Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hydeef 1,] Y BEREAD. [1842. SYIWEDD PREGGTB A DRADDODWYD GAN Y PARCH W. OWEN, GWEINIDOG Y BEDYDDWYR YN PITTSBURGH, Ar ddydd Sabbath, y 25ain o Jis Ebrill diweddaf. Eph. iii. 4—6.—" Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall yn nirgelwch Crist." Mae trefn iachawdwriaeth a chadwedigaeth pechadur wedi bod yn ddirgelwch yn y Duw mawr er cyn bod y byd, ac yn anwybodus i ddyn ac angel, fel ei greaduriaid meidrol, i allu amgyffred yr hyn oedd yn mwriadau y Jeho- fah hyd nes oedd yn gweled bod yn dda i ddat- guddio ei hun, yn ol ei arfaeth dragywyddol, yr hon a weithredodd efe yn Nghrist fel Cyfryngwr rhwng Duw a dyn, (er mawl gogoniant ei ras,) yr hwn, pan ddaeth cyflawnder yr amser, a ddanfonodd efe, " fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, ac y derbyniem y mabwysiad. Yr oedd yr apostol pryd yr ysgrifenodd yr epistol hwn, yn garcharor yn Rhufain, am bregethu efengyl y deyrnas, yr hon oedd yn groes i fedd- wl pawb yn eu cyflwr naturiol yn yr oesoedd hyny, oblegid nad oedd y dyn anianol yn am- gyfFred y pethau sydd o yspryd Duw ; yr oedd yr apostol ei hun wedi bod yn hollol anwy- bodus o natur teyrnas y Cyfryngwr, neu oruch- wyliaeth gras, yr hon a ddatguddiwyd iddo gan Dduw, trwy nerthol weithrediad deddf Yspryd y bywyd yn Nghrist Iesu, ond yn awr yn mawrhau ei fraint, ac, o dan gyfarwyddyd ys- prydoliaeth, yn ysgiifenu at yr Ephesiaid mewn perthynas i'r oruchwyliaeth newydd, yr hon a eilw efe yn ddirgelwch Crist yn y testyn. Mi a ddeuaf yn bresenol at y testyn sydd dan sylw. I. Fod yr apostol yn deall yr hyn y mae yn ei ysgrifenu. II. Swm a sylwedd yr hyn y mae yn ei ddeall yn mherthynas i'r pwnc, sef y byddai y cenedloedd yn gyd-etifeddion, yn gyd-gorff, ac yn gyd-gyfranogion o'i addewid ef yn Nghrist trwy yr efengyl. ( III. Y canol-bwynt a nodir er mwynhau y rhagorfraint a ddesgrifir—yn Nghrist. Ond I. Fod yr apostol yn deall yr hyn a ysgrif- enodd. Un o ragoriaethau yr apostol wrth ysgrifenu ei epistolau oedd ei fod yn amgyffred yr hyn ag oedd mewn gafael ag ef; ac hefyd yr oedd yn ymestyn tuagat gael ei wrandawyr i fwynhau yr un rhagorfraint; fel y dy wed yn ei epistol cyntaf at y Corinthiaid (xiv, 18, 19.) " Yr yd- wyf yn diolch i'm Duw fy mod i yn Uefaru a thafodau yn fwy na chwi oll, ond yn yr eglwys gwell genyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau rnewn tafod dyeithr. Un o alluoedd, neu gynheddfau yr enaid yw y deall, a pha un yr ydym yn adnabod gwrthrychau neu yn dirnad Ctf, 1. 37 eu hansawdd a'u cydmaru y naill ar gyfer y Ilall fel y gallom fîrnu mewn perthynas iddynt; Luc xxiv, 45. " Yna yr agorodd efe eu deall hwynt fel y deallent yr ysgrythyrau " Y mae yr Arglwydd, o'i drugaredd, wedi cynysgaeddu dyn a'r gynheddf odidog hon, yr hon a'i gwna i ragori ar yr holl greaduriaid direswm : ond nid oes gan ddeall dyn un gwrthrych ynddo ei hun- an, ond rhaid iddo gael gwrthrychau, ynghyd a goleuni a chyfrwng addas trwy ba rai y gall edrych arnynt, megys y dywed yr apostol mewn man arall, " Yr ydym ni oll ag wyneb agored yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megys mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megys gan ysbryd yr Arglwydd." Yn awr, y mae barn dyn am danynt yn ymddibynu llawer ar ddidueddrwydd ac agwedd ei feddwl, o herwydd ni wel y naill ddirn prydferthwch mewn gwrthrychau a ymddengys i'r llall yn llawn o ogoniant a harddwch. Diameu fod gan yr ysbryd aflan ddeall cryf, ond oblegid y gwyrni a'r gelyniaeth sydd ynddo o ran ei anian a'i dueddiad, nid ydyw yn canfod nac yn barnu yn addas am ddim o'r pethau y mae yn ei wybod ; felly hefyd y dyn anianol, nid yw yn derbyn y pethau sydd o yspryd Duw, canys ffol- ineb ydynt ganddo ef, ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt; 1 Cor. ii, 14. Rhaid cael deall wedi ei santeiddio i adna- bod pethau santaidd, ac i Dduw eu hegluro i ni trwy ei Ysbryd, megys y dywed yr apostol ei hun yn y geiriau o flaen y testyn, mae trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i niy dirgelwch. Mae yn ymddangos i mi mai yn yr wybodaeth o Dduw a threfn iachawdwriaeth y mae i nl gael iawn syniadau, megys y dywed yr Argl- wydd Iesu Grist, " Hyn ydyw y bywyd tragy- wyddol, iddynt dy adnabod di, yr unig wir Dduw," &c.: an felly drachefn wrth Simon, " Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd byn i ti, ond fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd." Megys y cyfaddefa yr apostol yn 2 Cor. iv, 6, " Canys Duw, yr hwn a orcbymynodd i'r goleuni lew- yrchu allan o dywyllwch, yw yr hwn a lew- yrchodd yn eich calonau i roddi goleuni gwy- bodaeth Duw yn ngwyneb Iesu Grist. Felly, ni a welwn nad oedd Paul, pan yn ei gyflwr na- turiol (er ei fod yn Iuddew, ac o'r sect fanylaf o honynt, ac o had Abraham yn ol y cnawd, ac o lwyth Benjamín,) yn feddianol ar y ragorfraint oruchel hon nes i'r Arglwydd Iesu ei gyfarfod ar y ffordd wrth fyned tua Damascus, a thrwy y Rhif. 19.