Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Awst15,] Y BEREAD. [1842. BlTIL-aOFIAIffT AM T DlWEDDAR BARCH. JÖSEPH RICHARDS; Gweinidog y Bedyddwyr yn Neheu Trenton. Ganwyd gwrthrych ein cofiant yn mhlwyf Llanuwchlyn, swydd Feirionydd, yn y fl. 1762. Bu farw ei dad pan oedd ef o ddeutu wyth oed, ac amddifadwyd chwech o blant o'u tad, a'u mam o'i phriod, ond gofalodd ymgeledd- wr y gweddwon a thad yr amddifaid am danynt, fel na fu arnynt eisiau dim. Aeth Joseph allan i wasanaethu pan yn lled ieuanc, ac yr oedd, fel eraill d'r ieuenctyd, yn dra gwyllt am yspaid o amser, ond cafodd cynghorion ei fam (yr hon oedd yn proflfe.su crefydd) le ac- argraff ar ei feddwí er ei atal rhag myned i ryw bellafoedd o anfoesoldeb ; a phan ydoedd oddeutu ugain oed, torodd di- wygiad tra grymus allan yn mysg yr Anym- ddibynwyr yn y gymydogaeth île y preswyîiai, ac yn y çyfamser ymunodd yntef gyda hwy, a bu yn aelod yn eu plith am yspaid un-ar-ddeg o flynyddoedd ; oddeutu yr amser yma anes- mwythwyd ei feddwl o barthed i ddull yng- hyd a deiliaid bedydd Cristionogol, a phender- fynodd, yn ngwyneb clorian y cysegr, nad tach- elliad oedd y dull, ac nad babanod oeddentddeil- iaid bedydd ysgrythyrol ; felly mewn ufudd-dod i, ac o gariad at, Iachawdwr ei enaid, ymos- tyngodd i'w ordinhad santaidd, ac ufuddhaodd i'w orchymyn pendant. Dechreuodd bregethu pan gydà yr Anymddi- bynwyr, ond fel y tystiai ei hun fod ei feddwl yn wahanoì iawn y pryd hwnw am ddull ei weinidogaeth i'r hyn ag y bu, sef y byddai cyflwrpechaduriaid yn ei arwain ifod yn daran- Hyd iawn; ond yn lle bod yn un o feibion y daran, un o feibion diddanwch ydöedd yn nghyf- lawniad ei gylch gweinidogaethol, pa un j'doedd dra buddiol er adeiladu Seion ar ei santeiddiolaf ffydd. Canolbwynt ei ẃëìnidogoeth ydoedd bob amser yn t.ueddu er darostwng dyn, a derchafu rhad ras y Jehofa mawr yn achübiaeth colledig- ìon. Bu yn weinidog ar eglwys y Bedyddwyr yn Dolgellau lawer oflynyddoedd, ac yn y flẅyddyn 1819, ymfùdodd oddiyno tuag America, yr.g- hyd a'i wraig a chwech o blant. Yii mhen ychydig amser ar ol ei diriad i'r wlad hon, ymsefydlodd yn agos i Ddeheu Trenton, ac yno ybuyn trigianu hyd ddydd ei farwolaeth. i>u am oddeutu wyth mlynedd yn cyd-weini- wgaethu a'r brawd John lipphens yn Utica, nyd nes y corffolwyd eglwyffechan yn Deheu 'renton, yna dewiswyd yntef yn weinidog arni, a thyma Ue y bu yn gweinidogaethu gyda der- Cxf. 1. 31 byniad a phartíh gan yr eglẁys ýn neillduol, ä chan y byd yn gyffredinol. Yr oedd yn feddianol ar gyneddfau cryfion, ac nid oedd henaint yn cael un effaith arnynt er eu gwanhau; ond mwynhaodd gwasanaeth yn hynod hyd y diwedd. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu a deall cyflym ynghyd a sefydlog- rwydd rheddwl. pa rai a'i haddurnasant yn dra rhagorol. Ymddengys fod ei iechyd corfforol wedi gwáethygu i raddau y gauaf diweddaf; teimlai ei gyfansoddiad yn llesg a gwiwedig, ond adfywiodd ychydig yn nechreu y gwan- wyn, hyd nes y tarawyd ef a'r billiousfever, pa una brofodd yn angeu iddo yn mhenpump o ddi wrnodau ar ol ei gymeryd yn glaf, felly hunodd yr hen bererin hwn ar y 22ain o Ebrill diweddaf> a gadawodd dystiolaeth ar ei ol, " Fod cymwys ymorphwysiad Ei was mwyn ar Iesu mad." Ac mae yr athrawiaeth a bregethasai yn ei fywyd ydoedd ei gynaliaeth yn angeu. Ymddangosai yn dawel ei feddwl wrth wynebu glyn y ter- fyniad. Gadawodd gystudd a galar, a goddi- weddodd lawenydd a hyfrydwch na dderfydd byth ar fryniau hedd. Y dydd Sadwrn canlynol, ymgynullodd torf luosog o bobl yngbyd i dalu eu cymwynas olaf i'w babell briddlyd, trwy ei hebrwng i dy ei hir gartref, yn mynwent Deheu Trenton. Pregethwyd ar yr achlysür gan y Farch. W. H. Thomas, Utica, yn yr addoldy. Fellyygor- ■wedd ei gorff yn y gweryd óer hyd ddydd caniad yr udgorn mawr, pan y cyfỳd hyderwn i gael cynal tragywyddol bwys gogoniant. M. J. W. T AITH GAEREFROG-NEWYDD I FOTTSYILLË Boreu dydd Llun [cychwynais tua Philadel- phia ; yr oedd yn dyẁydd tesog, a hpll anian megis yn gwenu; oyn canol dydd cyrhaeddais y gledrffordd sydd yn myned trwy Jersey- Rhif* 16.