Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YDETHOLYDD. gg""A gyhoeddir yn fisol; 50 cent y flwyddyn, 25 cent am 6 mis, i'w talu yn ddi-eithriad yn mlaenllaw... Cyf. 1. ] REMSEN, N. Y., EBRILL 15, 1851. [Rhif. 10. "Profwch bob peth ; deliwch yr hyn sydd dda." INDIA. (O'r Adolygydd.) (Parhad o tu dalen 132.) Hyd o fewn yr wyth gam-if ddiweddaf, bu yr Hindwaid yn lled rydd oddiwrth ormes estronol. Daliodd y Persiaid henafol dalaeth ar yr oror og- ledd-orílewiuol am ryw ysbaid o amser. Ar draars yr tm terfyn gwnaed ymgyrch gan Alecsander Fawr, am yr hon nid oes y crybwylliad lleiaf yn eu hanesyddiaeth. Cawsant amser a hamdden fel hyn i ymberffeithio mewn gwareiddiad gwladol a llênyddol* tra yn eu gwareiddiad teuluaidd, yr hwu a grëir yn unig gan grefydd Iesu, y maent eto yn mhell iawn yn ol. Yn nechreu yr unfed ganrif ar ddeg, y rhoddodd cleddyf Islam y clwyf cyntaf o bwys i annibyniaeth Hindwstan. Wedi i dywys- ogion y ffydd ffyrnig hono reoli am saith ganrif, gallesid ystyried yr oll o India fel wedi ei daros- twng o dan deyrnwialen Aurengzeb,. Drwy ddy- lyniad o ddygwyddiadau, heb gyfochrion mewn hanesyddiaeth, y mae y ceuedloedd hyny, y rhai a faont cyhyd yn rhydd oddiwrth ormes estronol, a thros y rhai ni ymdaenodd llywodraeth y Mo- hammeáan bywiog ond gÿdag" arafwch, Wedi syrth- io y naiìl ar ol y llall, gyda'çhyflymdra annhraeth- adwy o' dan lywodraeth: Prydaiu. Hyd yma, y mae lle i ofni nad yw yr oruchafiaeth hou wedi bod er lles i'r gorchfygedig, nac er gwir anrhydedd i'r gorchfygwyr. Ond diau, yn nhreigliad amser, yr enilla llênyddiaeth, rhyddid, masnach, a moes- oldeb India, yn ddirfawr drwy y cyfnewidiad. Cy- fodir hi i sefyllfa, o'r hon y gall arwain gwledydd eraill Asia i fwynhau manteision gwerthfawrocaf y byd gorllewinol. Ymwelir â hi gan y gledr- ffordd a'r agerdd. O ran ei lleoliad daearyddol, nid oes wlad mwy pwysig er dylanwadu ar Asia nâ hi. Edrycha Budiaid Asia ddwyreiniol arni, fel cartrefleforeol ei ffÿdd, achoíìr hi gan Fohamuied- an Asia ddwyreiniol, fel y dalaeth, yn yr hon y gwreichionodd gernau dysglaeriaf coron Islam. Hyd y dydd hwn, nid yw Jerasalem, Rhufain, a Mecca, wedi dylanwadu ar ffydd cynifer o'r hil ddynol a Hindwstan. A phan y dychwelir hi at yr Arglwydd, gellir dysgwyl cyflawnder y ceued- loedd i droi eu hwynebau at Dduw Israel. Yr ydym yn arfer siarad yn y wlad hon, fel pe ni, America, ac. ychydig genedloedd Ewrop, fyddai y byd. Yr oedd hen wraig gynt yn dringo o Gwm Llanymoddwy, dros Fwlch y Groes tua Chwm Cyullwyd, ac ar ol dyfod i olwg y rhimyn cul, hi a gyfodai ei dwylaw mewn syndod, gan ddywedyd, " Ni feddyliais erioed fod y byd mor fawr!" Yn wir y mae y byd yn fawr iawn. Y mae llawer mwy nâ hauer ei drigolion heb wybod dim am ein rbyfeloedd a'n son am ryfeloedd ; ni ddychrynwyd hwy gan enw Buouaparte, ac ni wyddant ddim am Wellington, ac his gallant ddywedyd ai un wlad, ynte llawer o wledydd ydyw Ewrop. Nid ydym ni yu gwarter poblogaeth y byd, a gall y dwyraiu honi ei huwchafiaeth arnom yn mhob peth ond beudithion crefydd Iesu, y rhai a dder- byuiasom drwy rad rodd Duw. O ddaear Asia y ffurfiwyd dyu; yn ei choedwigoedd hi y bu ei baradwys; ar un o'i bryniau y gorphwysodd yr arch aachubodd weddillion dynoliaeth yn nyddiau y Diluw; yn Asia yr ymddangosodd Duw yn y cnawd; ac yn Asia y dyferodd y gwaed sydd yn eiu glanhau óddiwrth bob pechod. Ni welodd y llygad hollwybodol gyuifer o galonau yn curo yn un wlad ag yn Asia ; ui welodd gynifer o famau mewn llawenydd am ehi dyn i'r byd yn un ran o'r ddaear ag yn Asia; ac ni esgynodd galar am y meirw i'w glustiau o nn frodir mor fynych ag o honi hi. O bob chwe' babau sydd yn ymweled à'n byd, genir un yn India; o bob chwe' priod- ferch a ymdrwsia yn ei harddwisgoedd, y mae uu yno; ac o bob chwe' teulu, y mae un yno. O bob chwe' gweddw alarus y mae uu yuo, o bob chwe' plentyn amddifad y mae un yno, ac o bob chwe' ysbiyd dryllièdig y mae un yn Iudia. Hi yw y wlad sydd wedi dylanwadu mwyaf ar y ddaear ; hi sydd wedi rhoddi ffurf i wareiddiad heuafol, a bywyd i anturiaetb.au diweddarol. Yu rhwydau ei chredöau hi mae y uifer fwyaf o eneidiau wedi eu dàl. Hi sydd yn agor drws mawr a giymus í efengyleiddio Asia,.ac i ddwyu haner yr hil ddynol yn ufudd ddeiliaid i'r Brenin Iesu. Os oes rhyw ran o'r ddaear, yr hon o herwydd ei bwysigrwydd, y gellir ei alw yn fyd, Asia yw y rhan houo. Yno y mae mwyaf o galonau«—yno y mae mwyaf o dy- wyllwch. Yno y mae mwyaf o ddyniou—yno y 53P" Welsh Newspaper—postage in the State 1 cent; to other States 1| ccnts. .JFf