Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Rhif. 11. MAWRTH 15, 1833. Cvf. II. YR ARGLWYDD TRWY EIYSBRYD YN AGOR Y GALON. ACTAU XVI. 14. " A rhyw wraig a'i henw Lydia, un yn gwerihu porphor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn adrioli Duw, a wrandawodd ; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul." YMAE y cyndestyn yn hysbysu i ni y modd y darfu i'r Arglwydd wahardd Paul a'i gyfeillion i fyned i Bithynia, yn Asia, oherwydd fod ganddo waith mawr i'w genadon i'w gýflawni yn ngwlad fawr Macedonig, yn Èwrop. Wedi i'r Apostol gael cyfarwyddyd mewn gweledigaeth i fyned trosodd i Macedonia, y mae efe a'i gyfeillion yn gadael Troas; ac yn myned yn uuion i Samothracia, a thrannoeth i Neapo- lis, ac oddiyno i Philippi, yr hon sy brif ddinas o barth o Macedonia, dan lywodr- aeth y Rhufemiaid. Wedi i Paul a'i gyf- eillion aros yn y ddinas ddyddiau rai, hwy a aethant ar y dydd Sabbath i'r tý gweddi, yr hwn oedd ar làn afon Strymon, Ue y byddai yr Iuddewon, a'r proselytiaid, yn ymgyniiull i addoli; am nad oedd gau- ddynt synàgog yn y ddinas. Yn ol cyf- lawni eu haddoliad í'r Arglwydd fe eistedd- odd Paul a'i gyfeillion, ac a ddechreuasant ymddiddan â'rgwragedd, y rhai oeddynt y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa, oedd wedi dyfod yno i addoli, ac yn eu plith yr oedd yno un o'r Cenedloedd a'i henw Lydia, yr hon tuag at ei chynhaliaeth oedd yn gwerthu lliw porphor, neu sidan o'r lliw hwnw; a brodores oedd hi o ddinas y Thy- atiriaid, yn Asia leiaf, ond ei bod wedi symud i Philippi, ac yn bywyno. Yroedd y wraig hon wedi ei dychwelyd at y gref- ydd luddewig, ac yn addoli yn alUmol y gwir Dduw, etto, yr oedd ei chalon heb er chyfnewid, ac yn Ìlawn rhagfarn yn eibyn yr efengyl; ond fe welodd Duw o'i ras a'i drugaredd, tra yr oedd hi yn gwrandaw ar Paul a'i gyfeillion yn llefaru gwirioneddau grasol yr efengyl, weithredu trwy ddylan- wadau grasol a dirgelaidd ei Ysbryd, gyf- newidiad yn ei chaìon, ag a fu yn effeithiol o'i dwyn i' ddal yn ystyriol ar y pethau yr oedd Paul yn eu llefaru, i'w derbyn trwy ffydd i'w chalon, eu cadw a'u gwneuthur, a'i gwir ddychwelyd at yrArsîlwydd. Mae geiriau y testyn yn cynnwys y gosodiadau canlynol:— I. Fod calon pechadur wrth natur yn gauad yn erbyn gwirioneddau yrArglwydd. Oni buasai fod calon Lydiayngauedigyn erbyn pethau grasol yr efengyl ag oedd Paul yn eu llefaru, ni buasai un angen- rheldrwydd am i'rArglwyddagoreichalon. Ni a sylwn yma, 1. Pa beth a ddëallir wrth y gair calon yn y testyn. Mynych y sonir am y galon yn yr ysgrythyrau; fe grybwyllir am dani mewn tair ystyriaeth. 1. Sefyllfa. neu an- sawdd wreiddiol yr enaid, yn flaenorol i bob gweithrediad; "A rhoddaf i chwi galon newydd," hyny yw, egwyddor neu anian newydd, Ezec. xxxxvi. 26. 2. Gwa- hanol gynneddfau, neu alluoedd yr enaid. Y dëall, " Ephraim sy fel colomen ynfyd heb galon," sef, heb ddëall, Hoseavii. 11. Yr ewyllys, " Yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon," sef, yn ewyllysgar a diragrith, Eph. vi. 6. Ý serchiadau, "Ceriyr Ar- glwydd dy Dduw â'th holl galon," sef, y