Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ebrill 15,] Y BEREAD. [1842. MEDDYLIAU DUW YN UWCH NA MEDDYLIAU DYN. Çrefletö &m 2 Hítoẃîrar 3Sart&. <5$cfstmas Ebaits. Esay lv, 8.—" Canys nidfy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwì yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd." Cofio yr wyf fy niod er ys deng mlynedd ar hugain yn ol wedi darllen yn ngwaith y Dr. Ow- en, sylw ar y geiriau hyn, sef eu bod wedi eu llefaru i eangu meddyliau pobl yr Arglwydd am ei ffordd i faddeu ac achub, ac am ei feddyliau i arfaethu achub, a Uunio cyfamod, a gwneuthur addewidion trwy gynhyrfiad ei gariad a'i ras ei hun ; a'i ffydillondeb a'i wirionedd i'w cyflawni i'w bobl. Yr hyn sydd yn taflu i'r goleu brif am- can y geiriau hynod hyn a gynwysir mewn tair neu bedair o adnodau. I. Fod gan Dduw feddyliau a ffyrdd. II. Golygiadau byrion ar ryw fawredd priodol sydd yn perthyn i ffyrdd a meddyliau Duw mewn creuadigaeth, rhagluniaeth, a phrynedigaeth. Nid yw dyn yn ogyfuwch a'i ffyrdd a'i arfaethau, ond hwy a'i harweiniant i ddystryw ac aflwydd. 1. Mae gan Dduw feddwl a ffordd. 1. Mae gan ddyn feddwl a ffordd. Mae me- ddyliau dyn with natur wedi myned yn ofer. ac heb Dduwyneihollfeddyliau. Mae holl feddyl- fryd ei galon, a holl syniadau a chwenychiadau ei feddwl yn ddrwg bob amser, ac yn esgor ar far- wolaeth. Mae gany drygionus ei ffordd a'i fe- ddyliau, fel anwir, neu ddyn diddeddf sydd yn ei gyrahell i ffordd pechaduriaid. Llydan yw y ffordd sydd yn tywys i ddystryw. Troisantbawb i'w ffordd eu hun; eto, mae y ffyrdd o anghredin- iaeth, annuwioldeb, ac anufudd-dod i gyd oll yn tywys i Ddystryw, prif-ddinas gwlad colled- 2. Mae gan Dduw ei feddwl a'i ffordd. Ei feddwlydyw ei arfaeth, ei blan, a'i gynllun ;—ei ffordd ydyw dygiad hyny i fodoldeb gweithredol. Meddyliau o hedd a berodd iddo lunio ac agor ffordd tangnefedd trwy waed y groes. " Gwnaf (medd ef) fy holl fynydd yn ffyrdd, a'm prif- ffordd a gyfodaf." Y brif-ffordd yw yr hon a gysegrwyd i ni trwy y llen; sef gan rinwedd aberih cnawd ei Fab ef. Parotowch ffordd i'r Arglwydd, ac unionwch lwybr i'n Duw niyny diffeithwch. Yr oedd y Messiah, sef y Gair a wnaethwyd yn gnawd, i fyned trwy ddiffeith- wch y byd hwn, a holl dir anial temtasiynau a phechod, ing, a gloesion angeu, iselder, gwaelder, a dychrynfeydd tir y bedd ; ac yr oedd llwybr a ffordd y Messiah i fyned trwy berfedd, corsydd, ac ogofeydd Marwolaeth, gan ei chysegru trwy ei waed ei hun, yn hollol i gyfandir tragywyddoldeb, ac hyd at ddrws tỳ ei Dad. Bu farw Cesar cyn agoryd yffordda ragfeddyliwyd trwy goedwigoedd Germania, i Tartari a China, os nid i hentir yr America; Cfy. I. 14 bu farw Alecsander cyn sychu corsydd a dych- welyd saith ffrwd afon Euphrates i'w hen wely,—rhediad pa rai allan o'r hen gamlas a drodd dalaeth Babilon yn gors i aderyn y bwn. Y cyfryw ydyw gwendid ac iselder arfaethau dynol;—ond cyfuwch ag yw y nef uwchlaw y ddaear ydyw meddyliau Duw uwchlaw yr eiddo dyn. Darfu i'r Iesu. trwy farw, ac er gwaethaf marw, orphen y brif-ffordd o iechydwriaeth hyd at dŷ ei Dad. Frodyr, mae Ilawer o honoch yn rhodio yn Nghrist fel ffordd, ac yn pwyso ar ei ffyddlondeb fel gwiiionedd, ac yn ymnerthu yn- ddo fel bywyd. Parod ydych, er hyny, i ofh^ fod y rhan sydd yn ol o'r ffordd yn arwacb, ty- wyllach, ac yn fwy perjglus na'r rhan ydych wedi deithioo honi,—ond llais eich angbredin- iaeth ydyw hyny ; mae pob prif-ffordd i ddinas: freninol yn myncd yn oleuach ac yn llai enbyd, fel y byddoch yn tynu at y llys. Chwi a gewch yr agerdd-lampau yn goleuo i chwi o un gwesty i'r llall, nes y byddoch, fel hen Simon, yn gwaeddi am eich gollwng, o orsaf i orsaf mewn tangnefedd, yn ol y gair, igael myned ad- ref at y rhai a berffeithiwyd. II. Mae ffytdd a meddyliau Duw mewn creu- edigaeth, rhagluniaeth, a phrynedigaeth,a rhyw fawredd priodol yn perthyn iddynt. Adnabyddir Duw wrth y gwaith a wnaeth. Ei anweledig bethau ef er creuedigaeth. Pa rai ydynt beth- au anweledig Duw? Ateb—Ei Dduwdod a'i dragywyddol allu. Wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, yr oeddynt yn arnlwg yn tori i mewn i olwg dynion, fel y gallasai pawb ddy- wedyd, Dyma fys Duw. Wrth graffu ar beth- au anweledig Duw, sef ei Dduwdod a'i dragy- wyddol allu yn dyfod i'r goleuni mewn creuad- igaeth a rhagluniaeth, mae ein meddwl yn cael ei daro gan ryw fawredd a gallu dìjiino, gan ddoethincb digoll a daioni didrai, a chan mcch- afiaeíh ac anymddibyniaeth íragywyddol, a cha n gyfiawnder, a santeiddrwydd, a gtcirion- edd diballiant. Pan yr edrychom arnynt yn nrych Cristionogrwydd, canys nid yw y Pagan- iaid yn gweled Duw ynddynt,— 1. Tarewir ein meddwl a mawredd Dwyfol nes y byddom yn gorfod addoli y cyfryw nerth. Pan y gwnaeth Duw Moses yn dduw mewn swydd ac enw yn unig i Aaron ac i Pharaoh, yr oeddyn addysgu Aaron pa beth i lefaru;—yr oedd a gwialen fechan o bren yn ei lawyn feistr ar holl gryfder yr Aifft, gan droi yr afonyddyn waed,—danfon llyffaint, a'u galw yn ol,—gyru piaau a'u symud. Rhoddwch fawredd i'n Duw Rhif. 7.