Skip to main content

NEWYDDION DA Cyf. II. Rhif. 20.] AWST, 1893. [Ail Gyfres. Y PARCHEDIG THOMAS JONES YR AIL. MAE yn dda genym allu gosod o flaen ein darllenwyr ddarlun o'r Parchedig Thomas Jones, yr ail Genadwr o'r enw hwnw a fu yn llafurio ar Fryniau Khasia. Yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o'r ffeithiau canlynol yn hanes ei fywyd i'w frawd, y Parch. Evan Jones, Adwy'r Clawdd. Ganwyd ef yn y Glyn, yn Mhlwyf Llangower, gerllaw y Bala, yn Awst, 1828. Ymddengys mai ychydig o fanteision addysg a gafodd yn ei febyd. Gartref, yn gweithio ar y ûerm, y bu nes yr oedd tua deunaw mlwydd oed; ond ni bu erioed yn enwog am ei fedrusrwydd gyda'r gorchwylion y gofynid iddo eu cyflawni. Nid oedd ei iechyd un amser yn gryf; a thrwy absenoldeb meddwl gwnai weithiau droion lledchwith. Yn 1846, sef pan oedd yn 18 mlwydd oed, aeth i'r ysgol ddyddiol a gedwid ar y pryd yn y Pandy, Llanuwchllyn, gan Mr. Edward Edwards, Penygeulan, tad y diweddar Barchedig Owen Edwards, B.A., Melbourne. Yr oedd Mr. Edwards yn cadw yr ysgol oddiar deimlad dwfn o angen ieuengctyd y fro am addysg, a pharodrwydd i ymaberthu er mwyn cyf lenwi yr angen ; oblegyd yr oedd ar y pryd yn llawn gofalon mewn cysylltiadau ereill. " Yr oedd fy mrawd," medd Mr. Jones, " yn yr ysgol hon pan ddaeth Dirprwywyry Llyfrau Gleision trwy Gymru. Ac os nad wyf yn camgymeryd, efe oedd y bachgen 18 oed y cyfeirir ato yn adroddiad un o'r dirprwywyr, yr hwn a roes atebiad lledchwith i gwestiwn syml. Gofynai y Dirprwywr, ? Pa fodd y mae y byd yn cael ei ranu ?* Oherwydd fod y gofynwr yn siarad. yn aneglur tybiodd fý mrawd mai 'Pa fodd y mae Cymru yn cael ei rhanu V oedd y cwestiwn, ac atebodd