Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

E#"'A gyhoeddir yn fisol; 25 cent am 6 mis, i'w talu yn ddi-eithriad yn mlaen llaw. Cyf.1.) HEMSEN, N. Y., ÖYDREP 16, 1850. [Rbif. 4. Profwch bob peth; deliwch yr hyn sydd dda." GWIR ANEHYDEDD. (Ó'r Cnẃiicl.) " Hi a'th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi."—Sol- OMON. [Darllen gwaith American ar y testun tichod a barodd i ni gymyBgu ein syíwadau ein hunain â'r eiddo ef, a'u cynyg i'r Cronicl.—J. E.j Beth stdd wir anrhtdeddus ? Er fod pawb yn ymestyn atanrhydedd, nid yw amrywiol wìed- ydd a gwahanol oesau y byd wedi cytuno i ateb y gofyniad. Dywedwyd unwaith mai gwir anrhydedd oedd medru lladd creaduricdd rheibus. Wrth ddarllen hanesion eyntaf Groeg, gwelwn yn eglur mai hyn oedd safon gwir anrhydedd yn eu plith. Os men- trai rhyw ynfydyn ei fywyd i ymladd â llew a'i orchfygu, byddai adsain ei foliant yn rhwygo yr awyr. Sonid am dano gan bob lleneyn. Ysgrif- enid ei hanes yn mhob llyfryn. Datgenid ei fawl gan y beirdd. Ac yn y diwedd ystyrient ef yn dduw, ac addolent ef. Hyn oedd en syniadau uchaf am anrhydedd. Dywedwyd wedi hyny mai gwir anrhydedd oedd bod yn fedrus i daflu maen, ymaflyd codtcm, a rhedeg gyrfa. Hyn oedd y safon yn Groeg a Eliuf- ain wedi eu dyfod yu fwy diwylledig. Defnyddia Homer ei awen annghymharol i ganu i un o gad- beníaid Caerdroia, am y taflai faen na fedrai dau ddyn ei symud. Cyfeiria yr apostol at ymaflyd a rhedeg yn mhlith gorchestgampau mynydd Olym- pus, Cymerai rhai o honynt flynyddau i ragbaro- toi. Ac &v ddydd y prawf, yr oedd cwinwl o dyst- ion o amgylch, a cboron blethedig yn aros y budd- ugoliaetbwr. Cymerid ef adref yn nghanol llaw- enfloedd ei berthynasau a'i gyfeillion. Gwneid gwledd Pẅ groesawu. A llawer gwaith y denwyd allan holl athrylith Groeg a Ehufain i ddyrchafu ei glodydd^ Hyn a ystwythai dafodau eu siaradwyr, a gynbyrfai awen eu beirdd, ac a gy weiriai delyn- au eu cantorion. Eu dychymyg penaf am anrhyd- edd oedd bod yn uchaf ar y codwm, ac yn gyntaf ar yr yría^ Mae gwebilion hyn wedi cyrhaedd ein hoes a'n gwlad uinau. Gofiwn yr amser pan oedd «awau " Turner a Spring y bocswyr " yn llenwi îíewyddiadurou, ac adsain eu mawi yn diaspedain drwy ddinasoedd Lloegr, a rhwng bryniau Cymru. Llofruddio mewn rhyfeloedd a ystyriwyd yn wir anrhydedd gan oesau hen a diweddar, gân farbar- iaid a chenedloedd gWareiddiedig, íe gan yr holl fyd am ganrifoedd lawer. Y penaeth anrhydedd- usaf yn New Zealand yw yr un fedr brofi iddo ladd mwyaf o ddynion, a bwyta eu cnawd! Ao hyd yn ddiweddar, yr uchaf ei glod yn mhlith bar- bariaid Gogledd America oedd yr un fedrai ddang^ os mwyaf o benglogau o amgylch ei dŷ ! Pa faint gwell na hyny yw anrhydedd Alexander, Buona- pai'te, Nelson, Wellington í &c. Beth enwogodd y rhai hyn ? Lladd! Pa un yw yr enwocaf? Yr un dy walltodd fwyaf o waed, a wnaeth fwyaf o wragedd yn weddwon a phlant yn amddifaid! Mae Prydain yn orlawn o gof-golofnau a amcanwyd er anrhydedd i'r rhai hyn ! Gwneir f gofadail o feini marmor. Cei-fir arni lun y Cadfridog wedi derbyn clwyf angeuol, ei farch wedi syrthio dauo, y gelynion yn gelaneddu wi-th ei draed, a brenin- oedd mewn cadwynau o'i amgylch. Dywed rhyw un wrth y gwron fod y frwydr wedi ei henill gan ei bobl ef; yna mae yn marw yn dawel a ded- wydd, ac mae angel yn dysgwyl am ei ysbryd! Pa angel !• Ai tybed mai un o angylion Tywysog tanguefedd! Dygir y meini cofla hyn i dŷ Dduw ! Nid oes un man llawnach o honynt nag " Eglwy* " Gadeiriol Westminster. Gwir y ceir yno, mewa ambell gongl, arwyddluniau bychain o Milton, Watts, Wilberforce, &c. Ond mae y colofnau a osodwyd yno i gofio am ryfelwyr yn bedair gwaith lluosocach, ac yn ddeng mwy drudfawr. Dengys hyn yn egìur mai un o brif ddrychfeddyliau y byd, a'i- Eglwys Wladol^ am anrhydedd, yw bod yn fedms i dywallt gwaed. Medrusrwydd metcn celfyddyd yw gwir anrhyd- edd, medd dosbarth lluosog. Mae hyn yn dda, ac yn dyfod yn llawer nes i'r nod nac un o'r lleill. Mae yn anrhydedd i'r cyfreithiwr fod yn gyfar- wydd â phethau y gyfraith. Mae yn anrhydedd i'r meddyg ei fod yn medru rhwymo doluriau, a gwella clefydau.- Mae yn anrhydédd medru tynu fiyrdd i'r agerdd-gerbydau fyned drwy galon myn- yddau, a chyfodi pontydd pibellog iddynt ymsaetha dros afon Gonwy a chuifoí Menai. Ydy w, mae J3F Welsh Newspaper—postage in the State 1 cent j to other States 1J cents.