Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSOG CYMRU. Riiif. 1. MAI 15, 1832, Cyf. I. AT Y CYMRY. DIAU y canfydda pob un diduedd, nad ydym wedi dechreu y Cyhoedd- iad hwn heb fod angen am dano, ac y gweìir yn fuan, bod genym ddyben uwcli ac am- genach mewn golwg, nag amlàu darllenwyr yn unig heb olygu eu llês yn gysylltol. Pan ystyrir fod oddeutu, trideg a phump myrddiwn ar ugain, seithfil a nawcant o drigolion yn Ngwynedd yn unig, a phe na byddai ond lín o bob cant o honynt a thüedd i ymestyn am wybodaeth a chefn- ogi pob sefydliad da, byddai y nifer hyny, yn drideg a phump myrddiwn ar ugain, pedeirmil, trichant, deuddeg ac un; ac onid yw yn resyni meddwl, fod cynnifer o drigolion yn amddifad o gylchlyfr rhydd yn cael ei gyhoeddi yn eu plith, er eu denu i arfer eu galluoedd, a ehyfleusdra iddynt ddwyn eu gorchestion i wydd y byd,—yr yd'ym yn awr yn rhoddi y fat'h gynnyg iddynt, a thrwy gydymdrech a di- wydrwydd y llwydda. Ni bydd dim a wnelo hwn a daliadau crefyddol unrhyw blaid neülduol, ond yn gwbl rydd i unrhy w blàid a chwennycho ei achlesu. Ceidw allan bob cecraeth an- fuddiol, a rhagíarn ac enllib ar ansodion o ba gyflwr neu sefyllfa bynag; ond cy- hoeddir gwrthwynebiadau i unrhyw ddal- iadau, os byddant yn ymresymiadau teg ar y pwngc mewn dadl yn unig, ond dim yn amgen. Ac yr ydym yn gobeithio, y gallwn o fesur ychydig, ddwyn ei gyn- nwysiad i drefn amgenach er cynnyddu gwybodaeth, derchafu rhinwedd," a dam- lygu atgasrwydd gwyd.—Rhoddwn faes helaeth i'r Athronydd i olrhain dirgelion natur, i'r Scrydd ì amlygu ei dremiadau pell, a'r Celfyddwr am ei orchwylion dy- feisiedig ^ywreiniol, i'r Morwr ara ei ddarsylwadau, a'r Daearydd am ei ddes- grifiadau; ac i bob gwybodaeth reidiol. Nedlduir hefyd, ddosbarth i ddiwyllio y Gymraeg, a'i hyweddu at wyddorion nad yw iiyd yn hyn yn gyfrwng iddynt, ac yn hyny, dymunem gynnorthwy pob Cymro hyfedr. 1EITHYDDIAETH. Testyn yw hwn ag y dylai pob Cymro roddi sylw neillduol arno, oherwydd ei fod yn dwyn perthynas mòr agos â gwybodaëtli drefnus a chywir o amlygiad y meddwl. Er sylwi ar liyny rnewn trefn, dechreuwn ar yr egwyddor. Arwyddion elfenau y Gymraeg, neu lythyrenau ei hegwyddor gysefin, ydynt ddeg a chwech o niíer; sef, a e i o b m p f c g t d n ! r s. Yr egwyddor gyffredin, erwydd adlaw- iaid, a gynnwys deuddeg a saìth o nifer; sef, a b c ch d dd e f ff g ng h i 1 II m n o "p ph r s t th u w y. Eithr yr egwyddor, a'r holl adlawiaid perthynasol yn gyflawn, fèl ei harferir mewn ysgrifwaith yn yr oes gywreingar hon, a gynnwys bedwardeg a pbump o Iytliyrenau ; sëf, a à b m f c ngh g ch d n dd e è f ff g ng 1) i ì 1 11 m f n o ò p mh b ph rh r s t nh d th u ù w \v y ý. Yr adlawiaid yn yv egwyddor gyflredin. vn t d dd f iiü,- h 1! ph th u w y.