Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f3F°A. gyhoeddir yn fisol: 50 cent y flwyddyn, 25 cent am 6 mis, i'w talu yn mlaen Uaw.,^3 RBM3EN, N. Y., MBDI 15, 1851. Cyf.2.] [Rhif. 3. "Profwch bob peth ; deliwch yr hyn sydd dda." NERTH CAREDIGRWYDD. (O'r Cronicl.) "Tom, tyr'd yma," meddai tad wrth ei fachgen â Ilais cryf, cras, uchel, awdurdodol. Yr oedd Tom yn chware. Troai ei olwg at ei dad, ond araf iawn yr oedd yn gadael ei gymdeithiou. «'Wyt ti'u clywed, dywed!" meddai y tad gyda llais mwy cras ua'r cyntaf. Gyda wyneb aulbdd- og, a chamrau anystwyth, trodd Tom oddiwrth ei chware, gan dryraaidd ymsymud tuag at ei dad. Yna â ìtais dig, gwaeddai ei dad, " Pa'm yr wyt ti yn ytnlusgo fel yna, fel malwoden, tyr'd, brysia, brysia yna: rhaid i mi gael ufudd-dod; Hwde, cymer y llythyr yma i Mr. Smith; dos, paid a chysgu hyd y ffordd, oud rhed cyn gyuted ag y medri." Cymerodd Tom y llythyr: ond yr oedd cwmwl ar ei wedd; ac ynísymudodd ymaith, ond yn bur araf. Gwaeddai y tad ar ei ol, " Tom, ai dyna ydyw myned fel y perais i? ai dyna ydyw biysio ar redeg? Os na ddeui di à dy neges yu ol yu mhen haner awr, mi gofiaf i ti." Nid oedd y floedd na'r bygwth yu efleithio fawr ar Tom. Yr oedd llais a gwedd anngharedig y tad wedi clwyfo ac adgaledu teimladau Tom. Yr oedd fel ei dad, yn un o dymher uchel ystyfnig; ac'yr oedd y dy- mher yma yn awr mor gynhyrfus, fel nad oedd bygythion yn effeithio dim aruo. "Ni w?elais i er'- ioed yfath fachgeu," meddai y tad wrth gyfaill oedd yn ymyl, "nid yw fy ngeiriau i yn gwneud dim argraffarno." "Geiriau cajedig" meddai y cyfaill, "ydynt y rhan amlaf y rhai mwyaf effeithiol." Edrychai y tad yn syn wrtli glywed y fath sylw. "Ië," meddai y cyfulll, "geiriau caredig ydyut y mwyaf effeithiol. Y maent yn rhyw effeithio fel y gwlithwlaw îreiddiol, tra y mae geiriau geirwon yn rhyw dori a phlygu fel rhuthr y dymhestl. Mae y geiriau caredig yn cynhesu, ac yu toddi, ac yn cryfhau, ac yu cyflymu, ac yu dedwyddu y serchiadau, tra y mae geiriau geirwon yn ysgubo dros y teimladau, gau ddifwyno y cyfau o'u blaeu. Profwch eich bachgen bach â geiriau caredig, a chewch weled eu bod yn gan' mwy effeithiol na'r geirìau getrwon." Aeth y cerydd yma i deim- ladau dyfnaf y tad; a gwasgodd ef i syn-fyfyrdod. Aeth dros awr heibio cyn i'r bachgen ddyfod yn ol. Ymgynhyifai y tad ambell i fynyd mewn pen- derfyniad poeth i'w gosbi; ond yr oedd geiriau cerydd ei*gyfaill yn swnio yn ei glustiau, ac ymgy- famododd i wueud yn eu hol. O'r diwedd. dyma y bachgen yn ymlusgo yn araf i'r tỳ, ac â wyneb sur, a llais moullyd, yn dweyd ei neges. Yr oedd yu eglur ei fod yn dysgwyl cosb, ac fel pe buasai, am hyny, er cael cjfle i ddangos yn mhellach ei gyndyu ystyfuigrwydd. lrr oedd ei holl agwedd fel pe buasai am hèrio y wialen,—ond er ei syndod, dyna ei dad, ar ol derbyu ei neges gyda gwèn serchog, yn dweyd, " Da fy machgeu i; gelli fyn'd bellach at dy chwareu." Aeth y bachgen allan, ond nid oedd yn dded- wj'dd. YTr oedd wedi auufuddhau ei dad mewn dull a thymher cas iawn, ac yr oedd hyny yu ei ofidio. Yr oedd gwèu a geiriau tiriou ei dad wedi ei lwyr orchfygu. Yn lle myned at ei gymdeith- iou, aeth o'r neilldu, ac eisteddodd i Jawr yu y cysgod i alaru am ei anuí'udd-dod. Tra yno yn ymwrando, clywai alwad arno, "Thomas bach," meddai ei dad yn y modd mwyneiddiaf. Neidiodd y bachgen ar ei draed, ac yr oedd wrth lin ei dad mewn moment, yn dweyd, "Ddarfu i chwi alw, nhad?" "Do, fy machgen i; a wnei di gymeiyd y sypyn ymadrosof fi i Mr. Loug?" Codai y bach- gen lygad llawn o serch a bywyd tuag at lygad ei dad. estynai ei law am y sypyn, ac ymueidiai ym- aith, a'i droed a'i galon am yr ysgafnaf. "Y'n wir y mae nerth mewn caredigrwydd," meddai y tad; a thra yr oedd yn llawen feddwl am hyu, dyma y bachgen yn ol wrth eu draed, wedi cyflwyno ei neges, ac yn siriol oíyn, "Oes dim eto allaf fi wneud i chwi, uhad?" Y'n wir y mae nerth mewn caredigrwydd. Y mae byrbwylldra a chwerwder yn cyfí'roi ac yn digio plant, oud y mae addfwyuder a serch yn eu denu a'u heuill. Dadau a mamau, dwys ystyriwch hyu: a bydded eich tymher, nid fel yr wybren ddu gymysglyd, yn tywallt tynihestl i ddryllio pob peth tyuer, oud fel y gwlith a'r haulwen yn ìreiddio ac yn maethu egiu gweinion pob ufudd-dod a rhinwedd. S1" Welsh Newspaper—published monthly. _£F%