Skip to main content

NEWYDDION DA. Cyf. II. Rhif. 24.] RHAGFYR, 1893. [Ail Gyfres. AT EIN DOSBARTHWYR A'N DERBYNWYR. ®RWG genym, ar derfyn dwy flynedd, y rhaid i ni gydnabod nad ydyw y llwyddiant a ddysgwyliem wedi disgyn i ran Newyddion Da. Credem wrth ei gychwyn fod gwir angen am gyhoeddiad o'r fath ; a derbyniasom o lawer cyfeiriad dystiolaethau fod ei gyn- wysiad yn cael ei ystyried i ryw fesur yn gyfaddas i gyfarfod yr angen hwnw. Dymunwn ddiolch yn gynes am y cymorth gwerthfawr a estynwyd i ni gan lawer o ysgrifenwyr, ac yn arbenig gan Ysgrifenydd Cyffredinol y Grenadaeth, a'r Parch. Ówen J. Owen, M.A., Rock Ferry. Disgynodd Yr loll ofal ar Mr. Owen yn ystod ymweliad y Golygydd â'r America y llynedd, ac yn ystod ei gystudd am lawer o fisoedd eleni. Diolchwn hefyd i'n dosbarthwyr ffyddlon, ac i'n brodyr caredig ydynt wedi gwas- anaethu fel Goruchwylwyr Sirol. Gwyddom y bydd yn siomedigaeth i luaws o honynt hwy, yn gystal ag i'r darllenwyr, ein bod yn gorfod ei roi i fyny. Mae yn siomedigaeth i ninau. Yr oedd y gwaith yn llafur cariad i ni: dyna paham yr ymgymerasom âg ef ar y dechreu, yn nghanol cyflawnder o ddyledswyddau ereill ag oedd yn galw am ein sylw, a buasem yn hollol barod i barhau y llafur hyd y caniata ein gallu, pe buasai y gefnogaeth i'r cyhoeddiad yn cyfiawnhau hyny. Yn ngwyneb yr amgylchiadau, modd bynag, teimlwn nad oes dim i'w wneud ond ei roi i fyny ar hyn o bryd. Felly bydd y rhifyn presenol yn dwyn yr Ail Gyfres o Newyddion Da i derfyniad. Wrth gilio y mae yn dda genym allu credu fod dyddordeb eîn Cyfun- deb yn y Genadaeth yn myned ar gynydd, ac na bu yr " ysbryd cenadol" erioed cyn gryfed yn ein plith ag ydyw yn awr. Ac nid oes amheuaeth nad ydyw sêl dros lwyddiant ein Cenadaeth Dramor yn troi yn nerth yn ein heglwysi i gyflawni y gwaith angenrheidiol yn ein gwlad ein hunain. Y Golygydd. Y PARCHEDIG JACOB TOMLIN. NW dyeithr ond odid yw yr uchod i lawer o'n darllenwyr, ond yr » ydym yn awyddus i'w ddwyn i'w sylw o herwydd ei gysylltiad agos â chychwyniad ein Cenadaeth. Dichon y bu rhai yn gofýn cyn hyn pa fodd y daeth y Methodistiaid yn 1840 i wybod am Fryniau Khasia. Yr ateb yw mai y gẁr uchod a roddodd yr hysbys- rwydd am dariynt, ac a gymhellodd y Methodistiaid, os cychwynent Gym- deíthas o'r eiddynt eu hunain, ar wahan oddiwrth Gymdeithas Genadol Llundain, i'w cymeryd yn faes i lafurio ynddo. Gwneir y ffaith hon yn hysbys yn Adroddiad Cyntaf y Genadaeth yn y geiriau canlynol:— " Yr oedd y Cyfeisteddwyr, hyd yn hyn, heb benderfynn i ba barth o'r India y byddai oreu danfon y Cenadwr,—pa un ai i Gujurah, lle yr anogai y Parch. Dr. Wilson, o Bombay, hwynt i'w ânfon, ai ynte i Fryniau Khasia, lle y cynghorai y Parch. J. Tomlin y Methodistiaid Calfinaidd, er ys blynyddau weithian, i sefydlu Cenadaeth. Tueddid hwy, modd bynag, i roddi y flaenoriaeth yn hytrach i Fryniau Khasia, canys deallasant