Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chwefeob !>] Y BEREAD. [1842. MAI YSPRYD YW DUW. A GYMERWYD O WEITHIAU AWDYROL Y PARCH. J. HARRIS (GOMER). "Yspryd y.w Duio."—Ioan iv. 24. Gofynodd Hiero, brenin Syracuse, i Simoni- des, prydydd cenedlig, BethywDupl Dym- unodd yntef gael diwrnod i ystyried y gofyniad, a phan ddaeth y dydd hwnw i ben, dymunodd ddau ddiwrnod: ac wedi i'r rhai hyny fyned heibio deisyfodd bedwar, ac a barhaodd i ddyblu rhifedi y dyddiau, i ystyried beth oedd Duw, cyn rhoddi ateb. Synodd y brenin, a gofynodd beth oedd ei feddwl wrth hyn. Ateb- odd y prydydd, " Pa fwyaf a feddyliwyf am Dduw, mwyaf anwybodns ydwyf o hono." Nid rhyfedd iddo rhoddi y fath ateb, canys y mae Agur wedi dyrysu yr holl greadigaeth pan ofyn- odd, " Beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei Fab ?" Diar. xxx. 4. Ónd er na allwn gael yr Hollalluog allan i berffeithrwydd, eto y mae cymaint wedi cael ei ddatguddio am dano yn yr ysgrythyr ag sydd yn angenrheidiol i ni wybod er iechydwriaeth, ac mewn trefn i'w addoli wrth ei fodd, oblegid y mae yr hwn ag oedd yn mynwes y Tad gwedi hyspysu i ni mai " Yspryd yw Duw." Er na wyddom ni ond ychydig am natur ysprydoedd, o herwydd ein bod yn pres- wylio mewn tai o bridd, eto y mae yn amlwg i ni fod ysprydoedd yn ragori ar gyríf, a bod Duw, tad yr ysprydoedd, yn ragori yn mhell ar bob yspryd arall. I. Nodwn rhai o'r ystyriaetbau ag sydd yn profi mai yspryd yw Duw. 1. Y mae yr hyn a wnaeth Duw yn profi ei fod yn yspryd, efe a wnaeth y cwbl a wnaed, ac efe sydd yn'ysgogi pob petb?crëedig; " canys ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn sym- ud, ac yn bod ;" (Act. xvii, 28,) ond y mae yn amlwg na ddichon corff, neu ddefnydd, ysgogi ei hun; y mae yn ymddifàd o allu i feddwl, nid oes ganddo ddeall, gwybodaeth, na doethineb, ac feliy y mae yn anghymwys i weithredu oll, pa faint mwy anghymwys i gyflawni gweithred- oedd ag sydd yn gofyn doethineb, gwybodaeth, ynghyd a medrusrwydd o'r fath ragoraf, y rhai a amlygir yn ngwaith creaduriaeth a rhag- luniaeth. Gan hyny, pe na fuasai Duw yn yspryd ni allasai fod yn Greawdwr a Llywodraethwr y byd. 2..Y mae Duw yn holl-bresenol, gan hyny yspryd y w efe. Ni ddichon corft" fbd yn mhob man neu mewn dau le gwahanol ar unwaith ; eithr y mae Duw yn Uenwi nefoedd a daear. A phe meddyliem bod corff, neu ddefhydd, mor fawr a bod iddo lanw pob eangder neu wagle, byddem yn rhwym o gredu y gwrthuni hyn,nad oes un corffarall tnewn bod, na Ue i un Cvp. I. § fod, gan fod y corfF cyntaf yn ilanw pob He ; ac yna byddai yn rhaid i ni naill.ai gwadu y bod o honom ein hunain, neu haeru ein bod ynyspryd. oedd, ac felly galw corffyn yspryd, ac yspryd yn gorff, neu ymdrechu newid sefyllfaoedd a Duw! 3. Y mae Duw yn anweledig, ac nis gellir ei weled a Uygad o gnawd. " Y mae efe yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nas gwelodd un dyn, ac nis dichon ei weled." (1 Tim. vi, 16.) Er fod Uygad yr Arglwydd yn canfod pob peth, ni welodd neb Dduw erioed, o herwydd mai yspryd yw, ac nid yw yspryd yn fwy o wrthddrych i lygad nag yw swn, archwaeth, neu arogl. Gellir teimlo a gweled corff, eithr nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn, o herwydd paham ni elíir na'i weled na'i deimlo, ac am na ellir teimlo nagweled Duw, rhaid mai yspryd digorffydyw. 4. Gellir penderfynu oddiwrth y mawredd a'r ardderchawgrwydd a briodolir gan lyfr na- tur a llyfr datguddiad i Dduw, mai yspryd yw. Dengys pob peth i ni ei fod yn fwy anrhydedd- us a gogoneddus na'i faoll greaduriaid—y mae yn atnlwg hefyd mai ysprydion yw y creadur- iaid mwyaf ardderchog o waith Jehofa—ys- prydoedd neu eneidiau dynion yw y rhanau godidocaf a berthyn iddynt hwy; pan ehedo yr enaid yn angeu i fyd o ysprydoedd, ni bydd y corff o un defnydd, ac ni bydd dini gogoniant yn ymddangos ynddo hyd oni ajl gysylltir ef a'r yspryd yn Pyr adgyfodiad. Yn »wr gallwn ym- resymu fel hyn, os y w enaid dyn yn ragori ar ei gorff, ac os yw angylion, ysprydion digyrff, yn rhagori ar ddynion mewn ardderchawgrwydd naturiol, ac os yw Duw yn rhagori mewn gogon- iant ar bawb, y canlyniad yw ei fod ef yn ys- pryd, 'ie yr yspryd mwyaf goruchel. 5. Dengys anfarwoldeb Duw, mewn rhyw fesur, mai yspryd yw, oblegid fe'n dysgir mai ysprydion sydd yn anfarwol, ni all yr angylion fàrw, (Luc xx, 36,) ni ellir lladd eneidiau dyn- ion, (Mat. x, 28). Pell oddiwrthyf fyddo meddwl na allai Duw ddifodi ÿ peth a ddygodd ef i fod, pe mynai, ond y mae efe wedi gweled bod yn dda i argraffu anfarwol- deb ar yr ysprydoedd a wnaeth—ac hefyd y mae rhywbeth mewn yspryd ag sydd yn ei an- addasu i fàrw, oblegid nid yw gwedi ei wneuthur i fynu o ranau fel y gellid eu gwa- hanu oddiwrth eu gilydd—ac ni a aUwn fod yn dra sicr nad yw Duw yn gynwysedig o ranau, oblegid pe byddai, rhaid i ni ystyried y cyfryw Rhif. 3.