Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tt Rhagfyr,] Y BEREAD. [1842. LLWYDDIANT YR EFENGYL. Talfyriad o Iiythyr Cymanfa y Bedyddwyr yn Swydd Fonwy, A GYNALIWYD YN NHABERNACL, PENYGARN, MAI 32, 1842. A YSGRIFENWYD GAN Y PARCH. GEOEGE THOMAS, PONTYPWL. FrODYR YN YR ArGLWYDD,—Trwy dirion ragluniaethein Duw, wele ni wedi cael ymgasglu unwaith eto mewn cymanfa flynyddol. Er y gymanfa o'r blaen ni adawyd ni yn ymddifad o wenau y nef, er bod rhyw amgylchiadau gofidus a galarus wedi diçwydd. Mewn mor lieied o amser, ni welwyd gymmaint o gynydd yn y swydd hon o'r blaen. Yr oedd crefydd yn my- ned rhagddi yn dra chyflym mewn cymydogaeth- au eraill, a dichon y bydd yn prysuro gyda yr un Cyflymdra y flwyddyn nesaf trwy ororau newydd- ion; y cwbl yn tueddu i ddangos penarglwydd- iaeth yr' hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun. " Mae y gwynt yn chwythu lle y myno, a thia glywi ei swn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned ; felly y mae pob un a aned o'r Ÿsbryd." Ioan iii. 8. Yn awr, galwn eich sy- lw difrifolaf at y llwyddiant hyn, gan gynyg rhai sylwadau arno; a gubeithiwn y derhyniwch hwynt gyda dymuniad cywir i weithredu yn gydunol a'u hatncan. Y mae y llwyddiant yn ein heglwysi i chwi yn llawenydd mawr. Mae yn eithaf amlwg fod yr eglwys yn y byd hwn yn mbeil o gyrhaedd perffeithrwydd. Ni welwyd oes na thymor arni pryd yr oedd yn rhydd oddiwrth ragrithwyr ; yr oedd un yn gythraul yn mhlith y deuddeg ;— megys dan yr hen oruchwyliaeth nad oedd pawb yn Israel ag oeddynt o Israel, felly yn mhlith y rhai a dderbyniwyd eleni i'n heglwysi, tebygol yw fod rhai yn ymddifad o wreiddyn y mater; ond a ydyw yn ormod i ni obeithio nad ÿw felly gyda y rhan amlaf o lawer o honynt 1 Na. nyni a hyderwn eu bod yn berchenogion gwir dduwioldeb, ac yn gyfranogion o ras Duw ; ac y gwelir hwynt yn y diwedd yn mysg gwar- edigion yr Arglwydd, yn moli ac yn canmol y croeshoeliedig Oen. Gan hyny, rhaid yw fod llwyddiant mor fawr a chyffredinol yn amgylch- íad o bwys mawr, ie, yn gyfryw ag sydd yn tu- eddu i gyffroi y teimladau gwresocaf o'n mewn. Ond gochelwn rhag bod ein llawenydd yn hyn yn tarddu oddiar olygiadau culion pleidsel a rhagfarn ; canys y mae y fath deimladau yn ddrygau ag y dylem fod bob amser ar ein gwyliadwriaeth yn eu herbyn ; o herwydd tra fyddo crefyddwyr dan eu dylanwad, teimlant fath o eiddigedd pan fyddo enwadau eraill yn Uwyddo, ac ni lawenhant ond yn eu llwyddiant eu hunain yn unig. Gwir yw fod y grefydd Ctf, 1. 45 Gristionogol yn ein dysgu i ymlynu wrth y gwirionedd, a bod yn selog ì'w wneudyn hys* bys i bawb o'n hamgylch; ond er hyny dysgir ni i fod yn hynaws tuag at ein brodyr o wahanol enwadau. Mae y llwyddiant a gymerodd le eleni yn ein plith yn achos o lawenydd, am fod genymle i hyderu fod llawer ynddo wedi eu dychweîyd at yr Arglwydd. Mae cadwedigaeth pechadur- iaid ynddo ei hun yn beth o'r pwys mwyaf; mae yn un o'r pethau a drigai yn meddwl y Duwdod er tragywyddoldeb; ac y mae y drefh a gymerodd i'w ddwyn oddiamgylch yn anfeidrol ryfedd, yn peri syndod annhraethol yn mhithy gwybodolion uchaf; ac y mae yn ddangosiad o'r cariad hwnw a amlygir yn yr ysgrythyrau.— Mab Duw, yrail berson yn y Drindod santaidd, a ymgnawdolodd, a drigodd yn mhlith marwol- ion ar y ddaear yn nghyffelybiaeth cnawd pech- adurus, gan fyw bywyd o ofid a thrallod, a bod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes, fel yr offrymai ei hun yn aberth dros bechod. Efe a gododd o feirw, ac a esgynodd i'r nef, lle mae yn eistedd ar ddeheulaw Dnw, gan weinyddu y swydd gyfryngol. Triniwyd ef fel drwg-weith- redwr, a goddefwyd i angen orfoleddu arno droa amser! a hyn fel y gallai plant marwolaelh gael bywyd tragywyddol. Megys prawf o fod dyg- iad dyn i sefyilfa o gadwedigaeth yn beth o anfeidrol bwys, dywedir fod llawenydd yn mysg angjlion Duw am un pechadur a edifarhao. Y mae argyhoeddiad pechadur o fwy o bwys na chwildroad yr ymerodraeth fwyaf, canys y mae yn beth sydd yn dwyn perthynas nid yn unig^ag amser, ond hefyd â thragywyddoldeb. Mae yn cynwys ynddo y cyfnewidiad mwyaf rhyfedd; mae yn waredigaeth o dywyllwch i oleuni, ac yn symudiad o deyrnas Satan i deyrnas anwyl Fab Duw ; mae yn warediad enaid rhag uffern, ac yn berl ychwanegol yn nghoron Crist. Gan hyny, os yw.angylion glan, na throseddasant un aroser gyfraith eu Creawdwr, a'r rhai hyny yn berffaith ddedwydd, yn rhoddi cymmaint o'u bryd ar iechydwriaeth pechadur, pa feint mwy y dylem ni, y rhai ydym wedi hanu o'r un rhieni a deiliaid yr iechydwriaeth, ac yn ddeliaid yr un anfarwoldeb. Mae y llwyddiant a gymerodd le yn oin plith yn achos o lawenydd, megys y mae yn ddangosiad fod teyrnas y Messia yn myned yn y blaen yn y byd, yr hon a arfàethwyd i ddwyn kHIF. 23.