Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mehefin 1,] Y BEREAD. [1842. Y BOD O DDUW. Darlith a draddodwyd gerbron Cymdeiíhas y Gwyr ieuainc er taeniad Gwybodaeth, yn y Tabernacl, Lîynlleiflad, yn Mai, 1836. PARHAD O DUDAL. 148. Pan y cyfarfyddom ni a darlun unrhyw beth, dyn er engraifft, yrydyro yn hollol benderfynawl yn ein meddyliau na ddarfu i'r darlun wneud ei hun, ac yr ydym yn ddigon sicr hefyd na thardd- odd i fodoliaeth trwy ddigwyddiad. Y prawf- iadau o ofid a amlyga y darlun a arwain ein meddyliau ar unwaith i'w briodoli i ddyn, gan ein bod yn sicr nad yw yn gyfansoddiad ci na chath, na cheffyl ; mewn gwirionedd pa bryd bynag y canfyddwn ni y cyfryw ddarlun o ddyn, yr ydym yn berffaith foddlonol yn ein medd- yliau fod ansawdd wedi bod yn hanfodi rhyw amser ar yn rhyw le, a feddianai ar y dawn, yr athrylith, a'r medrusrwydd angenrheidiol er gwneuthur y fath ddarlun. Er na welsom ni y dyn erioed, eto y mae y darlun yn dwyn profion digonol i brofi, er fy llwyr argyhoeddiad, fod y fath ansawdd wedi bodoli rhyw amser, ac yn rhyw le neu gilydd. Yn awr, er na chyfarfydd- wn byth ag yr un personmor ffol ac afresymawl ag na chredai fod y fath ddarlun yn effaith Ilafur cywrain rhyw ddyn celfydd a medrus, cawn fod llawer o ddynion wedi bodoli, a rhai yn by w yn y dyddiau goleu a gwybodus hyn, a honant gydag haerllugrwydd fod dyn ei hun wedi derbyn ei fodoliaeth trwy ddigwyddiad, neu ei fod yn un o gyfres (series) o fodau cyffelyb ag ydynt wedi bndoli er tragywyddoldeb. Dywedwn air neu ddau ar y gau dybiaeth fod y byd wedi dyfod i fodoliaeth trwy ddigwydd- iad. Nid ydyw digwyddiad byth yn gweith- redu yn unol a dim cyfreithiau—neu mewn un- rhyw gysondeb ag unffurfiad ag ef ei hun. Cymerwch haner cant o ddisiau, neu pack o gardiau, a thaflwch hwynt i fynu i'r awyr, a chwi a gewch weled y disgynant bob tro mewn am- rywiol ddulliau agwahanol sefyllfaoedd cymhar- ol. Dichon i chwi dreulio eich oes yn nhaflu i fynu y disiau neu y cardiau hyn, ac ni ddigwydd iddynt gwympo ddwywaith yn union yr un ddull, ac i'r un sefyllfaoedd perthynasol. Pe cymerech chwi yr hoîl lythyrenau a ffurfiant yr egwyddor Gymreig, a'u taflu hwynt i fynu, ac iddynt ddis- gyn yn gyson a diwahan i'w llefydd priodol yn yr egwyddor, fel A yn gyntaf, B wedi hyn. C ar ol hyny, ac felly yn y blaen, cbwi a ddywedech arunwaithnad dygwyddiad a fyddai, ond fod rhyw allu goruwch naturiol rhyw fod anwel- edig yn dirgel rheoli ac yn llywodraethu y llythyrenau, trwy eu hachosi i ddisgyn mewn modd cyson a rheolaidd. Rhyw beth tebyg i hyn a amlygir mewn miloedd o ffyrdd yn y greadigaeth, o herwydd os edrychwn ar y byd- Cfy. I. 21 ysawd ardderchog ac eangfaith, ni a ganfyddwn yn y cysawd anferth a godidawg hwn, y rheol- eiddrwydd a'r cysondeb mwyaf aruthrawl a pherffaith. Y mae digwyddiad yn cau allan yn hollawl bob drychfeddwl o arfaeth neu amcan, ac eto nis gallwn droi ein llygaid at un rhan o natur—un gyfran o'r greadigaeth—heb ddargan- fod y prawfiadau amlycaf a mwyaf anwadadwy o amcan ac o fodoliaeth amcanion. Y mae y Dr. Paley yn nechreu ei waith rhagorol ar " Natural Thcology" rhyw beth yn y dull canlynawl:—•' Wrth groesi rhyw wastadedd tybiwch i mi daro fy nhroed yn erbyn careg, ac y gofynid i mi pa fodd y daeth y gareg i fod yno, o bosibl yr atebwn y dichon am ddim ar a wyddom ni ei bod wedi gorwedd yno erioed, ac efallai na fyddai yn hawdd iawn i ddangos af- resymoldeb yr atebiad hwn. Ond tybiwch i mi gael oriawr ar y llawr, ac yr ymofynid pa fodd y digwyddodd i'r oriawr fod yn y lle hwnw. Ni feddyliwn o'r braidd am yr ateb a roddais yn flaenorawl, sef, Serch dim ag a wyddwn ni, bod yr oriawr wedi gorwedd ynoyn wastadol. Ond paham na wasanaethai yr ateb hwn am yr oriawr yn gystal ag am y gareg 1 Wel, am y rheswm hwn, ac nid am un arall, sef, pan y deuwn i fanol edrych ar yr oriawr, yr ydym yn canfod (yr hyn ni chanfyddwn yn y gareg) sef ei wahanol ranau wedi eu llunio a'u dodi yn nghyd i ryw ddyben ; er engraifft, eu bod wedi eu ffurfio a'u cyfaddasu yn y fath fodd ag i achosi symudiad—a bod y symudiad hwn yn cael ei reoleiddio y fath ag i arddangos awr y dydd; a phe buasai i'r gwahanawl ranau hyn gael eu Uuniaethu yn wahanol i'r duli ag ydynt, o wahanol faintioli i'r hyn ag ydynt wedi eu dodi yn ol unrhyw ddull arali, neu mewn unrhyw drefn wahanawl na yr un y maent wedi cael eu dodi ynddi; naill ai ni ddygid yn mlaen un symudiad yn y peiriant, neu dim a atebai y dyben, ac a wasanaethai yn awr ganddo. Wedi sylwi yn fanylgraff fel hyn ar yr oriawr, a chael ei bod yn ateb y dyben penodawl o hys- pysu i ni yr awr o'r dydd, y casgliad anochel- adwy a gymhellai ei hun ar ein meddyliau a fyddai, fod yn rhaid fod i'r oriawr wneuthurwr— y rhaid fod wedi hanfodi ar ryw amser, ac yn rhyw le neu gtlydd, gelfyddwr neu gelfyddwyr, y rhai a'i lluniasant i'r dyben a gawn ni mewn gwirionedd ei fod yn ateb, y rhai a ddeallent ei wneuthuriad ac a amcanent ei ddyben. Felly yn y greadigaeth, yr ydym yn cael yn mhob gwrthrych ac yn y cyfan o fodoliaeth yn Rhif. 11.