Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IONAWB 15,] Y BEREAD. [1842' ENWAU DUW. A GYMERWYD O WEITHIAU AWDYROL Y PARCH. J. HARRlS (gOMEr). ; Är rhai a adwaenant dy enw a ymddiriedant ynot."-S-<ù. ix. 10. Y mae Uawer gwedi cael eu dyfetha, yn dymorol ac yn dragywyddol, o eisieu gwybod- aeth—-ysgubwyd byddinoedd cyfiin oddiar dir y rhai byw o achos anwybodaeth eu blaenoriad— y rhai a yrasant eu gwŷr i'r ymgyrch pan y dylasent gilio yn ol, ac ar brydiau ereill a bar- asant iddynt gilio yn ol, pryd y dylasent gael gorchymyn i ruthro yn mlaen yn y modd mwyaf calonog. Felly, anwybodaeth, ynghyd â chyn- dynrwydd calon pechaduriad, yw yr achos fod cynifer yn esgeuluso yr iechydwriaeth a amlygir yn yr efengyl—y maent yn anystyriol o'r perygl y maent ynddo trwy bechod, ac o'r breintiau mawrion perthynol i'r rhai a ymddiriedant yn Nuw ; gan hyny, gorphwysant ar eu hufÿdd-dod eu hunain, uniondeb eu calonau, eu bwriadau i ddiwygio mewn amseri ddyfod.neu ardrugaredd digyfrwng am achubiaeth. Gan hynny, gwnawn ychydig o sylwadau ar yramrywiol enwau trwy y rhai y gosodir mawredd Duw allan yn yr ysgrythyrau, y rhai a eglurant mewn mesur helaeth ei berffeithiadau ançhymarol, o herwydd paham yrymddiried y rhai a adwaenant ei enw ynddo ef, ac nid mewn dim arall. Cyn myned yn mhellach byddai yn weddus sylwi, er amled yw yr enwau wrth y rhai y gosidir Duw allan, ei fod ar iyw olwg, yn neill- duol ar gyfrif ei anfeidroldeb, yn ddienw, ac am nad oes raid iddo wrth enw i'w wahaniaethu oddiwrth ereill; gan hyny, medd Plato, " Nid oes ganddo Un enw," ac felly y geilw efe ef yn gyfredin, Y Bod; ac felly y danfonodd Duw | Moses at Pharao, heb un enw gwahaniaethol, ond Ydwyf a'm hanfonodd ; pa fodd bynag, er nad oes un enw yn cyflawn gynwys Duw, y mae ei holl enwau wedi eu cymeryd oddiwrth ei briodoliaethau, ac felly yn deilwng iawno'n sylw. 1. Pa beth sydd i ni ddeall wrth enw, neu enwau Duw ? 1. Y mae yn arwyddo yn fynych Duw ei hunan, megis yn Sal. xx, 1, " Enw Duw Jacob a'th ddiffyno;" Sal. cxv, 1, " I'th enw dy hun dod ogoniant," Mat. vi, 9, " Santeiddier dy enw."—Hyny yw, Duw Jacob a'th ddiffyno, ac i ti dy hun y byddo'r gogoniant, &c. Y mae y gair enw yn cael ei roddi yn fynych am y pethau neu y personau a olygir wrtho, megys Act. i, 15, oblegid fod personau a phethau yn cael eu gwa- haniaethu oddiwrth erail'. wrth eu henwau. 2. Y teitlau perthynol iddo ef ei hun, y rhai na pherthynant i neb ereill, ond mews ystyr anmhriodol—y mae enwau priodol Duw yn yr iehhoedd gwreiddiol yn Uawer amlach nag yn yr Cyf. I. 3 ieithoeddSeisnigaChymreig.—(1.) Elohim yw yr enw cyntaf i Dduw yn yr ysgrythyr, ac a gyfieithir Duw, (Gen. i, 1,) yr hwn a arferir yn fwyaf cyffredin trwy yr Hen Destament; y mae rhai yn deilliaw y gair oddiwrth wreiddyn ag sydd yn arwyddo melldithio a thyngu, oblegid ei fod fel barnwr yn rhwymo ac yn tynghedu ereill iddo ei hun, ac oblegid ei fod yn datgan pawb yn felldigedig a droseddo ei gyfraith:— tybia ereill fod y gair yn deilliaw oddiwrth air yn yr Arabaeg, ag sydd yn arwyddo addoli, ac felly yn enw addas i Dduw, yr hwn yw unig wrythddrych addoliad crefyddol, ac nid delwau, na saint, nac angylion, Mat. iv, 10.—(2.) Enw arall i Dduw yw El, megys yn y gair Beth-El, sef, Ty Dduw, Gen. xii, 7, 8, arferir y gair yn y rhif unigol a lliosog, El, Elim, yn Dan. xi, 36, ac a gyfieithir " Duw a duwiau;" ac y mae'r gair heb ei gyfieithu yn Mat. xxvii, 46, Eli, Eli, (fy Nuw, fy Nuw,) ac a arwydda yn ol rhai, y " Duw galluog, neu nerthol," yr hwn sydd yn ddigon galluog i gyflawni ei holl fwriadau ei hun. —(3.) Enw arall yw Elion, (y Goruchaf,) Gen. xiv, 18—22. Gelwir Crist yn Faby Goruchaf, a'r Ysbryd yn nerth y Goruchaf, Luc. i, 32, 35. Mae yr enw hwn yn briodol i Dduw, oblegid ei fod yn preswylio yn y drydedd nef, neu, y nefoedd uchaf, lle y mae yn cadw ei lys—ac o herwydd ei fod yn uwch mewn awdurdod a gallu na phob bod arall—ac yn uwch mewn mawredd ac ânfeidroldeb ei natur, nag y dichon meddyliau meidrol amgyffred.—(4.) Enw arall a arferir yn amlywSHADAi, (Hollalluog.) Enw addas i'r hwn ag sydd a'i allu yn anfeidrol ac yn anwyrth- wynebol, mae rhai yn cyfieithu y gair Shadai yn Ddigonol, neu yn Hoü Ddigonol, ac felly y mae Duw, am ei fod yn anfeidrol ddedwydd ynddo ei hun, ac na ddichon efe dderbyn dim oddiwrth ei greaduriaid ag a ychwanego ei ogoniant, ac am fod digon ynddo ef i gyflawni hoil ddiffygiadau ei bobl.—(a.) Enw Hebraeg arall i Dduw yw Adon ai, neu Adon, Gen. xv, 2, ac a gyfieithir yn gyffredin " Arglwydd." Oddi yma y tarddod y gair Yspaenaeg Don, am Ar- glwydd. Y mae rhai yn ei ddeilliaw oddiwrth air ag sydd yn arwyddo Sy/faen, Ateg, neu Gynalydd, ac felly, yn enw tra phriodol i'r Arglwydd, oblegid mri efe yw sylfaen, neu, efe sydd yncynal yr holl greaduriaeth, yn dàl i fynu golofnau y ddaear, yn dàl pob creadurbyw mewn bywyd, ac yn cynal ei saint a deheulaw ei gyfiawnder. Arferir Adon yn y rhif liosog, Mal. i, 6, ac fe arferir Adonai am y Mab, yn gystal ag Rhip. 2.