Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PREGETHWR. Rhif. 1.] CHWEFROR, 1841. [Cyf. I. Σ-.K«SK3XKÄXK^XÄÍ NERTH A GOGONIANT YR AR&LWYDD I'W GWELED YN MODDION GRAS. liregetí) A draddodwyd gan y Parch. JOHN ELIAS. " I welcd dy nerth a'th ogoniant, fel y'th icelais yn y cysegr." Psalm 63. 2. Mae y geiriau hyn, ni a welwn, yn gys- sylltiedig â'r adnod o'r blaen; a gallem eu darlìen ar ol amrywiol ranau yr adnod hòno. " Yn foreu y'th geisîaf, i weled dy nerth a'th ogoniant; sychedodd fy enaid am danat—i weled; hiraethodd fy nghnawd am danat—i weied, &e." Y mae rhy fychan yn ein plith o syehedu am gymdeithas â Duw yn moddion gras; a rhy anaml y w y dynion a allant ddywedyd gyda y Salmydd yn y lle hwn, " Y'th welais yn y cysegr." Dylid wrth addoli Duw,wrth arfer a mwynâu ei ordinhadau, ddysgwyl rhyw arwyddion o'i bresennoldeb grasol yn- ddynt. Yn wir, y mae rhy fach o ystyr- iaelh am bresennoldeb cyífredinol Duw genym. Gellid meddwl wrth ein hagwedd- au yn nhŷ Dduw yn aml, nad yw Duw yn agos; nad ydyw yn ein gweled, yn ein clyw- ed, nac yn ein hadnabod. Diífyg mawr yn y wlad yw diffyg ystyried fod Duw ei hun yn y fan lle yr ydym, ac na allwn un am- ser fyned o'i wydd. Byddai yr ystyríaeth fod Duw ei hun yn yr un fan â ni yn effeithiol iawn; parai gyfnewidiad mawr yn y wlad. Ni bu neb sydd yma heddyw fynyd erioed mewn Ue nad oedd Dnw; ni ddywedodd un o'r dyrfa hon air erioed ond ger bron wyneb Duw ; ac ni feddyliodd neb o honom feddwl erioed ond o flaen ei olyg- on tanllyd ef. " Ynddo ef yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod." O ! na byddai y fath ystyriaeth â hon yn llenwi meddyhau trigolion ein gwlad yn eu holl ymdriniaeth- au, yn enwedig yn eu hymarferiad âg or- dinhadau Duw. Gwnaeth Elias y Thesbiad waAvd o addolwyr Baal. "Gwaeddwch á llef tichel," meddai y prophwyd; " canys duw yw efe ; naill ai ymddyddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe allai ei fod yn cysgu, ac y mae yn rhaid ei ddeffro ef." Yr oedd yn eu gwawdio fel hyn, am mai addolwyr oeddjnt heb eu duw yn eu plith. Ond nid ydym ni, addolwyr y gwir Dduw, un amser felly. " Yr ydym ni oll yn bre- sennpl ger bron Duw :" ond yr ydym yn rhy fynych heb ystyried ein bod yn ei wydd. Pe deffroid rhy w eneidiau diofal yma yn awr, eu hiaith a fyddai, " Diau fod yr Ar- glwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn î." Ond heblaw presennoldeb cyffredinol Duw,ymae ei bresennoldeb grasol a neilldu- ol i'w ddysgwyl yn moddion gras. Mi a ddy- munwn i chwi oll ddeall beth a olygir wrth hjTi. Presennoldeb un, yw bod y gwr yn y fan. Hollbresennoldeb Duw, yw bod Duw ei hun yn rnhob man. Presennoldeb gras- ol Duw, yw bod Duw yn rhóddi rhyw am- lygiad neillduol o'i ffafr, ei ras, ei gariad, ei dynerwch i ac at bechaduriaid, jm eu hym- arferiad â photliau ei dŷ. "Y mae Dun'yn