Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Riiif. 2. MEHEFIN 15, 1832. Cvf. I. PITTACUS YR ATHRONYDD. PITTACUS, mab Hirradius, o Thrace, a anwyd yn Mytilene, tref fechan yn Ynys Lesbos, tua'r 29fed Olympìad. Pan yn ieuaingc yr ydoedd yn tìlwr rhagorol hyf agwrol,yn llywydd hynodfewr, a dines- ydd enwog. Ei ddiareb ydoedd," Y dylem gyfweddu ein hunain at yr amser, a gwneu- thur y defnydd goreu o bob cyfieustra." Ei arfeiddiad cyntaf oedd myned i gyfun- deb â brawd Alcaes yn erbyn gormes-deyrn Melancher, ar a drawsfeddiannai oruchel- lywodraeth Lesbos, ac a'i gorchfygodd; efelly enillodd iddei hun gyfrifiad uchel- fawr drwy yr holl wlad, am ei ddewrder a'i wybodaeth. Am amser maith bu aerfa erch, rhwng y Mytileniaid a'r Atheniaid o berth- yuas etifeddiaeth lleyn o dir, a alwent Achillicides a dewiswyd Pittacus gan y Mytileniaid yn ben llywydd eu cad. Yna pan ymgyrchodd y ddwy fyddin at eu gilydd, cynnygiodd Pittacus benderfynu yr ymrysonfa ag ymladdiad unigol; a rhodd- odd hèr i Phryno, cad-flaenor yr Atheniaid, a fuasai )m orchfygol yn mhob gwrthsafiad, ac a ennillai amrywion gamp-dlysau yn yr Olympiau. Derbyniodd Phryno y baìdd, a boddlonent ar a orchfygai ennill y lleyn tir, heb ychwaneg gwrthladdiad. Daeth y ddau flaenor rhwng y ddwy gâd : Pittacus a guddiodd rwyd dan ei darian, a gwyliodd ei gytìeusdra mor dda, mal y darfu yn an- nysgwyliadwy amgylchu Phryno a'i ddal; yna, efe a waeddodd allan i glywedigaeth y ddwy fyddin, "Ni ddaliais ddyn, ond pysgodyn,"gwedihyny, efea'i lladdodd yn eu gwydd. Trwy yr amgylchiad hwn dyg- wyd ir chwareudai y drefn hon o ddifyru dynion. Pan arafwyd ysbrydoedd byw- iawg Pittacus gan oed, daeth i gofleidio hyfrydwch athronaidd. Trigolion Mytilene gan ei barchu mor fawr, a roddasant iddo ben llywodraeth eu dinas. Y profiadau hirfawr a phoenus ydoedd wybyddys o honynt, a barodd iddo edrych ar amgylch- iadau ffawd gyda y diystyrwch penaf, ac a rhyfeddol dderchafus feddyliad; oherwydd hyny, gwedi iddo rëoli yllywodraeth yn unoî a'r drefn ragoraf, ymwrthododd yn wirfoddol a'i swydd yn yr hon y bu ddau-ar-ddeg mlynedd, ac ymneillduodd yu hollol oddiwrth achosion y wlad. Dir- mygai roddion fiawd, er iddo gynt eu tra hoffi. Y Mytileniaid, yn gyfrif-werth am ei ragorol wasanaeth, a gynnygiasant iddo anneddfa ddymunol, yn gauedig gan goed a gwinllanoedd hyfryd; hefyd, maerdrefi a'i galluogai i fyw mewn uchel foddion yn ei ymneillduad. Ond cymerodd Pittacus ysbêr, a chyda ei holl nerth efe a'i taflodd, a bu foddion i hyd a Ued y tir a fesurai yn y dull hwn. Rhyfeddai y pen-swyddogion at ei gymedroldeb, a deisyíasant wybod yr achos; iddynt yr atebodd, heb ychwaneg amlygiad, " Fod rhan yn fwy gwasanaeth- gar nag y cyfan." Ysgrifenai Craesus ato, ar dro, gan daer ddymuno arno ddyfod i yinweled a'i gyfoethogrwydd; rhoddodd iddo yr atebiad canlynol:— " Mynech i mi ddyfod i Lydia i weled eich cyfoeth, heb ei gweled, nis gallaf feddwl nad ydyw mab Heliattes yn gad- arnaf brenin ar y ddaear; ond er y cawn i ar a feddech, nis byddwn gyfoethocach nag ydwyf; nid oes genyf achos, na chwaitli augenrheidrwydd am hynys ydwyf foddlon ar ddigonedd i gadw fy hun ac ychydig gyfeillion, er y cwbl, i foddloni eich dy- muniad, deuaf i ymweled â chwi." Gwedi i C'nesus orchfygu y Groegiaid Asiaidd, penderfynodd barotoì Hynges er