Skip to main content

TYWYSOG CYMRU. Rhif. 4. AWST 15, 1832. Cyf. I. SOLON YR ATHRONYDD. (Parâado Tudalen 51) SOLON a ganfyddai Pisistratus yn ymgadarnâu ei blaid er ennill iddo ei hun y llywodraeth freninol, a wnaethai gyraaint a fedrai i wrthwynebu ei bender- fyniad; ymdŷrai y bobl i'r ymgyrchfa gyffredin, a daeth yntau mewn llawn arfog- aeth gan ddadguddio iddynt ymgais brad- ychol Pisistratus. " O Atheniaid F' gwedai, " yr ydwyf yn helaethach fy ngwybodaeth na'r sawl na chanfyddant benderfyniad pechadurs Pisistratus, íe, a mwy dewr na y rhai hyny a wyddant, ac etto heb wneyd yr ymgeisiad lleiaf i'w wrthwynebu o her- wydd ofn ac annewredd; yr ydwyf yn barod i fyned allan yn ei erbyn, ac ymladd yn galonog o blaid rhyddid." Ond cefii- ogai y bobl Pisistratus, ac edrychynt ar Solon mal un odd ei iawn bwyll. Ycljydig ddyddiau gwedi hyn, archollai Pisistratus ei hun, cludwyd ef ar gadair i'r man yr arferynt ymgyrchu, yn waedlyd oll, dy- wedai i'w elynion ddyfod yn fradwraidd i'w ddal, gan ei roddi yn yr amgylchiad traenus a phoenus a ddyoddefai. Y bobl a grochfloedddient yn erchyll am arfau er ei ddiogelu rhagllaw. Ar hyn, dywedai Solon wrtho, " O fab Ipocrasus ! mor wan y cynddrychioli gyfran Ulysses; diadd- urnai ef ei hun er twyllo ei elynion, ond tydi,a archollaist dy hun i dwyllo dygyd- ddinasyddion. Bu i'r bobl ymgynnull yn nghyd, a dymunai Pisistratus gael gan- ddynt 50 o'r gosgorddlu i'w wiliad. Solon gydag y dwysder a'r cadernid penaf, a ddangosai iddynt y perygl a ddeillia drwy gyfnewid y defodau, er boddâu gormesydd; ond ni lwyddodd ei gynghorion callwych gyda'r dorf wylltawg enbydus hon, a gan- iatäai i Pisistratus 400 o'r gosgorddlu, ag awdurdod i godi catrawd er ennill yr am- ddiffynfa. Rhyfeddai bìaenorion y ddinas yn fawr; penderfyriai pawb ymneillduo i ryw gilfach neu gilydd, ond Solon ni sy- mudai ddim; a gwedi iddo feio gwiriondeb ac annewredd y dinasyddion, dywedai wrthynt, gallasech gynt, gyda'r rhwyddineb penaf, rwystro ffurfiad yr onnes; ond yn awr wedi ei sefydliad, byddai yn fwy go- goneddus a chlodfawr i chwi lwyr ym- wrthod, a dinystno ei hatgas wreiddyn. Pan welodd nad ennillid y dinasyddion, aeth i'w dŷ, cymerai ei eirf, a gosodai hwynt o flaen drws y senedd, a llefai, "O fy anwyl wlad! cynneliais i di hyd y medr- ais gyda geiriau a gweithredion; galwaf y duwiau i dystiolaethu nad omeddais ddim er amddiffyn dy gyfreithiau a'th rhyddid. O fy ngwlad! myned yr ydwyf i'th adael am byth ; ni ddymunwyf i ormesydd sengi dyddaear; myfì yn unig a ardystiais fod yn elyn i ormes,—ereill a dueddant i'w dderbyn iddeu blaenori. Solon ni chy- mhellid byth i ymostwngi Pisistratus ; ac ofnai i'r Atheniaid wneuthur iddo gyfnewid y cyfreithiau ag y tyngasai i'w gochelyd; dewisai yn hytrach allwladiad gwirfoddol ac hyfrydedd teithiad, er caffaeí chwaneg gwybodaeth o'r byd, na byw mewn modd anfoddlonawl yn Athen; efelly aeth i'r Aifft, a bywiai beth amser yn llys Amasis. Pisistratus, a dra werthfawrogai Solon; gofidiai gymaint o'i fyned, mal ag y darfu iddo ysgrifenu ato y Uythyr canlynol er cais i'w ddenu yn ol. " Nid wyf yn unig yn mysg y Groegiaid a gymerai arno lywodraeth ei wlad, ni weithredwyf yn groes i'r cyfreithiau na'r duwiau, deilliwyf o Codrus, a thyngai yr Atheniaid y cadwent y deyrnas i'w deulu; ydwyf fwy gofalus a manwl yn nghadwed-