Skip to main content

TROI DALEN NEWYDD. "Matü," meddai Maggie, pan oedd ei mam yn darllen an prydnawn; "a ydym m yn debyg i lyfrau? " Nid oedd Maggie ond geneth ienanc iawn, felly, cyfod- odd ei mam -ei golwg oddiar y liyfr, a chaa wena, gofyn- odd, "paham, fy un anwyl?" "Wel," meddai Maggie, "pan oedd Johnny yn myned i'r ysgol boreu heddyw, mi glywais fy nhaid yn dweyd wrtbo, ar ol iddo fod yn fachgen drwg ddoe, 'yn awr Jobnny, gofalwch ehwi am droi dalen newydd.' Beth oedd meddwl hyny,*mam?" Ail ofynodd y cwestiwn drachefn, gyda mwy o bryder; yr oedd ŵ llygaid gleision, hardd, ac agoredig, yn eu hiaith eu hnnain yn siarad y geiriau, "a ydym ni yn debyg i lyfrau? " Cymmerodd <ei mam dipyn o amser i ystyried, ac wedi hyny, cyfododd hi ar ei chlan, a dywedodd—"Tr ydym fy nghariad, yn debyg i lyfraa. Gallwn bob dydd ddechreu dalen newydd, ac ysgrifenu y peth a fynom arni, ond nis gallwn dyuu ymaith yr hyn sydd wedi ei ysgrifena yn barod, oblegyd, 'fèl y gwyddoch, bob nos yr ydym yn gor- wedd i lawr i gysgu, nad allwn gael y dydd hwnw yn ol; y mae wedi myned heibio." ^'Os felly, mam," meddai Maggie, "sut yr ydym yn debyg i'r llythyrcnau, y tudalenau, y rhwymiad, a'r papyr llwyd sydd o1u hamgylch, oblegyd chwi ddywedasoch wrthyf am roddi papyr llwyd am y llyfr gefais gan fy nhad ddoe?"