Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEF NEWYDDIA9UR PYTHEFNOSOL l'W GYHOEBDI BOB YN AIL DDYDD GWENER. " A*r GwrLnnt oedd yn sefyll ar y Tẃr." " A'r Gwtliwr a fynegodd." Rhif 8.] CWMAYON, MAI 7, 1869. [Peis lg. Y Pwlpud Oymmreig ... ... ...113 Oyssondeb yn ofynol i athrawon yr Yegol Sul......... 115 Beirniadaeth Eisteddfod Cwmavon ... 116 Ysgrif Claddu Ymneillduwyr 117 Ysgogiad newydd yn Ngbymmru ... 118 Ein Gohebwyr 120 Crynodeb ... 120 Cyfarfodydd 122 Marwolaethau... ... 122 Bedyddiadau 123 Nodiadau Byrion ... 123 Adolygiad y Wasg... 124 Amrywiaeth ... ... 125 Briwsion... 125 Bwrdd y Beirdd ... 126 Barddoniaeth 127 Y PWLPUD CYMMREIG. PARCH. JOHN REYNOLDS, CYDWELI. nwtd y Parch. J. Reynolds yn nhref Cyd- li, ar y 6ed dydd o Ebrill, yn y flwyddyn 1798. wau ei rieni oedd John a Anne Reynolds, y i oeddynt yn aelodau yn yr Eglwys Wlad- aethol; ae felly bydd«nt yn myned â'u John l», yr Úwn oedd yr hynaf o'u plant, gryda hwynt i'r llan ar y Sabbath, yr hwn, wedi iddo ddyfod yn alluog- i ddarllen, a fyddai yn arfer cymmeryd ei Gommon Prayer Booìc gydag ef mewn trefn i ateb y gwr â'r wisg wen yn y gwasanaeth. A chan fod eginyn y dyn fyn- ychaf yn dechreu ymddadblygu yn y plentynr yr oedd J. R. yn lled hyddysg yn ei Gommon Prayer Book, ac yn medru adrodd ei Gatechùm yn rhwydd pan yn grwt byehan Nid oedd y pryd hwn wedi dechreu teimlo un ammheuaeth yn ei feddwl plentynaidd, nad crefydd ei dad a'i fam oedd y grefydd ag oedd Crist wedi sef- ydlu yn y byd, ac nad oedd yntau wedi oael ei fedyddio yn ol gair Duw. Ond pan yr oedd tua thair ar dueg oed, fe symudodd ei rieni i îytr i ymyl un ag oedd yn Fedyddiwr. Yr oedd y Bedyddwyr o ran eu syniadau a'u hegwydd- orion gwahanîaethol yn lled ddyeithr i J. R. hyd yr adeg hyn. Maeìlaw fawr Rhagluniaeth yn gweitbredu yn fynych o'r golwg, ac felly yr oedd yn symudiad teulu J. R. i fyw yn ymyl y Bed- yddiwr. Byddai y Bedyddiwr yn dyfod i dŷ tad a mam J. R., ac fel un hoff o Air Duw, a chan nad oedd ond darllenwr trwsgl ei hun, byddai yn dodi John bach fel ei galwai, i ddar- Uen rhanau o Àir Daw, yn neillduol y Testa- ment Newydd iddo yn aml. Un noswaith ceisiodd ganddo ddarllen y bennod olaf o'r Efengyl yn ol Marc iddo. A chan nad oedd 3. R. wedi sylwi yn neillduoì fel yr ymddengys ar Gomisiwn Cristi'wddysgybliou; fe syrthiodd j geiriau "A'r neb a gredo ac a fedyddier a 'fydd cadwedig" mor ddwfn i'w feddwl ac i'w galon fachgenaidd, fel nad oedd modd dileu ea hargraff o'i feddwl. Ac felly yn fuan iawn ar ol y noswaith uchod, fe welwyd y gwr bach fel unnawnaj ymgynghori 4 chig a gwaed, na