Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PREGETHWR. Rhif 4.] MEDI, 1841. [Llîfb I. C ABWEÜIG AETI-I O RAS A TIIRWY G R I S T. prtgtt!)' A DRADDODWYD YN LLANDDERFEL, SIR FEIRIONYDD, Tachwedd 2i), 1810, Gan y diwcddar 3arcîx. JDHI? ELIAS. " Eithr trwy ras yr Arglwydl Icsu G-risi, yr ydym ni yn crcdu cin bod yn gadwcdig, yr un modd a hwyihau." Act. sv. 11. Geiriau yw y rhai'n a lefarwyd mewn cymanfa yn Jerusalem. Yr achos o alw y gyrnanfa hon oedd terfysg a dadl a gyfod- asai yn eglwys Antiochia. Achlysurwyd y terfysg gan rywrai a ddaethent i waercd o Judea, ac a geisiasant ddysgu y brodyr yn Antiochia gan ddywedyd wrthynt, onid en- waedid arnynt yn ol defod Moses,na allent fod yn gadwedig. Yr oedd eglwys flodeu- og, dyhygid, yn Antiochia, ond ei bod eto yn ei mahandod; ac felly yn ei gwendid, darfu i'r gclyn rywfodd gael athrawon gau, (oblegid gau yr oedd rhaid eu bod,) i geisio dyrysu yr eglwys hon. Cododd Paul a Bamabas yn erbyn y gwyr hyn, a bu " ymryson a dadleu nid bychan" ganddynt yn eu herbyn. Nid oedd Paul yn wr ymrysongar; yr oedd bob amser yn un dyoddefgar iawn yn ei achos ei hun. Ond yr oedd yn barod i ymryson hyd at waed oblegid gwirionedd Crist, a lles ei eglwys. Nid oedd ef yn wr dadleugar ychwaith; nid un yn hofii dadleu er mwyn dadleu ydoedd. Ond dadleuai nid ychydig cyn yr ildiai sill o wirionedd yr efengyl. Ond wedi yr ymryson a'r dadleu, pender- fynwyd yn Antiochia i anfon Paul a Barn- abas, a rhai eraill, i Jerusalcm; nid at yr eglwys yn gyffredinol, ond " at yr apostol- ion a'r henuriaid ynghylch y cwestiwn yma." Yn ol yr ordeiniad, actli y gwyr tua Jerusalem: pregethasant ar eu taith yn Phenice a Samaria, a chawsant arwydd- ion o foddlonrwydd yr Arglwydd iddynt ar eu hymdaith. Wedi dyfod i Jerusalem, derbyniwyd hwy jrn gymeradwyol gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; ac yno mynegasant yr holl bethau a wnacthai Duw gydâ hwynt. Wedi iddynt adrodtl yr hanes, cyfododd rhai o sect y Phariseaid, y rhai oedd yn proffesu ffydd yn Nghrist, ac eto yn dal llawer o syniadau Phariseaidd, ac a ddywedasant mai rhaid iddynt eu henwaedu a chadw deddf Moses. Mcwn caidyniad i hyn, yr apostolion a'r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma. Bu yno ddadleu mawr yn y lle ; rhai yn dweyd fel hyn, arhai fel arall. Yna cyfodd Pedr, ac a adroddodd ei feddwl ef a'i brofiad ynghylch yr hyn oedd dan sylw. Dywedodd fod yn hysbys iddynt ddai'fod i Dduw o'u plith hwy ei ethol ef er ystalm o amser, i gael o'r cenedloedd tnvy ei enau ef glywed gair yr efcngyl, a chredu. Yr oedd yma yn cyfeirio at y tro yn Joppa, pan y gorchfygwyd ei ragfarn mewn ffordd ryfedd, ac yr anfonwyd ef i dŷ Cornelius, ac y bu llwyddiant maAvr ar ei bregeth i'r cenedloedd. " A Duw, adnabyddwr calon- au," meddai, " a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddvnt vr Ysbryd Gian; mcgis àg * M