Skip to main content

Y PREGETHWR. Rhif 5.] TACHWEDD, 1841. [Llyfr I. CRIST YN SYLFAEN YR EGLWYS. íPregetÇ Oan y Pareh. JAMES 8m.HXLMA.Vf, Capel Surrey, Llundain. " Am hyny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn sylfaenu maen yn S'ion, maen profedig, congl-faen gwcrthfawr, sylfaen safadwy; nifrysia yr hwn a gredo." Esay 28. 16. Y ddwy golofn fawr ar ba rai y mae Satan yn codi ei deyrnas yw, diofalwch cnawdol, a gau obaith. Trwy y naill y mae yn suo cydwybodau euog dynion i gysgu, gan ea perswadio fod pob peth yn ddiogel ac yn dda, tra y mae dinystr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, ac yn eu prysuro i golledig- aeth: trwy y llall y mae yn dallu llygaid dynion fel na welont y maen a sylfaenodd Duw yn Sion, ac yn eu twyllo a'u siomi trwy eu tueddu i bwyso ar y sylfeini a ddang- osir ganddo ef ei hun iddynt Dan y ddau brif raniad yma, y mae yr holl 1 ai annych- weledig yn sefyll, beth bynag yw eu hegwyddorion neu eu dysgwyliadau. Mae pob dyn, dynes, a phlentyn annychweledig, sydd yn fy nghynnulleidfa yn awr, yn per- thyn i un o'r ddau ddosbarth hyn: mae pob un naill ai yn hollol ddiofal ynghylch iachawdwriaeth ei enaid, ac mewn hyder cnawdol am y nefoedd, er ei fod yn elyn i Dduw ac yn ddirmygwr ei Grist ef; neu ynte y mae yn adeiladu ei obaith ar ryw sylfaen anniogel, yr hon a chwelir ymaith yn y diwedd âg ysgub digofaint Duw. Ac ni ddylai hyn ein synu: nid yw yn ddim newydd; fel yma yr ydoedd o'r dechreuad. Tra"yr oedd Abel yn dewis trefn Duw am ddybuddiant, ac yn ceisio ei ffafr trwy aberth, yr oedd Cain yn dewis yn hytrach ddwyn o ffrwyth y ddaear, gan dybied y byddai i'w drefn ef, er yn wrthwyneb i os- odiad Duw, gyfarfod â'r un cymeradwyaeth â'r eiddo Abel. Am chwech ugain mlynedd Noah a bregethodd gyfìawnder i'r cynddy- lifiaid, ac a dystiolaethodd iddynt mai yr arch oedd yr unig le o ddiogelwch, ac os esgeulusent hòno y boddid hwy: ond hwy a wawdiasant ei gynghorion; dewisasant fyw mewn pechod, beiddio y Goruchaf, a chael eu colli trwy eu hyder marwol. Er fod y prophwyd Esaiah yn pregethu yr efengyl yn gyflawnach, a chyda mwy o ddrychfeddyliau dysglaer, ac â mwy o hy- awdledd bywiocäol na neb o'i ragflaenor- iaid, eto hyd yn nod yn ei ddyddiau ef, yr oedd y cyfryw eneidiau twylledig i'w cael. Yr oedd ef yn pregethu iddynt" orchymyn I ar orchymyn, llin ar lin, ychydig yma ac ychydig acw," fel y gallent ei oddef. Ond er hyn ni fynent wrando; troisant ei genadwri yn watwargerdd, ac ymddiriedasant yn y sylfemi yr oedd y Prophwyd yn eu galw yn "gelwydd", gan ddweyd' ar yr un pryd, iddynt wneuthur ammod âg angeu, a chyngrair âg uffern, ac na ddeuai y farn at- tynt hwy. Wrth y cyfryw ddynion drwg, an- niolchgar, a dychrynllyd o annuwiol, y