r gwrthrychau eu hunain. Fel hyn gosodent lygad yn nod arwyddluniol o wybodaeth; modrwy ydoedd arwyddo dragywyddoldeb, yr hon na fedd na dechreu na diwedd. Arwydd- luniau, gan hyny, ydoedd ddull i baentio mewn modd helaeüiach a mwy gorphenol. Trwy ddarluniadau daugosent wrthrychau anweledig (megis tragywyddoldeb trwy lun modrwy) trwy debygrwydd a gymer- wyd oddiwrth y byd allanol. Yn yr Aifft yr astudiwyd fwyaf ar y dull hwn o ysgrif- enu, ac yno y dygwyd ef yn gelfyddyd rcolaidd. Mewn arwyddluniau y tros- glwyddid holl ddoethineb ffrostgar yr off- eiraid. Cytunent ar anifeiliaid i fod yn arwyddluniau yn ol y rhinweddau neu'r ansoddau a briodolent iddynt. Anniolch- garwch a osodid allan trwy lun gwiber; annoethineb trwy lun gwybedyn; doeth- ineb trwy lun morgrugyn; a dyn, cym- deithas yr hwn yn gyffredinol a wrthodid.