Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Medi 1,] Y BEREAD. [1842. CYFLAWNIAD GORGHWYLION A DYLEDSWYDDAU. At Olygydd y Beread, Haeddbarch Syr,—Gan eich bod chwi, yn gystal ag amrîii o'ch darllenyddion, wedi mynegu eich cymeradwyaeth o'r sylwadau ar " yr amseroedd drwg hyn," rnewn rhifyn blaen- orol o'ch cyhoeddiad clodwiw, hyderwyf mai nid annerbyniul genych chwi, ac nid anfuddiol i eich derbynwyr, fyddant y sylwadau canlynol ar adnod arall yn ngwaith y dyn doeth. Llyma hwynt at eich ystyriaeth. J. M. Jones. Caerefrog Newydd, Awst 1, 1842. PREG. IX. 10. " Beth bynag a ymafael dy law ynddo i'w wneu- thur gwna a'th holl egni ; canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwyliodaeth, na doethineb yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned." Ceir yma grybwylliad am ryw beth idd ei wneuthur, a chynghor neu gyfarwyddyd pa fodd yr ydym idd ei gyflawni, yn gystal ag anogaethau er ein cefnogi i wneuthur fel y maey pregethwr yn ein dysgu. I. " Beth bynag a ymafael dy law ynddo (neu a gaffo dy law) i'w wneuthur." Meddyliwyf fod yr ymadroddion hyn yn cymeryd i mewn, neu yn cynwys holl ddyledswyddau a gorch- wylion y bywyd presenol,—y cynwysa bob gwaith a welwn yn disgyn arnom yn nhrefn rhagluniaeth ddwyfol, pa un ai mawr ai bychan a fyddo—ein galwedigaeth ddyddiol, yr holl ddyledswyddau a darddant oddiar ein perthynas fel pen neu aelod teuluaidd, fel cyfaill, fel cym- ydog, fel dinasydd ; a'r oll a berthynant i'n dy- ledswyddau fel deiliaid llywodraeth f'oesol Duw, a'n gobaith am daledigaeth y gwobrwy mewn byd dyfodol—bywyd tragywyddol. Mewn gair, cynwysa y cwbl a weddai i greadur rhesym- ol yn ein sefyllfa ni ei gyflawni—pob peth ag y mae synwyr cyffredin a chydwybod wedi ei deffroi gan ofn Duw, ac yn cymeryd ei rheoli gan ei ddeddfau ef yn gofyn genym wneuthur. Y modd y mae i ni wneuthur hyn ; " Gwna a'th holl cgni." Nid yn anewyllysgar ac es- geulus, nid yn ddifraw ac fel pe nas gofalit pa un a wnelit ef ai peidio—ac nid yn ol mympwy penboethlyd neu gynhyrfiad gwamal a dall— ei- thr yn ol y gallu hwnw y mae Duw wedi ei roddi it'—gallu creadur gwybodus a rhes- yrool, gweithgar ac ystyriol. Beth bynag a gafîìt idd ei wneuthur yn y byd gwna ef oreu y medrot, gwna ef yn ddioedi, heb adael un- rhyw gyfle i ddianc, ymafael ynddo gyda dy holl fryd, a phenderfyniad ar ei gyflawni; yn ddirwgnach o herwydd ei fod yn gofyn lía- Cxf. 1. 33 fur; yn ddiwyrni oddigerth fel y byddo Duw trwy oleuni ei air a'i ras yn dangos it' dy fod ar fai. " Beth bynag a ymafael dy law ynddo i'w wneuthur, gwna a'th holl egni." Bob amser yn weithgar, yn cadw dy holl alluoedd ar waith er cyflawni pa beth bynag a ddelo i'th ran idd ei wneuthur yn y byd hwn. Yr anogaeth neu y rheswm, paliam y dylem wnenthur felly. " Canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb yn y bedd, Ile yr ydym ni yn myned." Yr ydym ni bob mynudyn yn tynu tua y beddrod, a phan ei cyrhaeddom, dyna ein cyfle i wneuthur ein dyledswydd wedi darfod am hytii. Yno, nid yw y llafurwyr yn gweithio mwy. Yno, nid yw y meddwl diwyd marsiandiol yn dyfalu ei anturiaethau enillfawr mwy. Yno, nid yw y gwybodus, myfyrdodau dyfnion yr hwn a oleu- ent ac a gyfoethogent y byd, yn myfyrio nac yn addysgu mwy. Yno nid yw doethineb y gwyliaduriaethwyr, y dyn-garwyr, #'r rhai oedd- ynt ddoethion i enill eneidiau i edifeirwch a'r nef yn cynllunio mwy, nac yn Ilefaru mwy. Y mae amser yn ein cludo ar ei adenydd cyflym tua y byd anweledig, lle nas gaüwn byth adferu y cyfeiliornadau, adgyweirio y cam, na gwneid i fynu am yr esgeulusdra y buom yn euog o honynt yma. Am hyny, gwnawn a'n holl egni yr hyn sydd ddyiedus arnom ei gyfiawni; ca- nys gwelwn fod yn rhaid i ni wneuthur yn awr pa bethau bynag a berthyn i ni eu gwneud yn y byd hwn, neu eu gadael byth heb eu cyflawnu : am hyny, pa bt-th byna* sydd gen- ym idd ei wneuthur, gwnawn ef; a gwnawn ef oreu ag y medrom; canys ychydig bachigyn eto, ac annichonadwy fydd i ni ei wneud na ei wella mwy. Wedi adolygu, fel yma, ystyr y geiriau dan sylw, ymdrechwn wneuthur cymhwysiad o ho- nynt at amryw ddyledswyddau penodol. Yr ydym yn barod wedi gweled fod yr ymadrodd " Beth bynag a ymafael (neu yn ol y Saesnaeg a gaffo) dy law ynddo i'w wueuthur," yn un tra chynwysfawr, yn cymeryd i mewn bob dy- ledswydd orphwysedig ar ddyn tu yma i'r bedd a byd tragywyddol. I. Gyda golwg ar ein gwaith neu alwedig- aeth ddyddiol. Ni waeth beth fyddo dy alw- edigaeth o bydd yn un onest a defnyddiol i ddynohyw, ac yn wir nis gall yr un fod yn onest heb fod yn ddefnyddiol ;—gan nad beth fyddo, dy ddyledswydd di yw bod yn ddyfal wrtho. Dy lafurwaith beunyddiul, gan na pa mor wael neu anrhydeddus fyddo yn ngolwg dynolion sydd gyfran mawr o'r hyn y mae Duw wedi penodi i ti ei wneuthur yn y byd. Am hyny dylit wneud a'th holl egni beth bynag a ddelo i'th ran yn y sefyllla y mae Rhif. 17.