Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Rhif. 5. MEDI 15, 1832. Cvf. I. BIAS YR ATHRONYDD. HAS o Priene, tref fechan yn Caria, ydoedd orenwog yn Groeg yn nheyr- nasiad Haliattes a Craesus, breninoedd Lydia, hyny yw o'r 40 Olympiad i'w farwolaeth, ydoedd ddinesydd rhagorol, gwr gonest, a gwladwrieithwr dymunol, ac un na ogwyddai i hunan-ocraeth, gwariai ei holl etifeddiaeth yn achlesu yranghenog. Cyfrifid ef yn areithydd mwyaf yr oes; arferai ei fedr yn ymbleidio y tylodion, ac ereill mewn cyfyngder, heb unrhyw elw, ond yn unig yr anrhydedd o wasanaethu ei wlad. Ni chymerai achos neb oni fyddai hollol gywir; mal ag yr aeth yn ddiareb trwy'r wlad, pan y sonient am achos a fyddai dda, dywedent, " Y mae yn ol dymuniad a chymeriad Bias :" a phan orfolent areithydd/dywedent," Braidd nad yw yn rhagorach na Bias." Rhyw fôr- ladron ar a diriai yn y Pelopennesus, yn agos i Messene, a gymerent lawer o'r gwyryfon, gan eu dwyn i'w gwerthu yn Prieiie. Bias a'u prynodd hwynt oil, ac a'u cludodd hwynt yn ol i'w rhi'eni, gan eu hanrhegu, a chymerodd gymaint gofal gyda hwynt a phe buasent ei blant ef; gweithred mor ddymunol a hona, a ennill- odd iddoglod uchèìfawr drwy yrholl wlad, mal ag ei alw yn " Dywysog y doethion." Rhyw dro gwedi hyn, dygwyddai pysgod- wyr Messene gael llestr aur yn mol pysg- odyn, ac yn gerfiedig amo "I y doethaj'" ymgynnuìlai senedd Messene yn nghyd, er rhoddi barn i bwy y dyiid ei rhoddi; y gwyryfon a rìdaeth atynt, gyd â'u rhi'eni, gan wedyd oll ag un llais, nad oedd neb mor ddoeth a Bias. Ar hyn, gyrai'r senedd y llestr iddo; pan ganfu Bias y oerfiad, ymwrthodai ag o, gan ddywedyd, mai i Apollo y teilyngai yr enwawd. Barnai rhai, mai yr un ydoedd hwn ag a sonid yn hanes Thales, ac nad oes cadernid i'r hanes, pellach nag ei gyru i Bias; a dy- wedent, mai iddo ef y dygwyd o gyntaf. Gwedi i Ilaliattes, brenin Lydia, ddi- nystrio amryw ddinasoedd a berthynai i'r Groegiaid Asiaidd, daethai i warchae ar Priene: Bias, yr amser hyny ydoedd brif swyddog y ddinas : gwnaeth gadarn wrth- wrynebiad am amser maith, ond canfyddai benderfyniad Haliattes i barhau yn y baiddwaith hyd y diwedd, a'r ddinas wedi ei darostwng yn ddirfawr o eisieu lluniaeth, parodd borthi dau o asynod hyd yn llyfndew, a'u gỳru tuag at wersyll y gelynion. Haliattes a sỳnai weled y cre- aduriaid hyn mor reunus, ac o'r dwthwn hwnw, ofnai na allai gymeryd y ddinas drwy newyn. Dyfeisiodd ffug-esgus er anfon gwr i'r ddinas, i hwn rhoddai gyfrin orchymyn, i arnodi cyflwr y gwarcheued- igion. Bias a ammheuodd y cynlluniad ; achosai hilio tyrau [mawrion o dywod á bwydydd, parodd ei wneuthur mor ragorol o gywrain, mal canfyddai y gwr anfonedig y llawTider helaeth ymddangosiadol heb unrhyw debygoliad o dwyll. Haìiattes a siomwyd â'r cyfrwysdra, penderfynodd ymadael a'r Prieniaid mewn beddwch, gan wneuthur cynghrair â hwynt. Haliattes a anfonodd genad i ddymuno ar Bias ddyfod i ymweled ag ef i'r gwer- syll; Bias ä atebodd y genad :—" Dywed wrth y brenin mai yn y fan hon y pre- swyliaf, ydwyf yn ei orchymyn i fwyta winwynau, a galaru holl ddyddiau ei ein- ioes." Bias a dra hoffai farddoniaeth, ysgrifenodd ddwy fil o linellau, ac yn- ddynt gynghorion er dysgu'r byd, modd y gallai pawb fyw mewn dedwyddwch, ac