Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PREGETHWR. Rhif. 6.] RHAGFYR, 1841. [Llyfb I. Y R ENW CRIST'NOGOL. Pregtií) A draddodwyd gan y diweddar Barch. JOHN ELIäb, " Á bod galw y dysgyblion yn Orutwnogion yn gyntaf yn Ántiochia." Actau 11. 26. Mae amrywiol enwau wedi bod ar bobl Dduw, o'r decbreuad, mewn anirywiol wledydd, yn yr amrywiol oesoedd, a cban amrywiol genedlaetbau. Mae rbai enwau wedi bod arnynt mewn ychydig lëoedd yn unig, beb eu bod mewn lleoedd eraill; ac y mae rbai enwau wedi bod dros ycbydig amser, ao wedi dillanu yn fuan. Rhodd- wyd amryw o enwau arnynt gan eu gelyn- ion, rbai ganddynt eu bunain, a llawer gan Dduw. Ond un o'r enwau anrhydeddusaf arnynt yw yr enw Crist'nogion. Dyma yr enw a ymlydanodd fwyaf, a'r enw a barä- odd fwyaf, a hwn a bery eto. Llawer o'r enwau sydd ar ddilynwyr Duw yn awr yn sìcr a ddileir, ond yr enw Crist'nogion a barhâ tra y byddo y byd yn bod. Mae yr enw hwn wedi bod yn enw o barch mawr gan rai, ac yn enw dirmygus gan eraill. Dywedoddun Amherawdwr crefyddol, "Yr wyf yn ei cbyfrif yn llawer mwy o fraint i mi gael yr enw Cristion, na chael yr enw Amherawdwr; oblegid mi a gollaf yr enw Amherawdwr, ond bydd yr enw Crisüon arnaf byth." Casäwyd yr enw hwn yn ddygn lawer gwaith. Amherawdwr erlidgar, wrth erlid y saint a ddywedodd, " Y mae y bobl yma yn dda a cbj fiawn am a wn i, ond eu bod yn Grist'nogion." Dylai hwn fod yn enw o fri mawr yn bresonnol, ond yn Ue hyny y mae yn awr dan gTyn gwmwl. Mae tywyllwch, rhagrith, a ffurfioldeb, wedi ei gymylu yn ddirfawr. Mae y rhan fwyaf sydd yn ei arfer yn anwybodus—miloedd yn gyfeilicrnus—miloedd yn anfucheddol— llawer yn rhagrithiol—a llawer o wir bobl Crist wedi myned yn gysglyd a marwaidd. Nid oes ond ycbydig yn ymorfoleddu yn yr enw Crist'nogion. Mae pobl dduwiol yn awr yn gorfod cymeryd rhyw enwau eraill arnynt i'w didoli oddiwrth bobl eraill, gan fod yr enw hwn yn cael ei gymeryd gan bobl yn ddiwahân. Mae yr hanes a gawn yma yn rhyfedd. Yn amser merthyrdod Stephan, cododd blinder mawr ar yr eglwys, nes y gwasgar- wyd llaweroedd o'r brodyr. Aeth rhai o honynt i Antiochia,a phregethasant yr efeng. yl yno, ond yr oedd cylcb eu cenadwri yn gyfyogi "beb lefaru gair wrth neb ond wrth yr Iuddewon yn unig." Ond y cyfamser, daoth rhai o Cyprus ac o CjTene i Antioch- ia, a hwy a gymerasant gylch helaethach i'w gweinidogaetli. Hwy "a lafarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu: a llaw yr Ai-glwydd oedd gyda hwynt j a nifer mawr a gredodd, ac a drôdd at yr Arglwydd." Daeth gair i glustiau yr eglwys yn Jerusalem am y llwyddiant oedd yn An- tiochia,- a gwnaeth y newydd i'r eglwys lawenâu ac ofni; llawenâu oblegid y llwydd- iant, ac ofhi am fod y pregsthwyr yn ddy-