Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Rhif. 8. RHAGFYR 15, 1832. Cvf. I. CLEOBULUS YR ATHRONYDD. CLEOBULUS ab Efagorus, o hiliog- aeth Herculus, a anwyd yn Lindus, arfordref yn Ynys Rhodes, man y blodeuai yn nheyrnasiad Craesus, brenin Lydia, yd- oedd y diystyraf, ond y dedwyddaf, yn mysg y doeüiion. Arddangosai arwyddion gwybodaeth orhelaeth o'i faboed ; ydoedd brydferth ragorol, a'i gryfder yn rhyfeddod. Treuliai ei werydd mewn teithiau yn yr Aipht, er dysgu athronyddiaeth, yn ol arferiad yr amser hyny. Gwedi ei ddych- weliad, ymbriodai â bun rinweddus, a bywiai yn ddedwydd gyda'i deulu. O'r ymuniad hwn, daethai y glodwiw Cleobu- lina, yr hon a gyraeddai i gymaint gwybod- aeth, mal ag y dyrysai yr athronyddion rhagoraf ei hoes, yn enwedig gyda'i gofyn- ion damegol; ydoedd ryfeddol o fwyn a charuaidd, cymerai y gofal penaf i ar- ddangos parchedigaeth i gyfeillion a dy- eithriaid a ddaethai un amser i groesawiad ei thad, mal y golchai eu traed. Cleobulus a ddewiswyd i lywodraethu sefyllfäu bychain y Lindiaid, bu iddo fyned drwy ei swydd gyda y fath rwyddineb mal pe nabuasai ganddoond un teulu i'w trin; gwaharddai bob peth a dueddai i achosi rhyfel, a meithrinai wybodaeth a chydna- byddiaeth dda, yn gystal yn mysg y dinas- yddion a'r dyeithriaid. Ei ardderchog- rwydd pena£ mewn mater o ddysgeidiaetl), ydoedd, egluro a chynnyg pob math o ofynion. Cynnyg yn ol dull synwyrlym a threiddioì. Efe ydoedd y cyntaf a barodd iddynt ddyfod i gymeriad gyda y Groegiaid; ac ydoedd awdur y gymyg ganlynol, sef, "Ydwyf dad dau-ar-ddeg o feib, a gan bob un o honynt mae tri-deg merch ; anwyl a thlws yw rhan o honynt, ond perthyn i'r llall wynebau duon; maent oll yn anfar- wol, etto, marw byddant bob dydd : ar- wyddai hyn, y fiwyddyn. Efe ydoedd awdur y pennill oedd ar feddrod Midas, ac ynddo y canmolai y brenin yn iyfeddol: rhai, yn anwybodus, a'i cyfrifai i Homer ag ydoedd yn hynach o lawer na Midas. Cleobulus a wnai rinwedd yn gynnwysedig yn benaf, mewn attaliad anghyfiawnderau, a drygedd ereill; a gyda'r golwg hwn, dywedai Horace,— " Virtus est vitium fugere, et sapientia prima stultitiâ carnisse." Dywedai yn aml, y dylem gadw trefn, amser, a mesur yn mhob peth. Mai dyl- edus i bob dinesydd fyw yn unol â'i am- gylchiad, os meddylient ddëoli y fTolineb aruthrol sy'n goruwch-rëoli pob llywodr- aeth. Nad oes dim mor gyffredin yn y byd ag anwybodaeth, a siaradwyr mawr. Ymgeisiwch, meddai, bob amser, am syn- iadau godidog; ac na fydded i chwi fod byth yn anniolchgar nac yn anffyddlon. Gwnewch dda idd eich cyfeillion ac eich gelynion; trwy y moddion hyn, cedwir y blaenaf, ac efallai, ennill atoch yr olaf. Bydded i chwi bobamsercyn myned alian oddi eich tý, feddwl beth ydych am ei wneuthur; a chan gynted ag y dychwel- wch, myfyriwch ac arholwch eich hunain, ar y pethau hyny a weithredwyd. Gwran- dewch lawer, ond na lafarwch ond ychydig. Bydded i chwi gynghori y pethau a ymddangosynt i chwi, fwyaf rhesymol. Na fydded i chwi wneuthur dim, drwy foddion trawsion. Rhoddwch idd eich plant y ddysgeidiaeth oreu. Na chellweir- iwch ä'r anffodus. O gwênai ffawd arnoch nac ymfalchiwch ; a phan y try oddiwrth- ych, nac ymddigalonwch. Ymbriodwch