Skip to main content

EURGRAWN MON, NEU DRYSORFA HANESYDDAWL. Rhif. 5-3 30, MJI, 1825. [Gwerth 4$<\ BANES BYTFGRAFFYDDOL ■ST DR. DAFIS O FALLWYD. DALIWYD sylw yn fynych, mae arfer rhagluniaeth ydyw cyfodi i fyny ddynion rhagorol mewn doniau a dysgeidiaeth, ar amser- oedd hynod ac anghyffredin. Mae yn si cr na fagodd ärdaloedd Cymru erioed yn yr un oes, wyr mwy dysgedig, mwy enwog eu doniau, neu mwy gwresog yn yr ysbryd, na'r ardderchog lu o dystion, y rhai ar doriad gwawr y diwygiad eglwysaidd, a wnaethpwyd yn offeryriau i wasgaru tywyllwch pabydmaeth yn y parthau hyn ; yn mhlith y goleuadau tra-disglaer hyn, hawdd y cyfaddefir mai nid y lleiaf oedd y Dr. Dafis o Falìwyd. Ganwydef yn mhlwyf Llanferes yrt swydd. Ddinbych, 0 gylch y fìwyddyn 1570. Enw ei dad ef, tebygir, oedd Dafydd ap Sion ap Rhys. Gwehydd oedd efwrth eigeìfyddyd, ond os rhydd yw i ní goelio Richard Cynwal, yr hwn a wnaeth gywydd i'r Doctor Dafis i ofyn Bibl dros Robert Peilin, gwr wrth gerdd; yr oedd efe yn perth- yn i'r teuluoedd anrhydeddusàf yn Ngwynedd. Danfonwyd y mab ì ysgol Rhuthun, yr hon a gedwid y pryd hyny gan y dysgedig Dr. Parry; ac yno, mae'n debyg y dechreuodd y gyfeillach caredig, a barhaes wedi hyny rhwng y gwyr enwog hyn, ac a fu mor eunillfawr i Dafis, pan dderchafwyd ei gyfaill i gadair esgobawl LÍanelwy.—Sy- mudwyd Dafis o Ruthun ìYsgol-dŷ ies?íyn,Rhydychen yn y flwyddyn 1589, lle yr arhosodd hyd oni chymerodd y râdd gyutaf yn y CeU fyddydau, (B. A.) Ar hyn efe a ymadawodd a'r Brif-ysgol: eto, fel ý tystia ei Lyfrau gorchestol, nid esgeulusodd yr un pryd un math o ddyfalwch i olrhain pob gwybodaeth buddiol, ac i ychwanegu at ei ddysgeidiaeth o'r blaen. Tebyg yw, mai ei angen a barodd iddo ym- symud o Rhydychen cyn gynted, canys panehangwyd ei gyllid ef rai blynyddoedd gwedi(1608), ni a'igwelwn ef yn aelod oYsgol-dý Lin* coin yn yr uu brif-ysgol. Gwnaethpwyd ef yn Ddoctor Difmt/ddiaeth yn 1616. Ni wyddys ym mrìa le, neu ym mha fodd y treuliodd efe ei amser ar ol ymadael a'r Brif-ysgol y waith gyntaf. Yn 1604, rhoddodd y brenin Iago* iddo fywoliaeth Eglwysig Mallwyd, yr hon a wall- gwympasai oddiwrth yr Eágobaeth yn yr yspaid ar ol marwoläéth y Dr. Morgan, a chyn cyssegriad y Dr. Parry yn ei le*. Paii gyraerodd y Dr. Parry gyflawu feddiant o'i Esgobaeth, dang»