Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y B E R E A D. Cyf. I. IONAWR, 1842. Rhif. 1. ANERCHIAD AT Y BEDYDDWYR CYMREIG A'U HYMLYNWYR YN YR ÜNOL DALAETHAU. Feodye, a Chyfeillion anwtl a hoff, Blwyddyn newydd dda a dedwydd i chwi yn yr ystyr oreu a chyflawnaf o'r geiriau anerchiadol hyn. Wele i chwi galenig eleni na chawsoch erioed o'r blaen ; derbyniwch yn Uawen, a defnyddiwch yn y modd goreu ag y galloch er eich buddiant eich hunain a phawb a berthynant i chwi. Gyda diwenydd nid bychan yr ydyra yn cyflwyno i eich dwylaw, ac i eich sylw manylgraff y rhifyn cyntaf o'r Beeead. Nid gyda golwg wrthwynebol tuag at y Cyhoeddiadau Cymreig a hanfoda eisoes, yr ymddengys yr un a gynygir i eich sylw yn awr; eithr gyda pharch iddynt, ac i'r sawl a'u cychwynasant ac a'u dygant yn mlaen ; pob llwyddiant iddynt yn eu cyìch- deithiau priodol i ateb y dybenion goreu er llesoli ein cydgenedl wiwglodus yn eang diroedd gwlad Columbus. Cydweithredydd â'r Cyhoeddiadau eraill y dymuna y Beeead fod, a gobeithia wneud ei ran, megis hwythau, er trosglwyddo elfenau gwybodaeth ddaionus a chyffredinol i ei ddarllenwyr ymofyngar, lle bynag y caffo dderbyniad a groesaw. Deallwn fod llawer o ymholi wedi bod, ac eto yn parhau, paham na fyddai Cyhoeddiad Cymreig gyda y Bedyddwyr yn y wlad hon yn gystal ag enwadau eraill. A ydyw eu rhifedi cydmariaethol mor ddistadl, fel nad oes neb yn ei ystyried yn werth ei drafferth i sylwi arnynt 1 Neu, a ydyw eu hegwyddorion gwladol a chrefyddol mor waelion a dibwys fel nad ydynt deilwng idd eu lledu a'u hamddiffyn, a'u trosglwyddo yn argraffiadol i'r oes a hanfoda yn awr, a thrwy gyfrwng cyfaddas i'r oesau a ddel ì Neu, a ydyw cynildra, a chariad anghymedrol at aur ac arian wedi cydio yn rymusach yn meddyliau y Bedyddwyr na dynion eraill, fel nad dichonadwy iddynt gynal Cyhoeddiad at eu gwasanaeth priodol hwy eu hunain ì Na, nid neb o'r pethau hyn feddyliem, sydd wedi achosi y diffyg achwynedig ; ni oddef ein aedd dros ein cenedl, na ein teimladau cristionogol a bedyddiadol i ni ymgeleddu meddwl mor gul a chaled am neb o honynt dros eiliad mynud o amser. Eithr, dilys genym mai Jlwfrdra a difiỳg yspryd antur, yw yr achos, a'r unig achos, na fuasai ganddynt Gyhoeddiad enwadol, er ys blynyddau bellach, er eu difyrwch ac eu hadeiladaeth gwybodaethol a duwioL Dengys, feddyliem, yr awydd cyffredinol a ddeallwn fod yn hanfodi yn awr yn mynwesau ein brodyr o afon Ohio i afon St. Lawrence nad gwiw oedi yn hwy heb wneud yr ymdrech penaf a ellir er cyfìenwi disgwyliadau yr awydd cyffroedig, a hyny a wnawn trwy drwydded Rhagluniaeth a chymorth ein cyfeillion. Goddefer i ni yn awr i roddi y rhesymau a'n cymhellant i'r antur bwysig o yru allan y rhifyn cyntaf o'r Beeead, ynghyd a'r egwyddorion ar y rhai y bwriadwn yn ddiysgog i ei ddwyn yn mlaen. Eithr, yn 1. Cyffrowyd ni gan yr ystyriaeth o angenrheidrwydd Cyhoeddiad cylchynol fel cyfrwng gwybodaeth i'r Bedyddwyr yn yr Unol Dalaethau. Gwyr pawb a wyddant ddim yn iawn fod moddion gwybodaeth yn angenrheidiol er cyrhaeddyd unryw raddo wybodaeth a fyddo yn werth i ei galw felly; a bod cyfrwng, neu gyfryngau yn hanfodol er trosglwyddo elfenau gwybodaeth i eraill; a bod y cyf- ryngau hyny o'r fath ac a fyddo yn addasol er cyfranu addysgaeth o'r wybodaeth yr ymgeisir ati. Hyd yn hyn ni fedd Bedyddwyr Cymreig America un cyfrwng o'r feth yma, o ganlyniad nid dichonadwy iddynt hwy drosglwyddo i eraill yr hyn a wyddatìt hwy eu hunain, a'r hyn a fyddai yn ddymunol ganddynt i ei gyfranu pe gallent wneud hyny heb orfod benthyca lleoedd at hyny o feusydd eu cymydogion. 2. Yr ydym yn cymeryd i ein sylw y buddioldeb dymunol o Gyfrinachfa Gymreig i e'm. henwad yn eu sefyllfa bellenig a gwasgaredig yn y wlad helaeth hon. Mae eisian rhyw fani rbyw ganol-bwynt, lley dichon i ni oll gyfarfod â ein gilydd yn ohebiaethol Cyf. I. 1