Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IFOR HAEL, Rhif. 4.] EBRILL, 1850. [Cyf. I. TRAETHAWD AR FALCHDER, TESTUN CYMREIGYDDION GELLIGROES. 1 Mr. Llywydd A BotfEDDIGION :— Y mae balchder yn hen elyn ofnadwy; y mae ef yn y byd er yn agos i chwe mil o flynyddoedd ; a<; y mae lle i ofni ei fod wedi iladd mwy o ddynolryw nag sydd yn preswjlio ar wyneb y gieadigaeth yma yn awr. Yn y nefoedd, raae yn debyg, y dangosodd ei drwyn gyntaf: yr angylion, y rhai ni chadwasant eu dechreuad,Vi magodd ef gyutaf; oid fe ddarfu iddynt fagu pryf na fydd ef byth marw, a than na ddiífydd ef byth ! Ac fe redodd gwenwyn y pryf hwnw drwy holl wythienau dynolryw trwy y cwyrnp, fel nad oes na gwythien nac asgwrn yn iach o honom ; yr ydym yn aflan ; o wadn y troed hyd goryn y pen nid oes man glan na chyfan àrnòm' iYIae balchder mewn pob pechod—efe yw gwreiddyn pob pechod ; megys y mae yr undeb sydd rhwng y pren a'r gwreiddyn yn achosi iddo dyfu, blodeuo, a ffrwytho ; a phe'torid yr undeb hwnw, byddai yr holl rai hyny yn rhwym o wywo yn y fan ; felly y mae bnlchder yn wreiddyn i bob pechod ! Oddiarnó ef y tyfodd ariangarwch, a chenfigen, ac anghrediniaeth, a'r holl godi sydd yn erbyn y Duw mawr; a phe gyrid balchder i ddiddymdra, byddai yr holl rai hyn yn sicr o farweiddio yn y fan. O achos balchder y mae miloedd heddyw yn gwaeo mewn tiueni tragwyddol, ac yn dywedyd fod yr haf wedidarfod, a chyn- hauaf yr enai i wedi myned heibio Balchder a drodd yr angylion glan i fod yn gythreulinid aflan. Eithr dywed rhai mai cenfigen oedd yr achos o'u damnedigaeth ; ond dywediad hollol groes i natuç y peth yw ; oblegid, os addas y dywediad, yr oedd yn rhaid i falchder feichiogi ac esgor cyn y cafodd cenfigen yr un anadliad i weithredu. Oall cenfigen ddywedyd wrth falchder, ' Tydi a'm dygodd i fod, tydi yv fy mam a psgoraist arnaf, a thydi 8ydd yn fy nghynnal; llewygwn i ar bob tir ond ynot ti; a thydi sydd amddiflT- ynfa i mi. Mae cyfiawnder yn codi ei gledd\f yn fy erbyn, ond yr ydwyt ti yn iioddfa i mi; a phe lleddid fi. tydi a leddid gynlaf; ai y saeth i dy galon di cyn cyffwrdd â'm croen i.' Mae balchder a chenfigen yn llechu dan yr un croen, yn teithio yr un tir, ac yn cydweithredu yn yr un galon. Balchder yn codi ei ben yn uwch na neb, a cheafigen yn gostwng penau rhai eraill i lawr. Yr wyf yn tybied yn y fan yma nad oes gan genfigen yr un llety y tu yma i'r pwll diwaelod, ond yn nghalon y balch ; dan lifrai y balch y mae yn gweithredu. Och ! Och! beth pa gwelem genfigen yn ei lliw ei hun, ei chleddyfau llym, a'i dialeddau gwaedlyd, yn ymwreichioni o ddigofaint! Sarff wenwynllyd uffernol ydyw, yn ysu ac yn lladd ei pherchenog. Ond pe caem ni ergyd marwol ar falchder, ni byddai cenfigen y tu yma i uffern. A gwelwn nad yw yrhaeriad, mai cenfigen oedd yr achos o drosgl- wyddiad yr angyliou, ddim yn ddywediad priodol. Os wrth Dduw y cenfigenent, yr oedd yn rhaid iddynt yn gyntaf dybied eu hun- ain yn fwy na Duw, cyn bod arnynt chwant ei ddarostwng ef; neu wrth eu gilydd, neu wrth y dyn yr un modd: gwelwn fod balchder ynddynt yn gyntaf. Efallai fod y dyn heb ei greu y pryd hyny: ond y mae yn sicr iddynt, ar ol eu cwymp hwy, wrth weled y dyn mewn cyflwr dedwydd, a delw Duwarno, genfigenu wrtho, 13