Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mai 15,] Y BEREAD. [1842. Y BOD O DDUW. Darlith a draddodwydgerbron Cymdeühas y Gwyr ieuainc er taeniad Gwybodaeth, yn y Tabernacî, Llyntteiflad, yn Mai, 1836. GAN THOMAS PUGHE. Y testun a gynygwyd i ystyriaeth y Gym- deithas erbyn heno yw. " Y Bod o Dduw."— Y testun mwyaf egwyddorawl a phwysig a ddichon byth fod yn wrthddrych y meddwl dynawl.—-Hwn yw y pwnc blaenaf mewn duw- inyddiaeth ; îe, crediniaeth yn y Bod o Dduw ac yn anfarwoldeb yr enaid yw sylfaen pob cyfundraeth o grefydd. Y pwnc o Y Bod o Dduw yw agos y mwyafanhawdd ei gredu, ac yn wir, y pwnc y ceir y nifer Ueiaf o ddynion yn rhoddi gwir a difluant grediniaeth ynddo, onide mor wahanol y byddai ymddygiad cyff- redin dynion.a pha gymaint rhagoraeh a fyddai cyflwr ansoddawl a chymfieithasawldynolryw. A thyma ni wedi ymgynull yma heno i'r perwyl canmoladwy o gaftael a chyfranugwybodaeth o'r pethau byny a dueddant yn eu natur i brofi gwirionedd y pwnc mawr o fodoliaeth Duw. Gwybodaeth o Dduw yw y mwyaf pwysig a rhagorol o bnb gwybodaeth. Dyma yr wybod- aeth gyntaf a ddylem ni ymgeisio i'w chael, o heiwydd hon yw y wybodaeth a ddyddota ddyn fwyaf fel bod moesawl a deallawl ; a dy- ma y prif nod at ba un y dylem umcanu yn ein holl erlyniadau gwyddorawl a lleenyddawl; adyma ydyw tuedd gwybodaeth o'r celfyddyd- au a'r gwyddorion ydyw cyfleu meddwl dyn i fynu i edrych trwy natur at Dduw natur; ac ni etyb un gyfran o wybodaeth ei hiawn a phri- odol ddyben os nad arweinia y meddwl i syniedigaeth o'r Bod mawreddog a gogonedd- us hwn. Gwybodaeth o Dduw yw yr " un peth angenrheidiol" — angenrheidiol er ein dafodol- iaeth bythawl, oherwyddy mae ein dedwydd- wch tragywyddol yn dibynu ar wybodaeth gyw- ir o Dduw, a chrediniaeth ddiflìiant ynddo.— Dyben priodawl pob canghen o wybodaeth yd- yw i ddyfod a ni i adnabyddiaeth o'r amlyg- iadau o fawredd, gallu, a doethineb ac y mae y Bod mawr cyntefig wedi ei wneud o hono ei hun yn yr eang fuith greadigaeth. Yn wir, nis gallwn ni efrydu un gyfran o wybodaeth, nis gallwn ddyfod yn gydnabyddus ag un gelfyddyd neu wyddawr, yr hon ni chyf- lwyna brawfiadau Iliosog a digonol o fodoliaeth yr Achos mawr cyntefig—Creawdydd tragy- wyddawl ac hollalluawg. A pheth teilwng o sylw yw, fod gan bob wyddnwr, pob celfyddyd, pob can«hen o wybodaeth, dystiolaeth a phrawf- iadau priodawl iddyrit eu hunain, fel ag y mae genym liaws o dystion yn barod i'w dwyn yn mlaen i brofi gwirionedd y gosodiad yr hanfoda Bod trajsywyddawl, anherfynawl, ac anymddi- Cfy. i. ÌÔ bynawl ac hunan-hanfodawl. Ond ofnwyf fod nifer liosng o fy nghydwladwyr da eu dyben, ond cyfyng feddwl a rhagfarnllyd, y rhai pe y clywent fod testun o'r natur yma wedi cael ei gynygi'w ymdrin, a'n difrient ac a'n enllibent, gan ddweyd ein bod yn prysuroyn gyflyro*Ŵoydd tywyll anflŷddíaeth ; a phroflwydant (o herwydd proffwydi mawr ydynt) y byddwn oll yn mhen ychydig amser, yn wrthgredwyr ac yn atheist- iaid. Y mae dosparth arall o ddynion y rhai nad ydynt yn Ilawn mor ddallbleidiol a rhagfarn- Ilyd a'r rhai a grybwyllwyd; eto, traethant eu hunain yn elynion ffyrnig i ymdriniaeth cyhoedd s a'r fath destun a hwn, gan y tybiant y tuedda i fliüo, dyrysu, a dwyn amheuaeth i mewn i feddyliau dynion ; ac yn He derbyn budd ac ad- eiladaeth, y byddwn mewn perygl o gael ein llithio i lyncu cyfeiliornadau, ac achlesu gau- dybiau dinystiiol a melldigedig. Y mae y dynion hyn yn proffesu eu hunain yn gyfeillion i'r gwirionedd. Addefant, heb un petrusder, mai peth o'r rbyddordeb mwyaf yw iawn olyg- iadau, ac mai tra gwerthfawr ac anmhrisiadwy yw gwybodaeth ; ond nid oes dim g-wirionedd cyfiinal mewn rhyddordeb i'r gwirionedd mewn perthynas i Dduw, ac nid oes dim gwybodaeth o gymaint pwys ac mor dyddorawl i ddyn a gwy- bodaeth o'r Bod mawreddawg ac anfeidrawl hw- nw yr hwn a gaír o'i enau n ddaeth a'r holl fyd- ysawd eiriawl ac ysplenydd i fodoliaeth. Ond pa fodd y gallwn ni gyffawn foddloni ein medd- vliau mai gwirionedd ydyw hanfodiaeth Duw heb ymofyniad manol ac ymcliwiliad dyfal i'r seiliau ar ba rai y gorphwysa yr athrawiaelh o fodoliaeth Duw, a pha íbdd y dichon i ni gyf- lawni dyben mawr ein creadigaeth, os na roddwn ni mewn gweithrediad y galluoedd deallawl hyny a pha rai ein cyfaddaswyd, trwy ymdrechíon diflino i gynull yr holl wybodaeth ag sydd alluadwy yn mherthynas i'r Bod mawr cyntefig, a'i deilyngdod i dderbyn addoliad gan fodau rhesymawl a deallawl. Sicr yw na ddylem rhoddi derbyniad i un- rhyw dybion : ond yn olynol i'r olrheiniad manyl- af a mwyafdiduedd. Ond rhaid i mi ymatal yn awr rhag gwneuthur sylwadau ychwaneg- awl ary mater hwn, ond addawaf i ymhelaethu arno yr arfod cyntaf a ymgyniga. Gyda golwg ar y priodoldeb o ymchwilio i seiliau ein cred a'n hegwyddórion, ac o wneuthur olrhein- iad dwys a phryderus i wreiddiau y daliadau a'r mympwyau a dderbyniasom gan ein rhieni, ac a ddysgwyd i ni gan ein athrawon a'a Rhif. 10.