Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chwefeoe 15,] Y BEREAD. [1842. HOLLALLÜOGRWYDD DUW. A GYMEEWyD O WEITHIAÜ AWDTROL Y PARCH. J. HARRIS (GOMER). " Myû yw Duw HoUalluog."—Gen. xvii. 1. Nid oes un peth yn fwy parod i daro i'r meddwl gyda'r ystyiiaeth o fod Duw na'i fod ef yn alluog o nerth—y mae y ddau beth hyn mewn cysylltiad anwahanol a'u gilydd; nis gallwn gael un drychfeddwl am Dduw anallu- og,—gan hyny, dywed yr apostol fod tragy- wyddol allu Duw, yn gystal a'i dduwdod, i'w weled yn amlwg wrth ei ystyried yn y pethau a wnaed, Rhuf.i, 10. Y mae pob pethag sydd yn dangos fod Duw yn profi ei fod yn anfeidrol mewn gallu, neu yn Hollalluog. Wrtb yr enw Duw Hollalluog yr amlygodd efe ei hun i Abra- ham mewn trefn i gefnogi a gwroli ei ffydd ef yn yr addewid a roddwyd iddo o gael llawer o hiliogaeth, pan yr oedd agwedd allanol pethau yn tueddu i'w lwfrhau—yr oedd y geiríau hyn, Myfi yw Duw Hollalluog, yn ddigon i foddloni Abrahamyn ngwynebpob anhawdd-dra—y mae yr un enw yn cael ei roddi iddo mewn amryw íanau yn yr Hen Destament a'r Newydd—ac yn wir, pe na byddai ef yn Hollalluog, nis gallai fod yn Êod perffaith, byddai rhy wbeth yn eisiau neu yn ddiffygiol ynddo ; eithr nis gall gwrth- ddrychanmherffaith i fod yn Dduw ; o ganlyn- iad y mae Duw yn Hollalluog. Wrth Hollalluogrwydd Duw yr ydym i ddeall ei allu i weithredu pa beth bynag a ew- yllysio efe ag sydd yn gyson a pherffeithiadau ei natur—ond er ei fod yn Hollalluog, ni ddi- chon efe wneud llawer o bethau ag y mae dyn- ion yn fynych yn eu cyflawni; y mae yn an- mhosibl iddo ef ddywedyd celwydd, (Heb. v, 11,") nis gall wadu ei hun, (2 Tim. ii, 13,) nis gall gyfnewid ac edifarhau, (a llefaru yn briodol, Num. xxiii, 19,) nis gall gysgu na marw, &c, oblegid gwendid ac nid gallu a fuasai yn ei addasu i hyny; gan hyny, cofiwn, pan y dy- wedir fod rhai pethau nas dichon Duw eu gwneuthur, mai ei gryfdwr, ei fawredd, a'i bur- deb, yw yr achos o hyny ; megys y dywedwn nas gally cadarnfodynwan, yglânfodyn aflan, y doeth fod yn ynfyd, na'r geirwir fod yn gelwydd- og. Y mae yr anfeidrol allu sydd yn Nuw o dan dywysiad ei ewyllys santaidd. Sal. xcv, 3. " Efe a wnaeth yr hyn a fynodd oll," ac nid cymaint a allasai wneuthur; buasai yn hawdd iddo ef wneuthur myrdd o fydoedd yn ych- waneg nag a wnaeth ; i ddwyn y greadigaeth i fod fyrdd o oesoedd yn gynt nag y gwnaeth, a lluddias pechod i ddyfod i'r byd; ac nid gwaith gorchestol iddo ef fyddai cynal ei holl greaduriaid iyn ddiofid yn y byd; dwyn holl ddynolryw i ymostwng i'w ddeddfàu, a'u hachub hwy oll ynghyd a diafliaid, pe byddai Cyf. I. 6 yn ewyllysio ; ac er y gallasem ni dybied ma gwell fuasai i Dduw wneuthur felly, byddai yn weddus i ni ystyried pe byddem ni yn meddu ar ddoethineb a phurdeb y Jehofa y byddem yn sicr o ddywedyd am ei holl waith ef, nid yn unig Da iawn ydyw, ond y gwaith goreu ydyw. Bellach, dangoswn y modd y mae Hollallu- ogrwydd Duw yn ymddangos yn ngweithred- oedd creadigaeth—rhagluniaeth—ac iechydwr- îaeth. I. Y mae y greadígaeth yn amlygu Hollallu- ogrwydd Duw. " Yn y dechreuad y creodd Duw y nefbedd a'r ddaear, Gen. i, 1, a'u holl luoedd hwynt, Sal. cxlvi, 6; yn hyn y mae efe yn cael eí wahaniaethu oddiwrth y duwiau gau , Esay xlv, 18—20, y rhai na allasent na llunio dyn na'i waredu o gyfyngder; ac am hyn, mewn rhan, y mae efe yn cael ei glodfori gan deulu y nefoedd; Dat. x, 16. Y mae amryw bethau mewn creadigaeth yn dangos anfeidroldeb gallu y Creawdwr gogoneddus; megys, 1. Efe awnaethy nefoedd a'r ddaearo ddim. Rhaid i'r gweithwyr mwyaf cywraint a galluog yn mhlith dynion i gael defnyddiau i weithio ar- nynt cyn y gallont wueuthur un peth. Y mae y fath bellder mawr rhwng dim a hanfod unrhyw beth, fel nad oes ond gallu anfeidrol a ddichon ddwyn y fath eithafoedd i gyfarfod a'u gilydd: y mae yn anmhosibl i ni ddychymygu am un pellder mwy nag sydd rhwng dim a RHywBETH rhwng peidio bod ac ifod ; ac felly nis gallwn feddwl am un gallu yn fwy na'r hwn a ddygo rywbeth o ddim; o beidio hanfodi i hanfodi. Pe buasai dim a rhywbeth yn nes at eu gilydd, ni buasai cymaint o allu yn angenrheid- iol i ddyfod a hwy ynghyd; ond gan nad oedd bosibl iddynt fod yn mhellach, yr ydym yn cael ein rhwymo i gredu fod y gallu a ddygodd y cwbl i fod o ddim yn annherfynol; ac i ryfeddu ei nerth digymhar yn dwyn y fath nefoedd ogon- addus, a'r fath ddaear lwythog o drysorau, o wlad mor lom ac anffrwythlon ag yw dim '. ac yn enill meibion lawer i ogoniant o groth an- mhlantadwy dim. 2. Efe a wnaeth y cwbl heb offerynau. Angenrhaid i bob gweithiwr arall i gael arfau cymhwys at ei waith, a pha fwyaf manol a fýddo ei orchwyl, mwyaf cywraint rhaid i'r offer fod ; ond efe a greodd y nefoedd a'r ddaear yn y dechreuad heb unofferyn, ac o'r defnydd cread- igol cyntaf; efea luniodd y cwbl ag sydd mewn bod heb un offeryn ond ei air nerthol Bydded. Ac nid yn unig efe a wnaeth y cwbl trwy ei air Rhif. 4.