Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWYDDION DA Cyf. II. Rhif. 23] TACHWEDD, 1893. [Ail Gyfres. CHRISTIAN F. SCHWARTZ. ©IGON tebyg nad yw yr enw uchod yn adnabyddus ond i nifer bychan iawn o ddarllenwyr Newyddion Da, ac eto nid oes odid i enw mwy teilwng o goffadwriaeth barchus gan bawb sydd yn teimlo graddau o ysbryd a sêl genadol. Dywed un ysgrifenydd enwog fod Schwartz yn mhlith y Cenadon yn llanw lle cyffelyb i Milton yn mhlith y beirdd—ei fod yn dysgleirio fel seren ar ei ben ei hun. " Tueddir ni," meddai yr un ysgrifenydd, " wedi darllen ac astudio ei hanes, i gysylltu ei enw gydag apostolion ac efengylwyr y cyfnod boreuol yn hytrach na chydag enwau dynion mwy diweddar"—y fath oedd dylanwad ac effeithiau ei fywyd a'i weinidogaeth. Almaenwr oedd Schwartz, genedigol o Sonnenburg yn nhalaeth Brandenberg yn Prussia. Ganwyd ef yn 1726, a bu farw yn 1798. Felly gwelir ei fod yn cydoesi â Whitfield a Wesley, a Harris a Rowlands, arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr a Chymru. Isel oedd y teimlad crefyddol ar y pryd yn yr Almaen, fel yn Lloegr ac