Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IFOE HAEL, Rhif. 5.] MAI, 1850. [Cyf. I. DYtf, Dyn yn ei sefyllfa cynlefig oedd penwaith y greadigaeth isod—gorphenwaith y Dwy- fol weilhredoedd mewn cread ; ynddo y cydgyfarfydda nef a daear—meddwl a chôrff, ysbryd a defnydd ; sylwedd ysbrydol o ansawdd angylaidd, wedi ei gysylltu a defnydd difywyd o ansawdd anifeilaidd ; yn ei gorff o'r ddaear yn ddaearol; yr enaid yn ysbryd pur anghyfansawdd, ac felly yn anfarwol. Unoliaeth perffeithrwydd harddwch daearoí yn gystylltiedig a gwreichionen bur o orwychedd nefolaidd. Llywydd ac arglwydd y greadhaeth isod, cydymaith a charenydd ansylion, a chynnyrch a delw dwyfoliaeth— crynodeb y byd—blaguryn y hydsawd—sylwedd o anfarwoldeb, yn.oleuedig a goleuni meddyliawl, yn addurnediç a tjwiiionedd nefolaidd, yn ewynedig a theimladau seraph- aidd, yn arfogedig ag awdurdod ddwyfol, ac yn goronedig a gogoniant ac anihydedd. Duw yw ei dad, a'r ddaear yw ei fain ; y byd yn etifeddiaeth iddo; Eden ei balas; a'i etifeddiaeth yn bob daioni mwynhaol. O'r fath hyfrydlonrwydd a ymddangosai yn 0i lygad, y fath ddysi'leirdeb yn ei wynebpiyd, a'r fath brydferthwch mawreddol yn ei ym- arweddind. Rhodiai yn Mharadwys, a'i wyi eb yn adlewyrchu gogoniant dedwyddol y nef. Golygfeydd pelydrol gwynfydedigrwydd gogoniant a dywynent vn ei Iygaid ; ei glustiau a lenwid gan seiniau perdonawl Gwynfa; a'i chwaeth a borthid gan ddant- eitln'on melu*awl Caersalem. Diniweidrwydd a orseddai yn ei galon ; boneddigeidd-» rwydd a nodweddai ei enaid ; a thawelwch abreswyliai \n ei ysbryd. Ni chythryblid ef gan amheuon—ni therfysgid ef gan drallodion—ni frawychid et gan ofnau, ac ni warad- wyddid ef gan gywilydd, ac ni lygridefgan bechod. Cyfranogai o ogoniant Duw er gwneyd ei hun yn ogoueddus. Ei uydymaith oedd frenhines harddwch; a chafodd ym- peledd gymwys ynddi. Ni wyddent am afiechyd nac ar.nedwyddfyd, ond mwynhaent ddisjofiolrwydd Ilawenydd. Duw a syllai arnynt gyda chymeradwyaeth, angylion a edryclient amynt gyda hyfrydwch ; yr holl tîreaduriaid afresymol gyda pharch, a chyth- reuliaid gyda chyi>figen. Eu helifeddiaeth oedd fywyd aníarwol; yr amodo honooedd rwydd i'w chyflawni, sef uíudd-dod parhaus ; a'r wobi wy oedd wynfydedigrwydd di- derfyn. Iailh a balla, yr arluniad sydd anmheiffaiih; amgyflredion enaid llygredig ydynt yn rhy wan i ddŷchymygu am eithifion perffeithrwydd dedwyddwch sefyllfa ogoneddus Adda yn Mharadwys, pan yn santaidd ei gyflwr, yn bur ei amgyfliedion, ac yn dal cymundeb digyfrwng a'r Duw a'u creodd ar ei ddelw ei hun. Ni wyddent belk oedd cwmwl na diffyg rhyngddynt a Ilaul gogoniant; ni wyddent beth oedd dryllio tant yn nhelyn aur Caersalem ; ni wyddent beth oedd gwrthsain yn mheroriaeth Para- dwys ; ni wyddent ddim am ddyfroedd chwerwon anghydfod ; ac ni chwythodd awel groes erioed arnynt tra y cadwasant o fewn terfynau eu dyledswydd, ac y rhodiasant mewn uniondeh, ar hyd Hwybrau blodenog y Baradwys dea, ond bwytaent ddanteithion pereiddiaf aeron melusion y llanerch ddedwydd, a pher ganiedyddion y uoedwig a blethr ent eu seiniau cerddorawl drwy holl Iwjni cauadfrig achanghenau y coedydd uehelfrig- eg a ymgodent i entrych yr awyr; ac nid oedd dim i'w glywed yno ond sain can a mol- iant agorfoledd ysbrydol, a'r Shedna nefol yn chwareu uwch ben y Ilanerch ddedwydd. Duw yn ei oll oedd testun mawl^erdd awenyddgamp y cymeiriaid catiadus, a'r hoü 1« a'u hamgylchynei.t; íe, efe oedd enaid Y gan hoywlan lef, Feluslais nefol oslef. le, îe,a dychymygwn glywed Adda yn tori allan fel Ambrose^ Porth Madog,—