Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tachwedd 1,] Y BEREAD. [1842. TÁLFYRÎA3 FYWGRAFFIAD Y DR. DAFIS O FALLWYD. ^allan o euegrawn mon am 1825.] Daliwyd sylw yn fynych mai arfer rhaglun- ìaeth ydyw cyfodi i fynu ddynion rbagoroì mewn doniau a dysgeidiaeth ar amseroedd hynod ac anghyffredin. Mae yn sicr na fagodd ardaloedd Cymru erioed,yn yr un oes, wyr mwy dysgedig, mwy enwog eu doniau, neu mwy gwresog yn yr ysbryd, na y llu ardderchog o dystion, y rhai, ar doriad gwawr y diwygiad eglwysig, a wnaeth- pwyd yn offerynau i wasgaru tywyllwch pab- ydd/aeth yn y parthau hyn. Yn mhlith y goleu- adaü tra disglaer hyn, hawdd y cyfaddefir mai nid y Ileiaf oedd y Dr. Dafis o Fallwyd. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanferes, swydd Din- bych, o gylch y flwyddyn 1570. Enw ei dad ef, tebygir, oedd Dafydd ap Shon ap Rhys. Gwc- hydd oedd ef wrth ei gelfyddyd ; ond os rhydd yw i ni goelio Richard Cynwal, yr hwn a wnaeth gywydd i'r Dr. Dafis, i ofyn Beibl dros Robert Peilin, gwr wrth gerdd, yr oedd efe yn perthyn i r teuluoedd anrhydeddusaf yn Ngwynedd. Dan- fonwyd y mab i ysgol Rhuthin, yr hon a gedwid y pryd hwnw gsn y dysgedig Dr. Parry ; ac yno, maeyn debyg, y dechreuodd y gyfeillach gar- edig, a barhaodd wedihyny rhwngy gwyrenwog hyn. ac a fu mor enillfawr i Dafis, pan godwyd ei gyfaill i esgobaeth Llanelwy. Symudwyd Dafis o Ruthin i Ysgol-dy yr Iesu, yn Rhydychain, yn y flwyddyn 1589, Ile yr aros- odd hyd oni dderbyniodd y radd gyntaf yn y cel- fyddydau, (B. A.) Ar hyn efe a ymadawodd a'r brif-ysgol; eto, fel y tystia ei lyfrau gorchest- ol, nid esgeulusodd yr un math o ddyfalwch i ol- rain pob gwybodaeth fuddiol, ac i ychwanegu at ei ddysgeidiaeth o'r blaen. Tebyg yw, mai ei angen a berodd iddo symud o Rhydychain mor fuan, canys pan fwyhaodd ei gyllid ef rai blyn- yddoedd wedi hyn (1603), ni a'i gwelwn ef yn aelod o Ysgoldy Lincoln yn yr un brif- ysgol. Gwnaethpwyd ef yn Ddoctor Difinydd- iaeth yn 1616. Ni wyddus yn mha le, neu yn mha fodd, y treuliodd efe ei amser ar ol ymadael a'r brif- ysgol y waith gyntaf. Yn 1604, rhoddodd y brenin Iago iddo fywioliaeth eglwysig Mall- wyd, yr hon a wall-gwympasai oddiwrth yr es- gobaeth yn yr yspaid ar ol marwolaeth y Dr. Morgan, a chyn cyssegriad y Dr. Parry yn ei le. Pan gymerodd y Dr. Parry gyflawn ieddiant 0 i esgobaeth, dangosodd ei fawr hyder ar y Dr. Dafis, trwy ei ddewis yn Gaplan iddo ei hun, a roddodd iddo yn mhellach y cyfryw fywioliaeth- au ag oeddynt yn arhydeddus ao enillfawr hefyd. Gwnaed ef yn Ganon gyntaf yn ysgobdy Llanel- CrF.l. 41 wy, yn 1612, yr hyn a newidiodd am Brebend Llan Nefedd yn 1616. Cafodd Lanymowddwy yn 1613, a Darowen yn 1615, yr hwn a rodd- odd efe i fynu am Lanfair, ger y Bala. Dy- wedir hefyd bod plwyf Garthbebibio hefyd gan- ddo; ond am hyn ni allwn gael dim tystiolaeth sicr. Pan gymerodd yr Esgob Parry mewn llaw i ddiwygio y cyfieithiad o'r Beibl a wnaethai y Dr. Morgan, gwahoddodd y Dr. Dafis i gyn- northwyo yn y gwaith, ac yn ddiameu y dyiid cyfrif ran fawr o gywreinrwydd addefedig yr ar- graffiad hwnw i'w gwbl adnabyddiaeth ef a'r Gymraeg. Iddo ef hefyd y syrthiodd y gwaith o gyfieithu i'w famiaeth y " namun un deugain erthyglau crefydd." Mae rhai hefyd yn haeru iddo gynnorthwyo yr argraffiad a barotodd [y Dr. Morgan, ond nid yw hyn yn debyg. Argraffwyd ei Ramadeg Cymraeg yn 1624.— Y Geirlyfr Cymraega Lladin a ddaeth allan yn 1632, a cbydag ef yr argraffwyd Geirlyfr Lla- din a Chymraeg, yr hwn o'r lleiaf a ddech- reuasid gan un Dr. Thomas Williams, o Dref- riw. Cyboeddwyd hefyd, yn rhwym yn un llyfr, gasgliad o Ddiarhebion Cymreig, ac o enwau awdwyr a beirdd Cymru, ynghyd ag hysbys- rwydd o'r amser pryd yr oeddynt yn fy w, &c '■ Yn yr un flwyddyn, cyhoeddwyd Llyfr y Resolu- tions—cj'fieithiad o waith un Parsons. Er mai aelod o Eglwys Rhufain oedd yr awdwr hwn, barnid y gwaith yn orchestol. Bu y Dr. Dafis fyw mewn anrhydedd mawr yn ei gymydogaeth, ac a berchid megis gweihi- dog ffyddlon a chymwynaswr haelionus. Rhodd- odd i dlodion y plwyf, tra rhedai dwfr, fae» a elwir Dolddyfi ; yrhwn, er golchi ymaith lawer o hono gan yr af'on, sydd o gryn werth. Ad- eiladodd hefyd ar ei draul ei hun bont faen yn y gymydogaeth, yr hon a elwir Pont-y-Cleifion. Ymaeyplwyfyn ddyledus i'r ui^ haelioni am ail-adeiladu canghell a chlochdy yr eglwys. Ar y clochdy, yn gystal ag yn un o ystafelloedd y persondy (yr hwn a gwbl adeiladodd efe,)' y mae Uythyrenau dechreuol ei enw, I. D. y rhai a osododd efe yno, mae yn debyg, er cadw coffadwriaeth am dano; ond pa goffadẅriaeth a ddichon barhau cyhyd [a'i Ijfrau clodfawr ei hun. Ni wyddus ond ychydig am hanes ei füchedd gartrefol. Dywedir iddo ddaufon ei was i ddegymu rhug i blwyf Llanmowddy; ac i berch- ennog yryd achwynwrtho am gymeryd mwy o rug nag oedd yn ddyledug iddo. Cymeroâd y Khif. 21.