Skip to main content

Y FFENESTR. CYF. II. MHDI, 1874 RHIF 9. SINAI A CHALFARIA. Moses.—Sinai sydd fynydd uehel yn Arabia, yn gorwedd rhwng ysgwyddau gogleddol y Mor Coeh. Daeth- i enwog- rwydd yn hanes yr ymfudiad mawr o'r Aifrc i Ganaan. Galwwyd ef wrth yr enw hwn yn herwydd lluosogrwydd mawr y perthi drainog a ymorweddant árno. Dewisiodd yr Arglwydd hwn fel pwlpit i bregethu i Israel. Oddiar hwn y traddododd Duw ei bregeth fawr i'r byd. Deddf oedd sylwedd-bwnc ei bregeth; mellt, cwmwl tew a llais udgorn oedd y rhagymadrodd; rhanodd ei bregeth i dri phen—y ddeddf foesol, y ddeddf wladol, a'r ddeddf sere- moniol. Ysgrifenodd Duw â'i fys ei hun y bregeth i lawr ar lechau, a rhoddodd hi i'w hadrodd i'r bobl. Sinai felly oedd canolbwynt mawr grymus yr oruchwyliaeth Iuddewig; Sinai oedd senedd yr Iuddew—llys apeliadol y genedl, agallu uchaf y byd yn ei thymhor. Gwyr Sinai ei hanes, a chan fod ysbryd dadleu wedi gwefreiddio eì fodolaeth, gadawer iddo. Luc.—Myfi yn unig o'r holl Efen'gylwyr arr Yggrifenẃyr Ysìirydoledig sydd yn galw lle y croeshoeliad yn Calfaria; ni cheir yr enw yn un man arall yn yr ysgrythyrau ond genyf fì. Erbyn heddyw mae yr enw yn mhryddestau ar- uchel y beirdd; emynau inelus y per-ganiedyddion; cer- ddoriaeth gyssegredig y cyssegr-gerddorion; traethodau penigamp athronwyr y groes; pregethau campus gweision Duw, a gwedd'iau taerioU Cristionogion pob gwlacl. Lle bychan yw Calfaria, tuallan i ddinas gaerog Jernsalem; gel- wid ef lle y benglog, am mai yma yr arferid croeshoelio gan y cenedloedd. Daeth y lle i sylw bythol ac anfarwol yn hanes marw Ceidwad pechadur. G»n fod ysbryd d«dl«u