Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mebi 15,] Y BEREAD. [1842. YN ANGENRHEIDRWYDD O FYWYD ADDAS; SEF TATFYRIAD O Lythyr Cymanfa y Bedyddwyr Neillduol yn Morg-anwg am 1842. A GYFANSODDWYD GAN Y PARCH. JOHN JONES, SEION, MERTHYR. Frodtr yn tr Arglwtdd, — Goddefwch air y cynghor. Wele un flwyddyn eto wedi treiglo ei throion i ben, ac wedi dwyn gyda hi lawer o gyfnewidiadau pwysig. Amryw oedd yn y Gymanfa liynedd ynt wedi cyrhaedd y byd tragywyddol, a'u tynghed anghyfnewidiol wedi ei thragywyddol benderfynu ; a chyny di- bena hon eto fe fydd lliaws wedi gadael dnear, a chroesi y terfyngylch sydd yn rhanu rbwng yspryd a chnawd. Und y mae genym achos di- olch i Dduw, fod cynrfer ẃédi cael aros, acban- oedd, ni a obeithiwn, wedi eu hywhau trwy ras, y rhui a fyddant byth yn arwyddion ac yn rhy- feddodau ar dir Errmnuel yr ochr draw. Yn lie wylofain ac áflwyddiant, fe welwyd yr anial- wch yn blodeno fel Eden, a'r diff'eithwch fel gardd yr Arglwydd. Ac o dan ddylanwad Ys- pryd Duw trwy y weinidogaeth, fe chwalwyd y niwl caddugaidd a ordoai lawer eglwys, ac arni yr ymagorodd ffnrfafen led ddisglair, ac ynddi y llewyrchodd liiaws o ser tra thanheidiol, y rhai o adlewyrchant byth yn ngholeuni anniffoddadwy Haul y cyfiawnder. Ond er galar y mae amryw wedi gadael a tbroi yn ol i'r ben wlad. Ar eu cycbwyniad cyntaf gwelwyd hwynt yn llawn gwres a chariad ; ond ar newidiad y/ tywydd, newidiasant hwythau hefyd, " Ni rodiasant mwyach gyda'r Iesu." Y maent heddyw yn destyn can i'r meddwon ac yn wawd i'r ynfydion, a'u hymddy°iad yn profi fod pleserau pechod yn weíl ganddynt bwy na chrefydd Crist. Y creaduriaid gwrthgiliedig byn ynt y bodau ynfytaf a fedd y dywysog- aeth. Os nad oedd crefydd o werth dod ati, fl'oiineb ynddynt oedd dyfod ; ond os oedd cre- fydd o werth dod ati, ffolineb ynddynt oedd ei gadael. Y mae crefydd o werth ; y perl penaf a fedd "y ddaear; a diffyg mwynhad o honi yw yr achos fod neb yn ei gadael. Cofiwn ynte hun- an-ymholi; a'r hwn sydd yn sefyll, edryched na syrthio. Er fod rhai yn ymadael, eto y mae llawer yn glynu. " A fynwch chwithau befyd fyned ymaith'? at bwy yr awn ni o Arglwydd, genyttiymae geiriau y bywyd tragywyddol." Ein penderfyniad wrth adael yr Aiff't oedd teithio nes cyrhaedd Canaan; wrth ddechreu y rhyfel oedd ymlndd nes cael y fuddygoliaeth ; ac wrth adael yr hen wasanaeth gormesol oedd par- hau gydayr un newydd nes y cyrhaeddomy wlad y gwobrwyiry flÿddloniaid ag anrhydedd tragy- wyddol. Llawer gwaith y gorfuwyd ni gan beryglon, a chroesau, pistylloedd ar bistylloedd Cxf. 1. 85 yn ymdaflu ar eu gilydd nes oedd y dyffryn yn rhwygo, eirth a llewod yn rhuo, nes oedd y galon yn arswydo, y mellt llidiog yn fflnmio, a r taranau ofnadwy yn ymddyrysu ; ond er y cwbl nid oes a'n hatal yn ein taitb neseiti myned i'r wlad y treigla tonau gofid y tu isaf i ni, acyr ymddengys yr anialwch yn dir wedi ei groesi. Ond gan mai yn ngwlad y gelynion a'r bKn- dernu yrydym eto, cofiwch fod bncheddaddas a duiciol yn wir angenrheidiol i natureich sefýllfa, yn gystal ag yn gymhwys i'ch gobeithion dy- fodol. Belhch, bwriwn olwg ar sefyllfa berthynásol canlynwyr Crist yn awr, mewn tiefn i arwain eich meddwl yn gymhwyHach at y prif bwynt yr ymdrecbir galw eich ystyriaeth ddifrifolaf ato, &c. Amrywiol a lliosog ynt y cymeriadau a ddy- noda bobl Ddüw yn y byd hwn, ac yn mhüth eraiìl udnabyddir hwynt dan yrenw anrhydeddus a boneddigaidd, " y rhai galwedig," gan olygu eu symudiad effeithiol o'r tywyllwch i'r goleuni, a'u dygiad rhyfeddol o feddiant Saîan at y Duw byw. " Y rhai a ragluniodd efe, y rhai hyny a alwodd efe." Yr hwn »'n hachubodd ni, ac a'n galwodd a galwedigaeth santaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras. Cofy w genych am y man y caed gafael ynoch; nid yn ceisio trugaredd ac yn hlygedig o ilaen gorsedd Duw yn llefain am fywyd wedi ei guddio yn angeu y groes, ond yn ymladd yn erbyn y nef, ac yn troedio y ffbrdd sydd yn terfynu mewn distryw tragywyddnl, a chan gymaint oedd y bai y mae yn beth i'w ryfeddu byth na buasai drws galwad yr (fengyl wedi ei gau, a ninau yn ochain yn y pydew diwaelod o dan soriant y Duw addigiwyd.yn gruddfan, " 0 na wrandaw- sem ar lais ein haihrawon ;" ond bellach daifu'r haf, aeth y cynhauaf heibio, ac nid ydym ni gadwedig. Lliaws, fe allai, a wrandawodd yr efèngyl yn Nghymru ynt heddyw wedi croesi y gagendor, a'u c'lymu mewn cadwynan na threul- ia gwres yso! y ffîam 'mo honynt yn oes oesoedd. Ot:d y Duw bendigedig, yn ngbyfòeth ei ras, trwy weinidogaeth y cytnod, a dorodd faglau pechod am eich eneidiau chwi, gan eú cyhoeddi byth ýn rbyddion yn Uys cyfiiiwnder, a'u symud drosodd o afaelion y ddeddf droseddedig heb wneud cam a'r Jly wodraeth na cham a'r pechad- urchwaith. Wedi eẅh dwyn i'r fath sefyllfe ogoneddus, Rhif. 18.