Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lv- 36 Hydbef 15,] Y BEREAD. [1842. SYLWEDD ÍEEOEIB A DRADDODWYD GAN Y TARCH.W. OWEN, GWETNIDOG Y BEDYDDWYR YN riTTSBURGH, Ar ddydd Saibath, y 25ain o Jis Ebrill diweddaf. E?H. ni. 4—6.—Wrtb yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall yn nirgelwch Crist,&c.' FARHAD O TU DAL. 290. Yn-awr, gan mai yn mysg yr Iuddewon y bu íoan a'n Harglwydd Iesu Grist yn pregethu yr efengyl, er troi, dychwelyd, a gwneuthur dysgyblion, er cyfansoddi eglwys newydd ar y ddaear i Dduw, yn ol natur y cyfammod new- ydd, yr hwn a addawodd yr Arglwydd yn Jer. xxxi. 31—34. " Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfamod newydd a thŷ Israel ac a thŷ Judah," &c. Megis y sylwa yr aposíol yn yr wythfed o'r Hebreaid, a'r chwechfed adnod, Pwy a feiddia ddywedyd yn bresenol nad ydyw yr hen gyfamod wedi diflanu, ie, pwy wyt ti a ddadleui yn erbyn Duw, ac ynerbyn yr Ysbryd Glan ; Heb x. 15, 16 ; "Ac y mae yr Ysbryd Glun hefyd yn tystiolaethu i ni, canys wedi iddo ddywcdyd o'r blaen, Dyma y cyfammod yr hwn a ammodaf fi a hwynt ar ol y dyddiau hyny, medd yr Argl- wydd ; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonau, ac a'u hysgrifenaf yn eu meddyliau, a'u pechodau a'u hanwireddau ni chofjaf mwy- ach. Dyma yr eglwys a sonia yr apostol am dani yn Gal. iv. 26. " Eithry Jerusalem hono uchod sydd rydd, yr hon ydyw ein mam ni oll." Dyma yr eglwys yr unwyd y cenedloedd a hwynt, megisy dywedir yn ngheiriau y testyn y byddai y cenedloedd yn gyd-etifeddion, &c. Gal. iv. 27. "Canys ysgrifònedig yw, Llawen- ha di yr anmhlantadwy, yr hon nid wyt yn epil- io; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor ; canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi wr." Yn awr, er agor y ffordd i ddwyn y cenedloedd i mewn i fwyn- had o'r rhagorfraint oruchel hon, yn gyntaf, Diddymwyd yr hen, er dwyn i mewn amlygiad o'r cyfammod newydd mewn gweithrediad; oblegid wrth ddywedyd cyfammod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hen ; yn ail, Diddym- wyd y berthynas naturiol oedd yn rhoddi hawl i'r eglwys Iuddewig o dan yr hen orucbwyliaeth, er rhoddi lle i'r berthynas ysbrydol yn ol natur y cyfammod gras o dan yr oruchwyliaeth efeng- ylaidd. Gellir dywedyd yn bresenol nm aelodau yr eglwys efengylaidd, y rhai ni aned o waed, nac o'r cnawd, nac o ewyllys gwr, eithr o Dduw. Ac er fod y Phariseaid a'r Saduseaid yn had naturiol Abraham, ac yn aelodau o'r eg- lwys Iuddewig, ac arwydd y cyfammod yn eu cnawd, pan y daethant at Ioan i ymofyn rhan yn mreifttiau yr eglwys efengylaidd, nid oedd lle Ctf, 1. * 39 iddynt gael hyny heb iddynt ddwyn ffrwythau addas i edifeirwch, yr hyn ydoedd effaith gweithrediadau y cyfammod gras ; ac er bod Nicodemus yn un o blant Abraham, yn aelod ac yn swyddog o'r eglw.ys Iuddewig, aeth Mab Duw i'w lw os na fuasai iddo gael ei eni dra- chefn fod yn anmhosibl iddo fyned i mewn i deyrnas Dduw ; nid yw rhyfedd erbyn hyn fod yr apostol yn dywydyd, " Nid adwaenom nebyn olycnawd;" ac os buomyn adnabod Crist yn ol y cnawd, nid ydym mwyach yn ei adnaböd ef felly. " Od oes neb yn Nghrist y mae efe yn greadur newydd, yr hen bethau a aethant heibio, wele gwnaethpwyd pob peth o newydd." Yn awr, gyfeillion, chwi & welwch yn eglur natur y ddwy eglwys ; yr hen yn naturiol a'i de- fudau o'r un natur, a'r newydd yn ysbrydol a'i holl wasanaethyr un modd. Genedigaethnatur- iol.ac o waed oedd yn rhoddi hawl i rhagorfraint yr hen, ond genedigaeth ysbrydol sydd yn rhoddi dyfodfa i mewn i'r eglwys efengylaidd ynghyd a'i holl freintiau. " A'r galon y credir i gyf- iawnder, ac a'r genau y cyffesir iachawdwr- iaeth." Dyma y dystiolaeth oedd yn rhaid ei chael oddiwrth Iuddew a Groegwr cyn ei dder- byn i mewn i'r eglwys efengylaidd ; ac yr yd- wyf yn rhoddi her i bawb a ddangosant i mi yn y Beibl Santaidd bod neb yn cael, eu der- byn i mewn i'r eglwys efengylaidd yn amser Ioan, Crist, a'r apostolion heb Lroffes o ffydd bersonol, ac y.n dwyn ffrwytliau addas i edifeir- wch ; .felly chwi a.welwch mae ar yr un Uwybr oedd yr Arglwydd Iesu Grist yn dwyn i mewn a than yr un nodweddiad i'r eglwys efeng.yl- aidd, Iuddewon a Chenedloedd ; " Canys nid oes gwahaniaeth;" megys y cadarnheir gan jr aposlol yn Ephi ii. 15, 16. ac a ddirymodd, trwy ei gnawd ei hun, y gelyniaeth, sef deddfy gorchymynion niewn ordinhadau, fel y creai y ddau yn un dyn newydd gan wneuthur hedd- wch ; ac fel y cymmodai y ddau a Duw yn un corff trwy y groes, &c. Yn awr, yn ymddangos- iad ein Harglwydd Iesu Grist y gwelaf y pro- ffwydoliaethau yn cael eu gwirio, obìegid iddo ef mae yr holl broffwydi yn dwyn tystioîaeth, y derbyn pwy bynag a gredo ynddo ef faddeuatit pechodau trwy ei en.w ef; y eysgodau wedi eu sylweddoli; y gyfiaith wedi ei hanrydeddu ; cyfiawnder wedi ei foddloni, ac yn gwaeddi, gollwng ef yn rhydd, canys myfi a gefais iawn; pechod wedi ei gondemnio yn y cnawá; di- afol, yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddq, wedi ei ddinyatrio; angeu wedi cwrdd a'i ang- Khif. 20.