Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Riiif. 9. 10NAWR 15, 1833. Cyf. II. DECHRETJAD BLWYDDYN. |YWED y gwr doeth mai "Un gen- ' hedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw;" felly y gallwn ninau ddy- wedyd,un flwyddyn a a ymaith a blwyddyn arall a ddaw ; a chawsom ni yr hyfrydwch o weled diwedd y flwyddyn 1832 a de- chrenad lion. Llawer o gyfnewidiadau— damweiniau—clefydau—marwolaethau— gofidiau—a hyfiydwch, a gyfarfu meibion dynion ar y llawr yn ystod y flwyddyn a aeíîi heibio. Y mae pob blwyddyn o'n hoes yn gymysg o'r pethau hyn oll, oblegyd " Duw a wnaeth y naill ar gyfer y llall," h. y., nid ydyw pob dyn yn mwynhau hyfrydwch, nac yn dyoddef gofid ar yr unwaith; gall fod un a'i gwpan yn llawn liyfrydwch heddyw, ac un arall yn yfed wermod yn ei ymyl—un dan lwytíi o ofid a thristwch, un arall yn canu o lawenydd calon—angau wedi ymweled ag un teulu, a symud y cadarnaf o honynt i'r bedd distaw, Uawenydd am eni dyn i'r byd, efallai, mewn teulu arall—un yn cael ei boeni drwy fod tylodi a'i wyneb anghroes- awoar wedi dyíod i ymweled ag ef, un arall yn Uawenhau a llawenydd annhraeth- adwy, o herwydd cael ei wneud yn fedd- iannol ar gyfoeth lawer—un yn anturio ei gyfoeth ollar fwrdd ei lestr i nofio y weilgi, ac er cynddaredd y tònau a nerth y dym- hestl, yìn cyraedd y porthladd dymunol yn ddiogei a Hwyddiannus; un araìl yn dychwelyd o'i fordaith a'i hwylbreni wedi dryliio, eu hwyliau wedi eu darnio, ei lestr wedi ysigo, ei angorionwedi colü, ei lwyth wedi ei daflu dros y bwrdd, ac yntau a'i ddwylaw oll wedi cael cymaint o'waith ac ymdrech i gadw eu heinioes ag a allent wneud. Cyfnewidiadau mawrion mewn teyrnasoedd a ddygwyddasant—rhyfel yn tòri allan fel tân gwyllt mewn gwìad—rhag- luniaeth rywfodd wedi hyny yn ei ddiífodd •—y marchgwelwlas yn tramwyarhyd parth- au o'n teyrnas, acyn mathru ei filoedd dan ei draed, dychryn ac arswyd yn Uenwi calonau rhag dyoddef mawr bwys ei gamrau call- estraidd ; ì'e, yr oedd hyd yn nod Dyffryn Clwyd hyfryd, a glanau Menai hardd, wedi syrthio yn ysglyfaeth i'w ddigofaint: trwst cynhyrfus saethau picellawg angau, a'i fyddin gref, yn rhuthro fel dylif o lif- eiriant anorfod dros y wlad—cymylau duon yn ymdewychu ac yn cuchio uwch ben llawer ardal, nes yr oedd ofn y bedd, ac arswyd cnofcydd angerddawl yr haint dy- chrynllyd yn mron a llethu calon y dewr a'r calonog—liawer mam anwyl a hofl' a fwriwyd i'w bedd mewn moment—Uawer brawd a chwaer a gludwyd i dŷ eu hir gartref yn mlodau eu hoes—cyn braidd y caent hamdden i ddyweyd eu bod yn nghafael y clefyd, byddai eu hamrantau wedi agor ar ddorau anfarwoldeb. Brenin y dychryniadau ywangau bob amser, eithr yn y flwyddyn ddiweddaf yr oedd mwy o ddychrynféydd yn ei ymddangosiad nag a welodd nemawr lygad" yn Nghymru erioed •—dyn gyda ei deulu yn iach yn y bore, yn cael ei gludo ar yr elor-gerbyd i'r bedd tywyll cyn y nos—a chymaint oedd yr ar- swyd a feddiannai bob cnawd, fel mai prin y gallai y perthynasau agosaf weinyddu y gymwynas olaf i'r trengedigion : gwelid eíor-gerbydau yn myned drwy heolydd lieb neb gyda'r cyrff, ond y swyddogion, i wneud arddeliad o honynt: pawb yn ffoi am ei fywyd, fel pe buasai pob perthynas yn ol y cnawd wedi darfod drwy'r tir, a dynion wedi tyfu o'r ddaear fel glaswellt, neu goed y maes; ond yn nghanol ein