Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mehefin 15,] Y BEREAD. [1842. ŸR AMSEROEDD DRWG HtN. Na ddyweâ, paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na y dyddiaü hyn ? canys nid o ddoethineb yr ydẃyt yn ymofyn am y peth hyn.—Preg. vii, 10. Paií olrheiniom ni ysgrifau Solomon, pan ystyriom yr amser yr oedd ef byw, tila mil o flynyddoedd cyn genedigáeth ein Iächawdwr, pan gydmarom ei ddywediadau ef ar bob ma- ter bron ag a ddaeth erioed i feddwl dyn, gy- da barn a sylwadau y sawl a fuant byw er hyny, pan brofom ni gywiredd ei olygiadau wrthy goleuni a'r wybodaeth ychwanegol y mae âmser a phrawf-wybyddiaeth o angenrhaid wedi gynyrchu ; ac yn enwedig pan gyferbyniom ei ddiarebion a'r ffregod disynwyr a draethwyd ar yr un testynau nid yn unig gan y mwyaf dysgedig o'r philosophyddion paganaidd, eithr hefyd ag eiddo y gwladwriaethwyr mwyaf syn- wyr-lym a welwyd yn nheyrnasiad cred, nid rhyfedd fydd ganddom iddo enill iddo ei hun, a bod ei ysgrifau wedi diogelu iddo byth er hyny y teitl anrhydeddus o " Frenin doeth Israel." I fy meddwl i y mae wedi bod lawer gwaith yn destyn rhyfeddod fod y fath benaeth glythin- ebgar, cylchynedig gan y fath lys glythig, ac wedi mwynhau teyrnasiad hwy, a gorseddfaingc mwy ysplenydd nag unrhyw frenin daearol yn ydyddiau gynt na y rhai presenol, mynych y rhyfeddwyf, meddaf, fod y fath lywiawdwr wedi yngan cynifer o reolau mewn crefydd, moes-ddysg, a gwledych-ddysg, gan wrthwyn- ebu pob drwg a chymeradwyo pob rhinwedd, a rhoddi cyfarwyddiadau er ein ymarweddiad yn mhob cyflwr a sefyllfa mewn bywyd; eto i gyd, yn yr hyn oll a ddywedai, ac wedi treiglo ymaith yn agos i dair mil o flynyddau, nis can- fyddir gymaint ag un gwyriad o bwys oddi- wrth egwyddorion ansyfladwy \ rheswm a Christionogaeth. Nis gellir cyfrif amhyn wrth unrhyw reol gyffredin; ac felly y gorfodogir ni i gyfaddef a chredu ei fod dan ddwyfol gyf- arwyddyd; er yn offeryn annheilwng, eto yr oedd yn offeryn yn llaw Duw—y pin fel pe b'ai, trwyyr hwn yr ysgrifenai yr Hollalluog er add- ysgiant ei bobl. Ëithr yr amserau ac nid Solomon y bwriad- em i fod ein testyn presenol. Ac oddiwrth y geiriau hyn canfyddwn fod yn ei oes ef, fel ag sydd wedi bod byth er hyny, rai yn parhaus oganu yn erbyn caiedi yr amseroedd, gan gy- hoeddi y byd yn adrywiol, a thynu y cydmar- laethau mwyaf annheg rhwng y dyddiau pre- senol a'r rhai a aethant heibio, a pha rai a an- ogent felly yn eu meddyliau eu hunain, ac a gynhyrfent yn meddyliau eraill, yspryd an- foddus a grwgnachlyd. Perthynant y personau byn yn gyffredin i'rdosparth hyny o ddiwygwyr a barhaus gyfadant i fynn yma a thraw a rhyw ddyfais newydd er diẅygiad dynolryw. ac i'r perwyl o'i gwaeod yn dderbyniol, a dsrngos yr Cf¥. I. 23 angenrheidrwydd o honi, amcanant yn y lle cyntaf i wneud pobl yn anfoddlon i eu sefyllfa bresenol. Felly mynent ein darbwyllo fod y byd, yn hyträch na gẅellhau yn yr hen lwybr- au, mewn gwirionedd yn myned yn y gwrthol, a'i bod yn anhepgofòl angenrheidiol cyfnewid holl ansawdd pethau, a chreu byd newydd,—nid trwy gyfranü yspryd newydd i hen egwy- ddorion profedig, eithr trwy gyflwyno yr hen yspryd idd ei fabwysiadu meẃn rhyw ddy- feisiadau newyddion anmhrofedig a (mynych) twyllodrus. Yn mliob oes mae y diwygwyr hunan^dybns s. hunan-dderchafedig hyn wedi ymddangos y naill ar ol y Hall, gan gyfodi o flaen y Uygad fel dwfr-glychau ar y mor, gan ymddangos dros ychydig i ymddysgleirio yn heuledd cyflwydd, eithr cyn gallael o honom edrych arnynt yr ail waith diflanant o'r golwg. Ond yn canlyn yn eu hol, acyn coleddu eu mympwyau, er nad yn gwbl alluog idd eu cyflawn ddilyn, y mae yn fynych Iîaws mawr o ddynionach llai gwybod- us a llai enwog, eithr nid llai anfoddlon a£f anesmwyth. Y cyfryw a gymerant yn ganiataol fod " y dyddiau o'r blaen yn well na y dyddiau hyn," heb erioed ddwyschwilio i gywiredd y cyfryw let-tyb, neu ar y goreu, ond yn meddu ychydig wybodaeth o'r hyn basiodd, ac yna ant rhagddynt i gyfrif yr achosion, ac felly i achwyn ar ddrwg yr amserau. Mae yn lled amlwg nad ydynt y personau hyn yn deall ystyr y gorch- ymyn neu y cynghor cynwysedig yn ngheiriau y Pregethwr, canys yn erbyn yr yspryd anfoddü» a grwgnachol hwn, y dull anystyriol a byrbwyll hyn o benderfynü am y dyddiau gynt, a thynu casgliadau anghefnogol i'r rhai presenol y cyfeirif y geiriau yrrîa. Eto, nid ydym i ddeall Solomon, pan ddy- weda nad yw yn ddoeth ymofyn, Pàham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na y rhai hyn ?— fel yn anghyiiíeradwyo pob cyferbyniad o am- gylchiadau presenol a rhai blaenorol, o herwydd y mae amryw amgylchiadau, yn mha rai, od oes cyfnewidiad wedi cymeryd lle, ein rhagorfraint a'n dyledswydd yw sylwi ar yr achosion ; cym- erwn, er enghraifft, ein amgylchiadau tymorol, golygwn fod ein masnach, pa un oedd yn dra diweddar yn Uwyddianus ac enillfawr, yn awr wedi dyrysu a methu, neuein bod ar fin rhoddi i fynu; yna diau mai ein dyledswydd fyddai chwilio i mewn i'r achosion o'r cyfnewidiad hwnf fel y gallem, pe dichonadwy, ail gych- wyn pethau mewn llwybr ag a ddiogela ein ffyn- iant cyntefig. Felly hefyd, gyda golwg ar achosion y wladwriaeth, os yw yn amlwg fod ad- feiliad yn ein lhwddiant gwladol, ag ol difrod Rhif. 12.