Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFENESTR. CYF. II. CHWEFROR, 1874 RHIF 2- Y PLENTYN YW TAD Y DYN. fMAE cewri yr oes nesaf yn awr yn fabanod: derw cryfìon ac ystorm heriawg y dyfodol yn y fesen fach î byd mawr eang a phwysigy blynyddoedd sydd yn ymyl yn awr, yn ymgodi uwchlaw gorwel ysblenydd Dwyrain euraidd mabandod. • Mae y morwr anturiaethus a gylch-foria fyd, y pryd hwn yn chwareu ei long fach ar gefn ysgafh y llyn yn ymyl clawcìd yr ardd. Mae y milwr dewr-galon a ar weinia fyddinoedd dysgybledig yn llwyddiannus ar faes y frwydr, heddyw yn rhestri ei frodyr a'i chwiorydd bychain, a chydag awdurdod Wellingtonaidd yn rhoddi gorchymmyn milwrol iddynt. Y Seneddwr galiuog a syna fÿd gan ei ddeddf-wneuthur alluoedd, sydd yn blentyn yr adeg hon, yn ástudio areithiau Burhe a Bright. Y bardd awen-hedegog 'tydd i gysgodi ei ragflaenoriaid yn ei lygad i weled anian, calon i deimlo anian, a glewder a faidd gydfyned ag anian, sydd yn awr yn rhigymu ìlinellau i'r teganau a thylwyth y ty. Y daearegwr dyfnddysg a ddyg i'r golwg galon y ddaear, yn ei ddarganfyddiadau, a welwcli yn tyllu yr ardd a'r cae yn ymyl ty ei dad a'i fam. Y pregethwr hyawdl a hoelia gynnulleidfa, sydd yn awr yn esgoreddfa bodolaetli, a glywir oddiar ben yr ystol yn arllwys doniau pregethwrol