Skip to main content

Y PREGETHWR. Rhif. 2.] EBRILL, 1841. [Llífr I. G W E L E D Y R I E S U. A draddodwyd gan y diweddar Barcà. EBEÎffSaSB RîCHÄRB. " ^íc yr oedcí cfe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd." Luc xix. 3. Y gŵr y cyfeirir yma ato oedd Zaccheus, yr hwn oedd bublican, a phen publican, ac ydoedd hefyd yn dra chyfoethog. Yr hyn a ddywedir am dano yw ei fod yn ccisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd, neu pa fath un oedd, o ran pryd a gwedd, maint, oed, ac ymddygiad. Mae yn debyg ci fod wedi clywed llawer am dano; am ei wyrthíau rhyfeddol, ei bregethau nerthol, a'i lwybr uniawn trwy y byd; o leiaf, yr oedd wedi clywed cymaint am dano, nes yr oedd awydd ynddo am ei weled. Rhai wedi clywed llawer am Iesu ydych chwi oll sydd yma; ond efallai fod yr holl glywed am dano heb godi yr un awydd difrifol mewn rhai o hon- och am ei adnabod. Y peth nesaf a gìyẃwn ara Zaccheus oedd iddo ddefnyddio modd- ion i gael ei ddymuniad i ben. Yr oedd tyrfa fawr gyda yr Iesu, ac yr oodd y pen- publican yn ŵr bychan o gorffolaeth, fel nad oedd un gobaith iddo allu cael golwg ar yr Iesu dros benau y bobl; am hyny, efe a wnaeth yn gall; aeth i'r ffordd yr oedd Crist i dramwyo, ac a ddringodd i ben syca- morwydden, fel y gallai ei weled. Os daw awydd ynoch chwithau am adnabod Crist> chwi a ddefhyddiwch y moddion tebycaf er caffael hyny. Llwyddodd y dyn yma yn rhyfedd; cafodd ei amcan; ac nid yn unig hyny, ond cafodd fwy na'i amcan. Nid yn unig cafodd weled yr Iesu, ond caf- odd ei glywed, ei dderbyn i'w dỳ, a phrofi ei iaehawdwriaeth. Ni bu neb erioed a | anfonasant ddymuniad ar ol yr Iesu ar eu colled. Yn awr ni a sylwn ar y testun. " Yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu." Nid oes gweled i fod ar yr Iesu yn bresennol fel y gweled a ddymunid gan Zaccheus; ni ellir ei weled yn awr â llygad corfforol, o herwydd y mae yn gwneyd ei gartref yn nef y nefoedd. Ond eto ŷ mae yn bosibl cael golwg arno yn ein dyddiau ni, sef, ei weled trwy wir a bywiol ffydd, â llygad y meddwl wedi ei oleuo. Y mae hyn yn cacl ei annog a'i wasgu arnom. " Gan edrych ar Iesu." Er na welir ef o ran ei ddynol- iaeth yn ein dyddiau ni, ceir ei weled ef felly ryw ddiwrnod. Y mae dydd y gweìir ei ddynoliaeth genym oll, sef pan v dêl yn ei ogoniant ar gymylau y ncf. Ond ni a soniwn yn awr am ci woled yn ysbrydol gan ddynion wedi eu goleuo. Wrth ymdrin yn addysgiadol â'r mater hwn, ni a ymholwn, I. Pa le y gallwn gael gweled tb Iesu? II. Pa fath olwg a geib gan y bobl HYNY SYDD YN GWELED YR IESU? III. Pa FATH EFFEITHIAU Y MAE YR OLWG YMA YN DDWYN AR BAWB A'l CAFFO? I. Pa LE Y MAE CAEL GWELED yr Iesu YN EIN DYDDIAU NI ? Yr wyf yn gobeithio fod yma lawer yn debyg i Zaccheus yn ewyllysio gweled yr