Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Rhif. 12. EBRILL 15, 1833. Cyf. II. BYWYD JOHN HOWARD, YSWAIN. AT OLYGWR Y TYWYSOG. Dyma i'r eiddot dalfyriad o Fywyd yr anfarwol Jobn Howard, Yswain ; gŵr 7 bydd ei glod mor anrhydeddus i'r oesoedd a ddaw ag ydyw yr awr hon. Dymunol, efallai, fyddai y cyfryw yn y Tywysog, ac os i'e, rhodder ef o fewn ei lywodraeth. Waunfawr, Chwefror 1, 1833. 0. W. GANWYD J. Howard yn yflwyddyn 1727, yn Enfield, gerllaw Llundain. Ei dad a gynyddodd yn y byd i raddau helaeth drwy fasnachyddiaeth, ac a roddodd ei drafferthion bydol heibio, gan fyw yn ẃr boneddig; ac ychydig cyn ei farwol- aeth, ganwyd iddo yr enwog John Iloward. Ond yn ol ewyllys ei dad, nid oedd i fwynhau ei etifeddiaeth cyn iddo gyraedd ei 25 oed. Wedi ei ddygiad ysgoleigaidd i fyny, rhwymwyd ef yn siopwr, yn Llun- dain, eithr ei gyneddfau oeddynt yn dra gwahanol a thra anmhriodol i'r sefyllfa hòno; ac ynoleiddyfod i'woed,prynodd ei hun o'i rwymiad,ac yn ddioed ymwelodd á Ffraingc a'r Idal. Yn ol iddo ddyfod adref, bu fyw fel dynion oedd o olud ac amser, ond nid heb ddarllen a myfyrio, ac ymestyn yn y celfyddydau. Gyda hyny, ymroddodd i wella ei iechyd drwy fyned i fyw i'r wlad, ac wrth rëol lem, ar ymborth rhëolaidd, gan ddibrisio pob math o ddan- teithion. Yn 25 oed, priododd wraig o oedran trwm,eto, yn ddoeth a rhinweddol, ond nid hir y bu hi byw, ac ar ol ei mar- wolaeth yr oeddei ala'r ynddwys,a'i henw a barchai tra y bu efe byw. Yn mhen amser, priododd wed'yn ag un oedd gyf- oesol iddo, yn nghyfeillach yr hon, medd ef, y cafodd yr hyfrydwch daearol mwyaf yn ei' holl fywyd ; canys yr oedd hi yn addfwyn, hawddgar, ac yn gyfranog o bob rhinwedd priodol i'w rhyw. Holl dylodion y wlad lîe yr oedd a'i carai; ac ar ei holl diroedd adeiladai fwth- ynod tlysion, a gofalai ar i'w denautiaid eu cadw yn lân, ac i'r tylodion oedd ar ei diroedd yn byw, gael digon o waith. Ym- welai â hwynt oll yn eu clefydau; a gofalai i ddwyn eu holl blant i fyuy yn yr yígolion ar eidraul ei hun Yr oedd ammod rliyngddo â'i dyddynwyr a phawb oedd dan ei ofal rhag myned i gwrw na gwin deiau; ac yr oeddynt oll i fyned i ryw le o addoliad a ddewisent, canys ei ofal oedd ar iddynt oll addoli yn oleu cydwybodau; ac ni fynai ar un cyfrif iddynt fod o'r un grefydd ag ef, oddieithr fod cydwybod yn unig yn eu hanog, ac os byddant, ni ed- rychai arnynt yn ddim amgen na'r rhai oedd o grefydd wahanol iddo. Yr oedd er yn foreu o duedd grefyddol, a gwnaeth lawer o gynnorthwy i'r cyfryw achos, ond byth ni chyfyngai ei roddion i un blaid mwy na'u gilydd; ac yr oedd ei haelioni agos yn ddiderfyn. Sefydlodd llawer o ysgolion rhad yn ei fywyd. O ran ei gref- ydd cyfrifid ef yn Annibynwr, ac os na