Skip to main content

EURGRAWN MON, NEU DRYSORFA HANESYDDÄWL. Rhif. 3.] 31, MAWRTH, 1825. [Gwerth 4|c. HANES BYWGRAFFYDDOL 8u& mw mwMmm^ MR. JOIIN MILTON, yr enwocaf o'r beirdd Seisonig a ddeill- iodd o deulu parchus oedd yn byw mewn pentref o un enw, sef Milton, yn s. Rhydychain. Ganwyd ef ar y 9 o Ragfyr, 1608, a derbyniodd ei gychwyn cyntaf mewn dysgeidiaeth trwy lafur ei rì'eni a gwr oedd yn ddysgawdwr yn y teuiu. Bu drachefn yn ysgol St. Paul, Llundain, yn yr hon ddinas yr anneddai ei dad er ys tro fal ysgrifenydd. Yu 17 oed, danfonwyd ef i un o golegau Gaergrawnt, lle y treiddiodd yn ddwfn i gelloedd dysgeidiaeth, ond prydyddiaeth oedd ei brif bleser. Yn 1628, daeth yn wyryf yn y eelfyddydau, ond er hyn, ac er cais ei dad iddo fod yn wr eglwysig, ni fynnai gyd- synied, gan ei hoíFder gyd a'r awen. Yn 1632, cafodd ei raddeiddio yn athraw yn y celfyddydau, ac erbyn hyn, gwedi ei addasu i unrhyw o'r tair brifswydd, gadawodd y coleg, er galar i'w gydysgolheigiou, ac aeth at ei dad i Horton yn s. Buckingham, lle yr ysgrifenodd y cyw- yddau a elwir Comus, Ja'Allegro, II Penseroso^ &c. gweithydd oedd- ynt yn ddigonol yn unig i beri i'w enw fod mewn brîi'r oesoedd pellaf. Yn 1638 aeth i'r cyfahdir, lle y cafodd y parch oedd yn gweddu iddo; ond ar ei ddychweliad i Lundain, yr oedd y brenin ac y senedd gwedi ymddyrysu a'u gilydd, a digwyddodd iddo yntau bleidio y werin lywodraeth, ac ysgrifenu yn gyrch yn erbyn amryw bethau a ymddan- gosent iddo yn amryfus mewn gwlad ac eglwys, yn enwedig prif wei- nidogion yrolaf. Yn 1643, priododd ferch swyddog yn s. Rhydychain, ond hontua phen mis gwedi pn'odi, a'i gadawodd yn ddirgelaidd, ac a aeth at ei theulu, o wàll ei awydd yn pleidio y werin, ac yn duo trwy ei gyhoeddiadau eglwyswyr a swyddogion gwladol eraill. Ond yn mhen y ddwy nynedd, tra yn ymweled â chyfaill, deuai ei wraig yn annisgwyliadwy i'r un man, a syrthiai ar ei gliniau o'i flaen, gan addef ei bai a gofyn ei nawdd a'i faddeuant. Ar hyn ymaflodd yn ei llaw gyd a'r tosturi mwyaf, a d'iau i'r trô eflfeithio cymmaint arno ac iddo arliwio yn ysplenydd yn ei "Goll Gwynva," ail gymmodiad Adda ag Efa, a grybwyllir fal hyn, -------------------------------ar ei grudd Y deigrion hylif, iad o drefn, gwar wrth Ei draed y syrthiai, o gusauu, hi Ei hedd eiriolai----------------------~ Yn 1644, ysgrifenodd draethawd rhagorol ar ddysgeidiaeth, ac am- ryw lyfrau defnyddiol ereill, ond ar i'r senedd gyfyngu ar ryddid y wasgj yr oedd ei awydd yntau yn cynyddu i wrthwynebu y cyfryw