Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

!5 Awst 1,] Y BEREAD. {1842. LLYTHYR CYMAf FA, Y, BEDYDDWYR A YSGRIFENWYD GAN Y FAHCH. A. PERRINS, O EGLWYS Y BEREAID, C. N. Gweinidogion a Chenhadon Cymanfa y Bedyddwyr yn Nghaerefrog-Newydd, yn gynulledig yn eglwys gyntaf y Bedyddwyr yn y ddinas hono, Mai 31, 1842, at yr eglwysi a gynrych- iolant:— Fhodyr Anwyi,,—Yn nghyflwyniad ein ilythyr blynyddol yr ydym yn ystyried ein hun- ain dan y rhwymedigaethau grymusaf i olygu, mewn cysylltiad a gogoniant Duw, Jlesiant penaf ein brodyr a'n chwiorydd a gyfansodd- aní yreglwysi o ba rai yr ydym ni yn genhad- on. 0 lawer o destynau ysgrytbyrol a fyddai yn ddefnyddiol i bobl yr Arglwydd yr ydym wedi penderfynu i ddewis Cyfarfodydd gwedm fel maier ein llythyr y tro hwn. Wrth gymeryd dau neu dri o wahanol olygiadau we yr ymgynulliadau hyn o eiddo pobl Dduw, yr ydym yn nodi, yn flaenaf, sylfaen eu dylcdswydd i ap- wyntio a gofalu am gyfarfodydd gweddiau ; neu mewn ymadroddion eraill, dangos paham y nme yn ddyledswydd i gyfarfod i'r dyben i we- ddio. Nid vdym yn enwi ond vn rheswm :—sef yw hyny, fod Duw wedi gorchymyn hyny yn ei air santaidd. Mae arddelwadara arwyddocaol yn yr holl amgylchiadau lle y mae yr Arglwydd* wedi gwneud darbodaeth i fod yn bresenol yn y cwrdd gweddi, ac i ft-ndithio ei bobl yno, me- gis Math. xviii, 20. " Canys lle mae dau neu di'i wedi ymgynull yn fy enw i, ynoyrydwyf yn eu canol hwynt." Ond y mae genym ni- feroedd o destynau uniongyrchol, megys Iago v. 16. " Cyffeswch eich camweddau bawb i'ch gilydd, a gweddiwch dros eich gilydd, fel i'ch mchaer." Mae mwy yn gynwysedig yma na gweddio dros ein gilydd yn yr ystafell neu yn ddirgel; geilw cyffesu y naili i'r Ilall am i ni ddyfod ynghyd—cyfarfod; ac ni ddichon i ni lai na chanfod yn y goleu hwn fod yr ysgrythyr yn cynwys gorchymyn pendant am gyfarfodydd cymdeühasol a gweddiau. Heb. x. 25. " Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain ;—a bod cyfarfodydd cymdeithasol mewn golwg sydd amlwg oddiwrth y rhan a ganlyn ; " Ond an- og bawb eu gilydd," yr hyn ni ellir wneud os na ddaw y brodyr ynghyd, a'r hyn fyddai yn anghymwys i ei wneud oddieithr mewn cyfar- fodydd cymdeithasol. Mae yn hawdd gweled, gan fod Duw wedi e> gwneud yn ddyledswydd arnom i fod yn y cwrdd gweddi, ein bod dan rwymedigaeth mor belled ag y byddo yn bosibl,»i athrechu an- hawsderau ac atalfeydd a fyddo ar ein Öordd i fyned. Llawer a esgusodant eu hunaintrwy Cxf. 1. 29 ddadleu nad oes ganddynt hwy ddim amser i fyned i gyfarfodydd fel hyn. Yn erbyn dadl o'r fath nid ydym yn cael ein tueddu i ym- resymu. Yr ydym yn cyfeirio y ddadl a'r sawl sydd yn ei gwneud, at Dduw. Ewch at ei or- sedd, a chan blyg i yno, dyweduch wrtho ef, nad oes genych amser i ei wasanaethu, a chrefwch gael eich esgusodi; neu peidiwch byth a dadleu diffyg amstìr. Nid yn anfynych y clywwn ddywedyd, mewn ff'ordd o ddiheurad pan ddychwelo yr hwyr apwyntiedig, '' Nid yw ond cwrdd gweddi." Ni atebwn chwaith y fath esgusodiad, eithr cynghorwn y person i ei gwneud yn uniongyrchol i Dduw. Dywed wrtho ef. " Nid yw ond cwrdd gweddi," ac edrychafydd dy gydwybodyn foddlon. Eraill a ddadieuant anhwyldeb reegys esgus arh beidio dyfod i oedfaeon o'r fath hyn, ac mewn ilawer o amgylchiadau mae y ddadl hon yti ddiameu yn gyfiawn ; ond O, gynifer a dram- gwyddant Dduw wrth drin y mater yn y modd hwn. Cant iechyd digonol i wneud eu gorchwylion, a myned i barly, ond cant wyniau cylchawl yn eu penau, neu ryw wyn arall, ar hwyr nodedig y cwrdd gweddi. " Na chy- hoedder hynyn Gath." A fynwn ni orchfygu anhawsderau gu-irion- eddol neu ddychymygol ? gadewch i ni gan- iatau hawliau crefydd megys yn bod fel ag y maent, o'r pwysLrwydd blaenaf a phcnaj. Gadewch i ni weithredu o cgwyddor yn lle cael ein Uywodraethu gan deimladau ac ar- graffiadau. A gadewch i ni ddwyn allan yn ymarferol barhad y saint, yn lle dal yr ath- rawiaeth mewn golygiadaeth yn unig ; ac ni a'i cawn yn gymharol rwydd i drechu yr anhawsdeiau hyn, a bod yn ddioedi yn y lle ac mae yr Arglwydd Iesu wedi apwyntio i gwrdd a'i bobl. 2. Y modd ac y dylid dwyn cyfarfodydd gweddiau yn mlaen. Yma mae yn gweddu i ni ddywedyd na ddylem fyned i'r cyfarfod yn ddiofal. Dylem ofalu am dano yn ein defosiynau trwy y dydd í —gofelu bod yn dduwiol-frydol wrth fyned i'r lle apwyntiedig, ac hefyd yn y Ue. Òs bydd- wn yno yn gynar, bydded ein ymddiddanion yn addas i'r achlysur, ac nid yn ddieithriol i'r âmcan bwriadedig. Pan yn gynuìledig o Rhif. 15.