Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GoRPHENHAF 15,] Y BEREAD. [1842. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. BENJAMIN OWEN, ŵbm'níîíoa 2 iSeîrsîrîríagr gn ©ínii£cí>. (O Seren Gomer Mai, 1842.) Benjamiîí Owen ydoedd fabhenafyrhybarch Wm. Owen, Pantllin, gerllaw Llanrwst; a chan y raeddianai fawer o ragorion clodwiw, ac iddo redeg ei yrfa i ben heb lychwino cyfanwisg ei ffydd, trueni fyddai gollwng ei goffádwriaeth i redeg gyda fTrydlif marwolaeth i for anghof. Nid yw yr ysgrifenydd yn gwybod am nemawr ragorion a hynodent ei ddyddiau ieuansaidd namyn ei awydd didoram lyfrau, ei ymddiddan- ion difrifol a sobr, a'i ymarweddiad dycblyn- aidd a difrycheulyd.—Cafodd ei ddwyn i fynu gan ei rhiaint duwiol yn addysg y Beibl, a ffyrdd rhinwedd ; ni ymollyngai gyda dylif gwylltedd a thrachwant y dyddiau hyny ; ni ymgymysgai gyda chymdeithion annuwiol a gwatwarus ; eithr dangosai lledneisrwydd ei fywyd, a'i ymlyniad parhaus wrth ddarllen, a chyda moddion gras, fod a fynai Duw ag ef, ac fod iddo waith idd ei gyflawni drosto. Panoedd oddeutu 19 oed, llwyr argyhoeddwyd ef o'r angenrheidrwydd o wneuthur proffes gy- hoeddus o Grist yn ol ei orchy myn, a dwyn y grefydd brofiadol a dirgelaidd a feddianai yn un ymarfernl ac amlwg ; a bedyddiwyd ef, yn ol esi- ampl Crist, gan y duwiol John Thomas, gweini- dogy Bedyddwyryn Llanrwst, yr un flwyddyn, os nad yn yr un dwfr, a gweinidog hybarch y Casbach. Er nad oedd ei lais morberaidd a den^ar, na'i ddawn mor gyflym a hedegawl ag eiddo rhai, eto canfyddai y frawdoliaeth oddiwrth ei sobr- wydd duwiolaidd, a'i synwyr dwfn-dreiddiawl, fud ynddo gymwysderau mawrion i waith y weinidogaeth: ac wedi llawer o anogaethau o du yr eglwys, a llawer o weddi ac ymbil o'i du yntau, ymosododd ar y gwaith pwysig o '' ber- swadio dynion" yn y flwyddyn 1810—yr un flwyddyn ag y dechreuodd y Parch. E. Jones, Casbach, bregethu, a buant, tra yn yr un gymy- dogaeth, yn ddiau megys Jonathan a Dafydd. Dechreuodd Mr. Jones o dan amgylchiadau mwy gobeithiol na ei frawd, parth dawn a hy- Hthrwydd ymadrodd; ond ni ddigia y gwr parchus hwnw, yr hwn sydd un o ragorion ei oes, pan ddywedwyf y cyfrifai farn Benjamin fel sicrwydd neu faen-prawf (test) o barth dir- gelion trefn gras. Myfyriodd yn ddwys ar ath- rawiaethau bendigedig y grefydd Gristionogol hyd nes daeth cyfundraeth y cymod fel llyfr ger ei wydd. Yr oedd yn nodedig yn ei awydd am wy- bodaeth o bob natur, a chasglodd ystor ddirfawr yn feddiant iddo. Nid oedd nemawr o gelf na gwyddor heb fod i raddau yn wybodus iddo, acyroedd ei gywreinrwydd mewndyfeisìadauyn angbyffredin. Yr oedd yn ysgrifenydd cadarn a sefydlog,—byddai yn byw ac yn aros ar y pwnc a Criu l. * 27 gymerai mewn llaw. Cof gan yr ysgrifenydd weled y bythgofiadwy Christmas Evans gydag ef am ddyddiau yn diwylliaw cynysgrifau ei wa- hanol draethodau, yr hyn a wnai gyda deheu- rwydd mawr. Ynyflwyddyn 1821, priododd gwrthrych ein cofíant ag EHzabeth, merch Thomas Burchin- shaw, Ysw., o Lansannan, yr hon a fu iddo yn briod serchus ac yn ymgeledd gymwys hyd nes iddo ehedeg i fynwes Priod gwell. Yn mhen ychydig wedi priodi symudodd i fferm gerllaw Dinbych, ac yn y ftwyddyn 1826 neillduwydef yn fugail ar eglwys y Bedyddwyr yn y dref hono, a pharhaodd idd eu gwasanaethu hyd o fewn ychydig i'w farwolaeth. Yr oedd ynddo awydd er ys blynyddau i ymsymud i'r America, ac ar y 23ain o Fai cychwynodd ef a'i deulu i'r fordaith beryglus dros y weilgi mawr tua y wlad hono; mewn llawn gobaith i wellhau ei amgylchiadai mewn ystyr dymhorol, a bod o fwy o ddefnydd yn y byd newydd dros ei Dduw; ond och ! yn mhen ychydig ddyddiau cymerwyd ef yn glaf gan enynfa y coluddion (inflammationofthe bowels), yr hwn glefyd a derfynodd yn farwol vwch berw trochionawg y dyfnder, ar y 6fed o Orphenhaf canlynol. Bu farw mewn heddwch, yn nghanol dirdyniadau poenus ei glefyd. Wedi gorchymyn ei briod a'i bum plant i ofal Tad yr ymddifàid a Barnwr y gweddwon, dywedir ei fod yn " marw ar bwys y Ceidwad a bregethodd i eraill;" ac yna efe a hunodd yn y 52ain flwyddyn o'i oedran. Er fod y dymhestl ruadwy yn cynhyrfu hyd nes oedd y llong y gorweddai ynddi yn " rhwyg- aw wyneb yr eigion," diangai y wreichionen fywiol yn dawel i for tragywyddol o hedd. Hwyr yr un dydd gollyngwyd ei gorff i lawr i'r dyfnder du, hyd nes gwawria y dydd pan " Y mor a yr y meirwon Fil-myrdd uwch dyfn-ffyrdd y don." Fel dyn yr oedd Benjamin Owen yn gyfaill cywir a diabsen, yn briod ffyddlon a mwyn, ac yn dad tyner a hoff. Fel Cristion yr oedd yn " ddidwyll ogalon, ac yn ddiddichell o yspryd;" yn bregethwrdifrifol agonest, gan "iawngyfranu gair y gwirionedd" Nid yn arfer geiriau chwyddedig, ac yn bloeddio ei wrandawyr allan o'u pwyll, eithr yn yspryd a thymer yr efengyl yn " mynegu holl gynghor Duw ;" a bu y gair o'i enau yn llymach na chleddyf llym dau-finiog, ac y mae yn aros dystion byw iddynt dderbyn, drwy ei weinydogaeth, drysorau a orbwysant aur y byd. T fí ynaf yn ngbeiriau y Parch. E. Jones, yr hwn ae ^ adwaenaí yn well na chanoedd: Rhif.14.