Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Maweth 15,] Y BEREAD. [1842. BYWGRAFFIAD YDIWEDDAR BARCH.DAYID GRIFFITHS, GWEINIDOG Y BËDYDDWYR YN UTICA. fiau r faicli. W. F. Phillipa, Utica, Dywed Solotìion fod ' • coffadwriaeth y cyf- fiàwn yn fendigedig;" a diau fod gwirionecld ei ddywediad gwedi ei brofi gan lawer o ddar- llenwyr eich Cyhoeddiad boneddigaidd. Dar- llen buchedd-draethau enwogion mewn rhin- wedd a duwioldeb a fendithiwyd yn aml i argy- hoeddi y dlrinwedd a'r annuwiol, ac hefyd i ddeffroi y rhinweddol ä'r duwiol i fwy o enwog- rwydd a sel ; pan y mae yr anystyriol yn aml wrth eu darllen yn teimlo ei galon megys yn toddi wrth weled gras y nef yn addürno y cym- eriad dynol mor rhagorol; gan hyny dylai fod golal dyladwy, ac ymdrech briodol yn nheulu Duw i gadw i fynu goffadwriaeth y cyfiawn ; a chan fod bywyd dycblynaidd ac efengylaidd ein brawd ymadawedig ynyspaidy blynyddoedd meithion y bu gyda chrefydd Mab Duw gwedi enill y cymeriad rhagorol hwn, gobeithiafy bydd ychydig o ei hanes, nid yn unig yn dderbyniol, ond yn fendithiol i ddarllenwyr y Beread. Ganwyd Mr. Griffiths yn y fl. 1773, mewn pentref o'r enw Trefuchan, ar lan afon Tàf, yn swydd Benfro, o deulu parchus a chyfrifol, er nad o amgylchiadau uchel a chyfoethog iawn. Cafodd ei ddwyn i fynu yn nysgeidiaeth gyff- tedin yr ardal. Nid ydym yn gwybod yn he- laethach o gylch amgylchiadau boreuol ei fywyd. Ond symudodd, pan oddeutu ugain mlwydd oedj(yn 1798,) i Ferthyr Tydfil. Yma arferai wrando yn Nghapel Seion ar y Parch. David Jones. Gweinidogaeth rymus a doniol y gwr enwog hwn a brofodd yn fendithiol i ei enaid, fel y daeth yn fuan dan argraffiadau dwys o druenusrwydd eigyflwr, a'r angenrheid- rwydd o iachawdwriaeth yr efengyl. Teimlodd y dylanwadau dwyfol n»or rymus fel y tueddwyd ei feddwl yn ewyllysgarac o'i fodd, i ymostwng i deyrnwialen Brenin Seion; ac yn y fl. 1794, pan oddeutu21 oed, "Claddwyd ef gyda yr Iesu, trwy fedydd i farwolaeth." Gweinyddwyd yr ordinhad ddwyfol a difrifol hon gan y dywed- edig David Jones, ac ymostyngwyd iddi gan ein hanwyl frawd, fel y profodd ei fyẅyd dyfodol, o gariad at, ac mewn ufudd-dod í orchymyn yr hwn a feddianna bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. ¥n fuan wedi byn, ymgysylltodd mewn priodas a dynes ieuanc grefyddoí o'r enw EIiza- beth Jones. Parhaodd yr ündeb hwn 11 o flyn- yddau. Ganwyd iddynt yn yr amser chwech o blant—pedwar o'r cyfryw a fuont feirw yn ieu- ainc, a'r ddau eraill, ar ddim a wyddom, ydynt eto yn fy w. Yr oedd teulu o'r amgylcbiadau a nodwyd—geni achladdu—yn dwyn ei ofalona'i ofidiau ; eto nid oedd y naill na'r llall yn ddigon i beri iddo anghofio nac esgeulnso crefýdd; ond Cfy. I. 11 ymarferai a'i dyledswyddau mor gyfànedd a didor fel yr oedd ei gynydd mewn gwybodaeth a dawn yn amlwg i bawb, ac yr oedd ei dduw- ioldeb personol y fath fel y gellid deall ei fod yn aml gyda yr Iesu Y rhagoriaethau enwog hyn a gymellasant yr eglwys i'w ddewis a'i neillduo i'r swydd ddiaconaidd. Ei weínyddiad doeth a boddlonol o'r swydd hon a enillodd iddo radd dda o barch, ac a feithrinodd yn yr eglwys dyb uchel am ei alluoedd a'i ddoethineb, a gobeith- ion mawrion am ddefnyddioldeb helaeth mewn amser dyfodol. Felly daelh yr eglwys yn fuan i'r penderfyniad fod ei alluoedd y fath a ddylent droi mewn cylch helaethach, a cbyflawni swydd bwysigach; gan hyny, cymellasant ef at y gor- chwyl pwysig o bregethu yr efengyl i'w gyd-gre- aduriaid. A'r dymuníad hwn o eiddo yr eglwys y cydsyniodd Mr. G. gyda chryndod mawr, a gwylder priodol. Nid oeddynt yr amlygiadau a wnai yr eglwys o'u syniadau parchus o barthed i ei alluoedd yn ei chwyddo mewn balchder, nac yn ei ddyrchafu mewn hunanolrwyddj ond fel yr oeddynt hwy yn ei godi teimlai fwy fwy o'i annígonolrwydd ei hun, a'r angenrheidrwydd o gyfarwyddiadau a chynorthwyon Yspryd Duw. A chan iddo gydsynio a'r gais hon o eiddo yr eglwys yn y teimlad a'r ymddibyniad hyn, cyflawnodd ddyìedswyddau difrifol y cylch pwysig hwn gyda y fath fedrusrwydd a de- heudra ag oedd yn rhoddi boddlonrwydd cyff- redinol i r gynulleidfa, ac adeiladaeth neillduol i'r eglwys, Yn fuan, wrth weled ei fedrusrwydd yn y weinidogaeth, a chanfod arwyddion o ddef- nyddioldeb ei lafur, daeth yr eglwys i'r pender- fyniad unfrydol idd ei alw i gyflawn waith y weinidogaeth, i gyd-weinyddu yn y swydd santaidd a'r Farch. Rees Jones. Urddwyd ef trwy gynorthwy y Parchedigion James Lewís, Llanwenarth, D. Richards, Caer ffili, &c., &c. ; ac, yn ngwyneb fod Rhaglun iaeth y nef yn rhoddi iddo ac yn cymeryd oddi- wrtho, parbauai yn ddiysgog yn ngwaith yr Arglwydd. Gwedi i angeu ddringo i'w anedd, a chymeryd ymaith bedwar o'i rhai bychain, o'r diwedd daethbrenin braw achymerodd ym aith ei wraiganwyl,gwedi byw mewn undeb a chysur teulnaídd fel y nodwyd am oddeutu 11 o flynyddoedd. Ond er fod angeu. yn medru tori undeb perthynasol a lladd gobeithion dyn- ol, eto, ni fèdrodd angeu dori ei bérthynasef a Chyfryngwr, na diffodd ei sel dros ymled- aniad a gogoniant ei deyrnas. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn weddw, ymgysylltodd drachefn mewn priodas a Miss Margaret Williams, yr hon oedd aelod Rhip. 6.