Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Rhif. 14. MEHEFIN 15, 1833. Cff. II. IINNJEÜS YR ANIANYDD. LINNiEUS, mab heuaf Nils Linnseus, duwinydd Swedenaidd, a aned Mai 24ain, 1707, yn Rashult, yn ardal Smo- land. Ei duedd at yr efrydiau, yn y rhai, wedi hyny, y rhagorodd gymaint, a ddechreuodd pan oedd ond ieuanc, yr achlysur canlynol a'i tueddodd i hyny:—ei dad a arferai ddifyru ei hun yn ei ardd mewn meithrin- iad planhigion a blodau. Linnseus pan yn faban a arweinid yn fuan i gymeryd rhan yn yr hyfrydwch; a chyn ei fod braidd yn alluog i gerdded arwyddai ei fawr fodd- lonrwydd pan ganiatëid iddo gy-ymdeithio â'i dad i'r ardd. Fel y cyunyddodd ei nerth, ymhyfrydai mewn cloddio a phlanu. Yna mwynäodd, at ei wasanaeth ei hnn, ran fechan o dir, yr hon a elwid gardd Charles (canys Carl. von Linnè ei gelwid gartref). Yn fuan dysgodd wahaniaethu gwahanol flodau, a chyn cyraedd ei ddeng mlwydd oed, gwnaeth daith fechan yn nghymraydogaeth Eashult, a dygodd am- rai blanhigion brodorol idd ei ardd bach. Anfonwyd ef yn 1717 i'rysgol i \Vexio, dan ofal athrawaidd Lanarius, gan yr hwn ei goddefid, drwy ganiatâd, i baràau ei deithiau; treuliai ei" holl amser i gasglu planhigion, siarad am danynt, gwneyd ei hun yn adnabyddus â'u henwau a u han- soddau. Llyncid ef mor Iwyr gan yr hofí olrheiniad hon, fel ag i hollol ddiofalu am ei efrydiau ereill. Ei dad gan farnu nad oedd archwaeth ynddo at ddysgeidiaeth,a benderfynodd ei rwymo i ddysgu y gelfyddyd o gryddjaeth, yr hyn a gymerasai le pe na buasai i feddyg- yddo'rgymmvdogaeth,n elwid Rothman, yr hwn a ryfeddai at atlirylith y bachgen, ragfynegi y gallai mewn amser ddyfod yn enwog yn y wyddawr i'r hon yr ymddang- osai o natur mor dueddol. Y syllydd craff hwn wedi darbwyllo tad Linnseus i barâau addysg ei fab, a gymerth y bachgen idd ei dŷ ei hun, a'i diwallai â llyfrau llysieuol, ac a'i haddysgai yn eg- wyddorion cyntaf meddyginiaeth, yn yr hyn yn fuau y bu iddo gynnyddu yn fawr. Yn 1727, anfonwyd ef i brif athrofa Lund, lle, dan y clodfawr Stobaeus, y cyr- aeddodd egwyddorion desebol cyntaf ys- dori noturiol. Lletyai yn nhŷ yr athraw, lle y mwynâai lawer o arfodau er ei gyn- nydd; aè yn enwedig oddiwrth gasgliad cywrain o adwyni, masgl, blagur, a phlan- higion. Yn 1728, symudwyd ef i brif athrofa Upsala, lle, ar y cyntaf, y dyrysai ei gyfyng amgylchiadau ef mewn cyfyngderau anor- fodol i olrheiniad gwyddorol; er hyny, ni rwystrid ei ymegn'iadau arferol. O gylch y pryd hyn y dechreuodd drefnu ei fyfrfa lysieuol (Biblicctheca Botanica), eí ddos- parthiadau (classes), a rhywiau planhigiou (gcnera plantarium); Ue y gallwn gasglu pa foreued y sefydlodd egwyddorion y drefn hòno, yr hon wedi hyny a ddygodd i'r fath berffeithrwydd. Mai lleg, 1732, cychwynodd ei daith i Lapland, í'rhon ei penodasid gan Gym- deithas Freninol y Gwyddorion yn Upsala, mewn trefn i chwilio ysdori noturiol y fro anadnabyddus hòno. Ond gan na dder- byniasai ond oddeutu wyth bunt o obrwy tuag at ddwyn ei draul, gorfu iddo deithio braidd yr holl ffordd ar ei draed, yr hyn a wnaeth gyda bywiogrwydd. Yn y daith hon arosodd betli amser yn mwn gloddiau Fahlain; yrawelodd ag amrai ranau o Lap- land ; goddefodd lawer o gyfyngderau, di- an<-odd o lawer o beryglon bygythiadol, ac a ddychwelodd i Upsala yn mis Hydref y flwyddyn ganlynol, wedi cylchdeithio tua