Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FERCH FACH YN NHY NAAMAN Y SYRIAD Yn ail lyfr y Breninoedd, yr ydym yn cael hanes am ryfel oedd wedi cymmeryd lle rhwng pobl Israel a phobl Syria, ac yn amser rhyfel y mae un o ddau beth yn debyg o ddyg- wydd—dynion yn cael eu cartref wedi eu dwyn oddiarnynt, neu eu bod yn cael eu dwyn oddiwrth eu cartref. Yn yr adroddiad am y rhyfel hon, yr ydym yn cael hanes am ferch fechan a gafodd ei chaethgludo ymaith o'i chartref gan fintai o filwyr creulaWn yn gaethes i wlad Syria. Nid oedd y fechan hon wedi gwneyd dim niwed i neb, ond yn amser rhyfel y mae'r diniwed yn cael dyoddef yn ogystal a'r euog. FeJly yma. Mewn rhyfel y mae y ffrwyn yn cael ei thaflu ymaith gan ysbryd rhyfelgar, ac y mae nwydau mwyaf creulawn dynion yn cael eu rhyddid i ddifradu y ffordd jy maent yn cerdded, ac mewn adeg felly, ac o dan amgylchiadau o'r fath hyn y dygwyd y ferch hon ymaith yn mhell oddiwrth ei ffryndiau i wlad ddyeithr. Ni allasai dim fod yn fwy creulawn na pheth felly. Dylech chwi y merched bach sydd yn darllen T Ffenestr weddio na byddo rhyfel yn dyfod i Gymru. Br mwyn i chwi gael gweled y fath beth ofnadwy yw rhyfel, bydd i ni edrych yn I., snt gartref oedd gan y feroh hon Tn Ngidad Israel.