Skip to main content

EURGRAWN MON, ' • NEU DRYSORFA HANESYDDAWL. Rhif. 8.] 31 AWST, 1825. [Gwerth 4£c. i ' r • " •■■■■ ' '■■' ' ■ . ■ -■■' - « BYWGRAFFÍAD SYR WILLIAM JONES. SYR WILLIAM JONES a anwyd ar yr28oMedi 1746: mab ydoedd i William Jones, Ysw. F. R. S.? gŵr ó ŷüyá Môn a ddaethai yn enwog yn nghelfyddydau rhif a mesur yn Llundain, ac a briodasai ferch un o'r dinasyddion o enw Nix, yr hon yn dra athry- lithgar a ymbleserodd yn olrhain holl ganghenau dysgeidiaeth oedd dan sylw el gŵr. Bu mab a merch i'r briodas hon, ond braidd y cyrhaeddasai y bachgen dair blwydd oed na bu farw y tad, gan adael y ddau i ofal y fam, yr hou a ymroddodd i ymbleseru yn y gorchwyl o blannu egwyddorion dysgeidiaeth ynddynt tra ynfabanod. Yr oedd William Jones yn yfed dysgeidiaeth mor drwyadl ag iddo allu darlien unrhyw lyfr seisonig gyda gradd o bleser yn bedair blwydd oed, ac annogai ei fam tra yn ymgyrhaedd am bethau uwch, T blannu yn ei gôf bigion o Shakespeare, Gay, a beirdd enwog «raili. Ar iddo gyrhaedd saith mlwydd oed, rhoddwyd ef yn ysgol Ilarrow, dan plygiad y Dr. Thateray. Dywedir iddo yno ddangos mwy o ddiwydrwydd, nag o ymddysgleirio mewn dysgeidiaeth; ond damweiuiodd iddo dorri ei glûn, yr hyn yn ei gadw gartref am flwyddyn gyfan, ad-ddechreuodd ei fam ar y gorchwyl canmoladwy o blannu ynddo egwyddorjon dysgeidiaeth; ac os bu i'w wybodaeth yn yr ieithoedd gael tarfiad. arno yn y tro, ni bu segur y tro hwn o gasglu trysorfa o wybodaeth gyffredinol o dan ei goruchwylraeth. Ar ei ddychweliad i'r ysgol, rhoddwyd ef yn yr un rhestr ag a adawsai flwyddyn yn ol, felly ar iddo ddyblu ei ddiwydrwydd, cadwodd ei le, a daeth yn uchaf ynddi cyn pen ychydig fisoedd. Yn 12 oed, gwedi treiddio yn ddwfn i'r iaith Groeg, dechreuodd ar yr Hebraeg ac yr Arabaég, ac yna daeth yn hyddysg yn y Ffränc- aeg, ac yn yr Italaeg; ac ar ei oriau ysmala ymbleseíai mewn Hysieüaeth, lluniedyddiaeth a'r cyffelyb; a chymmaint oedd ei gynnydd ynddynt ag y parchid ef yn fawr gan ei athrawon ac ei gyd- ysgolheigion. v • Yn 17 oed, dechreuodd ei gyfeillion feddwl pa fywolîaeth oedd oreu iddo: mynnai rhai iddo fyfyrio yn y gyfraith, yn yr hön>, yn y diwedd y bu yn ysplenydd ; ond danfonwyd ef i goleg yn Rhydych- am yn 1746, lle gwelir ei wneyd yn fuan yn ysgolfeaig rhydd ynddo; ymroddodd, gan iddo fod y tu hwnt i'w gyd-ysgolheigion mewn leithóedd, o fyfyrio yn ieithoedd y Dwyreinfyd, a bu ar gyfarfod o,